Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Derbyn a nodi cofnodion yr Is-bwyllgor Craffu Hamdden a Diwylliant PDF 65 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bod cofnodion yr Is-bwyllgor Hamdden a Diwylliant
ar 29 Ionawr 2019, 3 Mai 2019, 5 Medi 2019 a 22 Tachwedd 2019 yn cael eu nodi. |
|||
Craffu Cyn Penderfynu
I.
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Data Rheoli Perfformiad Chwarterol 2019-2020 Perfformiad Chwarter 2 (1 Ebrill 2019 – 30 Medi
2019) Derbyniodd yr Aelodau ddata rheoli perfformiad,
cwynion a chanmoliaethau chwarter 2 am y cyfnod 1 Ebrill 2019 i 30 Medi 2019 ar
gyfer y Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes fel y nodir yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Trafodwyd y gostyngiad yn y ffigurau presenoldeb, a
nododd yr aelodau fod y feirws salwch diweddar mewn ysgolion wedi effeithio ar
y ffigurau hyn. Yn dilyn craffu, cytunwyd i nodi'r adroddiad. Adolygiad o'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd Derbyniodd y pwyllgor drosolwg o'r adolygiad o'r
Gwasanaeth Llyfrgelloedd yng Nghastell-nedd Port Talbot fel y nodir yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Rhoddwyd eglurhad na fyddai'r cynnig i symud
pencadlys y llyfrgell i Ysgol Ynysmaerdy yn effeithio ar lyfrgelloedd eraill yn
yr ardal gan y byddai'r pencadlys yn
gyfleuster storio ac y byddai'n Ganolfan Adnoddau Llyfrgell Addysg ar gyfer
Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Clywodd y pwyllgor fod yr adolygiad yn un
cynhwysfawr a oedd yn cynnwys llyfrgelloedd cymunedol. O ganlyniad, byddai swyddogion yn cyfarfod
â'r holl lyfrgelloedd cymunedol ym mis Ionawr 2020 i gael gwybod pa gymorth yr
oedd ei angen arnynt wrth symud ymlaen. Gofynnodd
yr Aelodau i'w gwerthfawrogiad gael ei roi i staff llyfrgelloedd, cymunedau (a
gymerodd yr awenau o ran rhedeg llyfrgelloedd) a gwirfoddolwyr am yr holl
ymrwymiad a'r ymroddiad yr oeddent wedi'u dangos dros y blynyddoedd diwethaf o
ran sicrhau bod y gwasanaeth llyfrgelloedd yn parhau i ffynnu. Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet. Rhaglen Gwella Ysgolion Strategol - Cynnig i
sefydlu darpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion oed uwchradd ag Anhwylder y
Sbectrwm Awtistig (ASA). Derbyniwyd gwybodaeth am y cynnig i sefydlu
darpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion oedran uwchradd ag anhwylder y
sbectrwm awtistig (ASD) yn Ysgol Gyfun Dŵr y Felin fel y nodir yn yr adroddiad
a ddosbarthwyd. Tynnwyd sylw at y ffaith bod 17 o ymatebion i'r
ymgynghoriad wedi dod i law, a bod pob un ohonynt yn mynegi cefnogaeth i'r
cynnig. Byddai'r ysgol yn derbyn cyllid ychwanegol i
gefnogi'r cynnig. Byddai staff arbenigol
yn cael eu recriwtio a fyddai o fudd i bob ysgol, drwy rannu eu gwybodaeth a'u
harfer gan fod y strategaethau ar gyfer plant nad oes ganddynt ddatganiad yr un
fath. Mynegwyd pryder ynghylch y cynllun i ganiatáu i'r
bws sy’n dod â phlant i'r ddarpariaeth arbenigol hon fynd i iard yr ysgol gan
fod problemau eisoes o ran cerbydau'n cael mynediad i'r ardal hon. Esboniodd y Swyddog fod mesurau wedi'u rhoi
ar waith i sicrhau diogelwch y plant ac y byddai'r plant yn cael eu goruchwylio
yn yr ardal reoledig wrth iddynt gyrraedd a gadael. Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet. |
|||
Blaenraglen Waith 2019-20 PDF 75 KB Cofnodion: Nododd yr Aelodau Flaenraglen Waith 2019/20. Tynnwyd sylw at y ffaith y bydd ymweliadau
safle â Bae Baglan a Bro Dur yn cael eu cynnal ar 3 Chwefror 2020. Yn ogystal, byddai Seminar yr Holl Aelodau ar
Ddiwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael ei gynnal ar 6 Chwefror 2020. Anogwyd pob aelod i fod yn bresennol. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion:
Craffu Cyn Penderfynu Dewisodd y pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol
ar agenda Bwrdd y Cabinet: Adolygiad Perfformiad Chwe Misol Hamdden Celtic
2019-2020 ac Adolygiad o Berfformiad Hamdden Celtic 2019/20 Atgoffwyd y pwyllgor fod yr Is-bwyllgor Hamdden a
Diwylliant wedi craffu ar y ddwy eitem yn flaenorol ac na fyddent yn cael eu
hystyried eto ond bod y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor am hysbysu'r pwyllgor
ehangach ynghylch eu canfyddiadau. Cytunwyd y byddai Hamdden Celtic yn mynd i gyfarfod
yr Is-bwyllgor Hamdden a Diwylliant bob chwarter ac yn mynychu cyfarfodydd y
Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Diwylliant bob chwe mis. Yn dilyn craffu, cytunwyd i nodi'r adroddiad. . |