Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Diwylliant - Dydd Iau, 23ain Ionawr, 2020 2.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o Fuddiannau

Cofnodion:

Cafwyd datganiadau o fudd gan y Cynghorwyr canlynol ar ddechrau’r cyfarfod:

 

Y Cynghorydd C.M.Crowley

Par: Adroddiad Presenoldeb Ysgol am ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Tywyn ac Ysgol Gynradd Awel y Môr a chadarnhaodd fod ganddo ganiatâd i siarad a phleidleisio.

 

Y Cynghorydd S.Harris

 

Par: Adroddiad Presenoldeb Ysgol am ei bod yn llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Crynant a chadarnhaodd fod ganddi ganiatâd i siarad a phleidleisio.

 

Y Cynghorydd D.Whitelock

Par: Adroddiad Presenoldeb Ysgol am ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol Cwm Brombil a chadarnhaodd fod ganddo ganiatâd i siarad a phleidleisio.

 

Y Cynghorydd S. Ap Dafydd

Par: Adroddiad Presenoldeb Ysgol am ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol a chanolfan chweched dosbarth Sant Joseff, ac Ysgol Bae Baglan a chadarnhaodd fod ganddo ganiatâd i siarad a phleidleisio.

 

Y Cynghorydd M.Protheroe

Par: Adroddiad Presenoldeb Ysgol am ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol Gyfun Cefn Saeson ac Ysgol Gynradd Melin a chadarnhaodd fod ganddo ganiatâd i siarad a phleidleisio.

 

Y Cynghorydd R. Mizen

Par: Adroddiad Presenoldeb Ysgol am ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Cwmafan ac Ysgol Cwm Brombil a chadarnhaodd fod ganddo ganiatâd i siarad a phleidleisio.

 

Hefyd mae ganddo ŵyrion sy’n mynychu ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot.

 

 

 

Y Cynghorydd S. Reynolds

Par: Adroddiad Presenoldeb Ysgol am ei bod yn llywodraethwr yn Ysgol Gwaun Gae Gurwen a chadarnhaodd fod ganddi ganiatâd i siarad a phleidleisio.

 

Y Cynghorydd J.D.Morgan

Par: Adroddiad Presenoldeb Ysgol am ei fod yn gadeirydd y llywodraethwyr yn YGG Cwm Nedd a chadarnhaodd fod ganddo ganiatâd i siarad a phleidleisio.

 

Y Cynghorydd J.Jones

Par: Adroddiad Presenoldeb Ysgol am ei bod yn llywodraethwr yn Ffederasiwn Ysgolion Cwm Afan a chadarnhaodd fod ganddi ganiatâd i siarad a phleidleisio.

 

M.Caddick

Par: Adroddiad Presenoldeb Ysgol am ei bod yn llywodraethwr ysgol a chadarnhaodd fod ganddi ganiatâd i siarad a phleidleisio.

 

Y Cynghorydd A.R.Lockyer

Par: Adroddiad Presenoldeb Ysgol am ei fod yn gadeirydd y llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd y Gnoll ac yn llywodraethwr yn YGG Castell-nedd a chadarnhaodd fod ganddo ganiatâd i siarad a phleidleisio.

 

Hefyd mae ganddo ŵyrion sy’n mynychu ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot a pherthynas sy’n gweithio yn yr ysgolion hynny.

 

Y Cynghorydd P.A.Rees

Par: Adroddiad Presenoldeb Ysgol am ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol Gyfun Cefn Saeson ac Ysgol Gynradd Crynallt a chadarnhaodd fod ganddo ganiatâd i siarad a phleidleisio.

 

Hefyd mae ganddo ŵyrion sy’n mynychu ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot.

 

 

 

2.

Ddiweddaru ar Llais Disgybl/Cyngor Ieuenctid (yn amgaedig yn papurau Bwrdd Cabinet)

Addroddiad y Penaeth o Cyfranogiad

 

Cofnodion:

Derbyniodd y Cynghorwyr ddiweddariad am Lais y Disgybl a gafodd ei gynnwys yn Niweddariad y Gwasanaeth Ieuenctid fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Roedd y pwyllgor yn falch o lwyddiant Cynllun Gwobr Dug Caeredin ac Aur Agored gyda thros 400 o bobl ifanc yn ennill y wobr a gofynnwyd i’w gwerthfawrogiad gael ei gyfleu i’r staff sy’n cefnogi’r bobl ifanc sy’n dilyn y wobr.

 

Cafwyd trafodaeth am y cynnydd mewn presenoldeb yn y Clybiau Ieuenctid a gofynnwyd a ellid cylchredeg y data diweddaraf am y niferoedd hyn i’r pwyllgor.

 

Rhoddwyd eglurhad bod fformat y data a oedd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad wedi’i gasglu a’i gyflwyno yn unol â gofyniad Llywodraeth Cymru ac nad oedd data’n cael ei ddefnyddio i gymharu perfformiad o flwyddyn i flwyddyn.

