Lleoliad: Remotely via Teams
Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod: Y Cynghorydd S Reynolds
Parthed: Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion gan ei bod yn Llywodraethwr
yn YGG Gwauncaegurwen ond mae ganddi oddefeb i siarad a phleidleisio. Y Cynghorydd R Mizen
Parthed: Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion gan ei fod yn Llywodraethwr
yn Ysgol Gynradd Cwmafan ac Ysgol Cwm Brombil ond mae ganddo oddefeb i siarad a
phleidleisio. Y Cynghorydd M Crowley
Parthed: Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion gan ei fod yn Llywodraethwr
yn Ysgol Gynradd Awel y Môr ac Ysgol Gynradd Tywyn ond mae ganddo oddefeb i
siarad a phleidleisio. Y Cynghorydd S Harris
Parthed: Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion gan ei bod yn Llywodraethwr
yn Ysgol Gynradd y Creunant ond mae ganddi oddefeb i siarad a phleidleisio. Y Cynghorydd D Keogh
Parthed: Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion gan ei fod yn Llywodraethwr
yn Ysgol Cwm Brombil ond mae ganddo oddefeb i siarad a phleidleisio. Y Cynghorydd S Miller
Parthed: Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion gan ei bod yn Llywodraethwr
yn Ysgol Gynradd Melin ac Ysgol Gynradd y Gnoll ond mae ganddi oddefeb i siarad
a phleidleisio. Y Cynghorydd M Spooner Parthed:
Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion gan ei bod yn Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Rhos
ond mae ganddi oddefeb i siarad a phleidleisio. Y Cynghorydd M Protheroe
Parthed: Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion gan ei fod yn Llywodraethwr
yn Ysgol
Gyfun Cefn Saeson ac Ysgol Gynradd Melin ond mae ganddo oddefeb i siarad a
phleidleisio. Y Cynghorydd S Renkes
Parthed: Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion gan ei bod yn Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Baglan ac
Ysgol Gynradd Blaenbaglan ond mae ganddi oddefeb i siarad a phleidleisio. Y Cynghorydd D Whitelock
Parthed: Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion gan ei fod yn Llywodraethwr
yn Ysgol Cwm Brombil ond mae ganddo oddefeb i siarad a phleidleisio. Y Cynghorydd R Wood Parthed: Derbyniadau/lleoedd mewn
ysgolion gan ei fod yn Llywodraethwr yn Ysgol Bae Baglan ond mae ganddo oddefeb
i siarad a phleidleisio. M Caddick Parthed:
Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion gan ei bod yn Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd
San Joseff, Castell-nedd ond mae ganddo oddefeb i siarad a phleidleisio. Y Cynghorydd A Lockyer
Parthed: Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion gan ei fod yn Llywodraethwr
yn Ysgol Gynradd y Gnoll a YGG Castell-nedd ond mae ganddo oddefeb i siarad a
phleidleisio. Y Cynghorydd P Rees
Parthed: Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion gan ei fod yn Llywodraethwr Ysgol Gynradd Crynallt
ac Ysgol Gyfun Cefn Saeson ond mae ganddo oddefeb i siarad a phleidleisio. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 133 KB ·
14 Hydref 2021 ·
1 Tachwedd 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd blaenorol a
gynhaliwyd ar 14 Hydref 2021 ac 1 Tachwedd 2021. |
|
Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion PDF 427 KB Cofnodion: Rhoddwyd adroddiad