 

Amlygwyd bod y ddarpariaeth clybiau ieuenctid bresennol wedi’i darparu ar sail angen ac wedi’i sefydlu mewn ardaloedd difreintiedig; yn hanesyddol, roedd rhai clybiau wedi’u sefydlu mewn ardaloedd na fyddent yn bodloni’r meini prawf presennol ond byddai’r clybiau hynny’n parhau.

 

At hynny, mae arolygon/mapio’n digwydd bob 3 blynedd ac yn ystyried grwpiau sy’n cael eu trefnu gan sefydliadau gwirfoddol. Mae’r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r grwpiau hynny i’w cefnogi er mwyn cynyddu’r ddarpariaeth sy’n bodoli eisoes.

 

Cafwyd cadarnhad mai dim ond ar draul colli darpariaeth sy’n bodoli eisoes y gellid trefnu unrhyw glybiau ieuenctid newydd, am nad oedd unrhyw gyllid ychwanegol ar gael i gynyddu darpariaeth bresennol y Cyngor. Roedd cyllid bob amser yn bryder yn enwedig mewn perthynas â’r ffaith bod darpariaeth grant gan Lywodraeth Cymru’n dod ar sail un flwyddyn ar y tro. Mae hyn yn golygu bod cynllunio hirdymor yn anodd am fod y meini prawf ar gyfer pob ffrwd gyllid yn gallu newid ac mewn rhai achosion, mae’n dod i ben. Ail-nododd y pwyllgor mor bwysig oedd hi bod y gwasanaeth hanfodol hwn yn parhau.

 

Gofynnwyd am ddata pellach ynghylch y ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc sy’n NEET (heb fod mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant).  Esboniodd swyddogion mai nod y gwasanaeth ieuenctid yw gweithio gyda’r bobl ifanc nad ydynt yn ymgysylltu â’u gwasanaethau.

 

Mewn adroddiadau yn y dyfodol, bydd swyddogion yn ystyried nodi’r rheswm pam nad oedd effaith ar y cymoedd.

 

Ar gais y Cynghorwyr, dylid ystyried gwahodd person ifanc i ddod yn aelod craffu o’r pwyllgor hwn.

 

Ar ôl craffu, cytunwyd y byddai’r adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

3.

Craffu Cyn Penderfynu

     I.        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

 

Cofnodion:

Penderfynodd y pwyllgor graffu’r eitemau canlynol i fwrdd y cabinet:

 

Presenoldeb Ysgol

 

Cafodd y Cynghorwyr wybodaeth a data mewn perthynas â phresenoldeb disgyblion Castell-nedd Port Talbot ac absenoliaeth barhaus fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Cafwyd trafodaeth am y gostyngiad mewn presenoldeb o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd a holwyd ai ar ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig oedd yr effaith yn bennaf. Esboniodd swyddogion fod nifer o ysgolion wedi’u heffeithio tua diwedd 2019 gan Norofeirws a gafodd effaith ar blant a staff ond nad oedd unrhyw ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi cau. Hefyd, gall fod lefel uwch o absenoldeb heb awdurdod mewn ysgolion nad ydynt mewn ardaloedd difreintiedig oherwydd bod nifer uwch o wyliau’n cael eu cymryd. Ar gais y Cynghorwyr, byddai data yn y dyfodol yn cynnwys yr ardal a’r rheswm dros yr absenoldeb.

 

Cafwyd trafodaeth bellach ynghylch mor bwysig oedd hi bod Cynghorwyr sy’n llywodraethwyr ysgol yn cadw codi mater presenoldeb mewn cyfarfodydd cyrff llywodraethu fel ei fod ar agendâu ysgolion yn gyson.

 

Ar ôl craffu, cytunwyd y dylid nodi’r adroddiad.

 

Caeau Chwarae ac Ystafelloedd Newid Lôn Longlands

 

Derbyniodd y pwyllgor wybodaeth am y cynnig i ddatgan bod y caeau chwarae a’r ystafelloedd newid yn Lôn Longlands, Margam, Port Talbot, yn ofer i ofynion strategol a gweithredol parhaus y Gwasanaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Cafwyd trafodaeth am y diffyg cyfleusterau chwaraeon yn yr ardal a gofynnwyd i hyn fod yn ystyriaeth yn ystod cynigion ynghylch defnyddio’r safle yn y dyfodol. Esboniodd swyddogion y byddai unrhyw benderfyniad ynghylch defnyddio’r safle yn y dyfodol yn dod o dan gylch gorchwyl y Bwrdd Cabinet Adnewyddu a Chynaliadwyedd.

 

Ar ôl craffu, roedd y pwyllgor yn cefnogi’r cynigion i fwrdd y cabinet eu hystyried.

 

 

4.

Blaenraglen Waith 2019/2 pdf eicon PDF 75 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd cadarnhad y byddai’r ymweliad safle i ysgolion yn cael ei gynnal ar 3 Chwefror ac nid 27 Ionawr 2020 fel y nodwyd yn y Flaenraglen Waith.