dilynol i'r Pwyllgor ar fater derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion; Gofynnodd yr
Aelodau am fwy o ddata o ran niferoedd a lleoliadau yn ysgolion Castell-nedd
Port Talbot. Mynegwyd pryderon
ynghylch maint dosbarthiadau rhai o'r ysgolion cynradd; roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn manylu bod gan rai dosbarthiadau dros 30 o ddisgyblion mewn un
dosbarth, a allai fod yn gwbl anhydrin mewn rhai achosion. Nododd Swyddogion fod
ysgolion yn anelu at hyd at 30 disgybl fesul dosbarth, fodd bynnag nid oedd hwn
yn ffigur gorfodol ar gyfer disgyblion iau a throsodd; Nid oedd awdurdodau
lleol yn ymwneud â phennu maint y dosbarthiadau, pennwyd a gosodwyd hyn gan
ysgolion unigol. Ychwanegwyd y gallai awdurdodau lleol gefnogi a chynghori
ysgolion ar y niferoedd; fodd bynnag, gwnaed y penderfyniad terfynol gan yr
ysgolion. O ran y niferoedd
disgyblion, tynnwyd sylw at y ffaith bod y rhain yn newid yn ddyddiol; ar hyn o
bryd roedd lleoedd yn y rhan fwyaf o ysgolion, ac eithrio tair ysgol oedd tu
hwnt i'r trothwy niferoedd. Hysbyswyd yr Aelodau, unwaith y cyrhaeddwyd y
trothwy niferoedd, a chyn cwblhau derbyniad rheolaidd, y byddai Swyddogion yn
cysylltu â'r ysgolion i nodi a allai'r ysgol ddarparu ar gyfer disgyblion
ychwanegol mewn unrhyw ffordd; er enghraifft drwy newid cynllun ystafelloedd
dosbarth. Soniwyd bod y Pennaeth, ym mhob achos lle'r oedd ysgol yn agosáu at y
trothwy niferoedd, wedi cytuno i dderbyniadau pellach; nid yw'r cyngor yn
gorfodi hyn, fodd bynnag byddai Swyddogion yn cysylltu â'r ysgol i ofyn iddynt
ei ystyried. Mynegodd yr Aelodau eu
pryderon o ran niferoedd disgyblion mewn ysgolion yn y dyfodol; yn arbennig y
rheini a oedd eisoes yn llawn, ac wrth ystyried datblygiadau tai newydd a
fyddai'n dod â rhagor o blant i'r ardal. Gofynnwyd a oedd ateb i'r broblem hon.
Dywedodd Swyddogion ei bod yn anodd iawn rhagweld a nodi twf yn y gymuned, ac
ym mha leoliadau y bydd hyn yn digwydd; yn ogystal â hyn, y lefelau lleoedd y
dylid adeiladu ysgolion ynddynt. Soniwyd bod llawer o broblemau o ran adeiladu
ysgolion newydd a oedd yn fwy na'r niferoedd yn yr ysgolion presennol. Fodd
bynnag, sicrhawyd yr Aelodau fod Swyddogion yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda
datblygwyr a chynllunwyr, a'u bod yn rhan o waith y Cynllun Datblygu Lleol
(CDLl) newydd; roedd hyn yn golygu bod Swyddogion yn ymwybodol o'r lleoliadau
lle byddai datblygiadau tai newydd yn cael eu hadeiladu. Nodwyd bod cyfrifiad
yn cael ei ddefnyddio i geisio rhagweld faint o blant fyddai'n dod o stadau tai
penodol, ac yn aml roedd yn syndod pa mor fach yr oedd y nifer hwnnw'n gallu
bod. Yn ogystal â hyn,
esboniwyd bod Swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â Thîm Derbyniadau'r cyngor
pryd bynnag yr oedd cynigion ysgolion newydd yn cael eu hystyried, roedd amryw
o Swyddogion yn cymryd rhan i lywio'r broses. Esboniwyd bod
Swyddogion yn ailymweld â'r lefelau lleoedd ar ôl iddynt gael eu sefydlu i nodi
a yw'r cyfrifiadau lleoedd yn bodloni'r hyn oedd ei angen yn yr ardal. Hysbyswyd yr Aelodau fod y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2a |
|
Cofnodion: Nododd yr Aelodau’r Blaenraglen Waith Craffu
Addysg, Sgiliau a Diwylliant. |