Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiadau o Fuddiannau Cofnodion: Cafwyd
datganiadau o fudd gan y Cynghorwyr canlynol ar ddechrau’r cyfarfod:
|
|||||||||||||||||||||||||
Ddiweddaru ar Llais Disgybl/Cyngor Ieuenctid (yn amgaedig yn papurau Bwrdd Cabinet) Addroddiad y Penaeth o Cyfranogiad Cofnodion: Derbyniodd
y Cynghorwyr ddiweddariad am Lais y Disgybl a gafodd ei gynnwys yn Niweddariad
y Gwasanaeth Ieuenctid fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Roedd
y pwyllgor yn falch o lwyddiant Cynllun Gwobr Dug Caeredin ac Aur Agored gyda
thros 400 o bobl ifanc yn ennill y wobr a gofynnwyd i’w gwerthfawrogiad gael ei
gyfleu i’r staff sy’n cefnogi’r bobl ifanc sy’n dilyn y wobr. Cafwyd
trafodaeth am y cynnydd mewn presenoldeb yn y Clybiau Ieuenctid a gofynnwyd a
ellid cylchredeg y data diweddaraf am y niferoedd hyn i’r pwyllgor. Rhoddwyd
eglurhad bod fformat y data a oedd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad wedi’i gasglu
a’i gyflwyno yn unol â gofyniad Llywodraeth Cymru ac nad oedd data’n cael ei
ddefnyddio i gymharu perfformiad o flwyddyn i flwyddyn. Amlygwyd
bod y ddarpariaeth clybiau ieuenctid bresennol wedi’i darparu ar sail angen ac
wedi’i sefydlu mewn ardaloedd difreintiedig; yn hanesyddol, roedd rhai clybiau
wedi’u sefydlu mewn ardaloedd na fyddent yn bodloni’r meini prawf presennol ond
byddai’r clybiau hynny’n parhau. At
hynny, mae arolygon/mapio’n digwydd bob 3 blynedd ac yn ystyried grwpiau sy’n
cael eu trefnu gan sefydliadau gwirfoddol. Mae’r Cyngor yn gweithio mewn
partneriaeth gyda’r grwpiau hynny i’w cefnogi er mwyn cynyddu’r ddarpariaeth
sy’n bodoli eisoes. Cafwyd cadarnhad mai dim ond ar draul colli
darpariaeth sy’n bodoli eisoes y gellid trefnu unrhyw glybiau ieuenctid newydd,
am nad oedd unrhyw gyllid ychwanegol ar gael i gynyddu darpariaeth bresennol y
Cyngor. Roedd cyllid bob amser yn bryder yn enwedig mewn perthynas â’r ffaith
bod darpariaeth grant gan Lywodraeth Cymru’n dod ar sail un flwyddyn ar y tro.
Mae hyn yn golygu bod cynllunio hirdymor yn anodd am fod y meini prawf ar gyfer
pob ffrwd gyllid yn gallu newid ac mewn rhai achosion, mae’n dod i ben.
Ail-nododd y pwyllgor mor bwysig oedd hi bod y gwasanaeth hanfodol hwn yn
parhau. Gofynnwyd
am ddata pellach ynghylch y ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc sy’n NEET (heb fod
mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant).
Esboniodd swyddogion mai nod y gwasanaeth ieuenctid yw gweithio gyda’r
bobl ifanc nad ydynt yn ymgysylltu â’u gwasanaethau. Mewn
adroddiadau yn y dyfodol, bydd swyddogion yn ystyried nodi’r rheswm pam nad
oedd effaith ar y cymoedd. Ar
gais y Cynghorwyr, dylid ystyried gwahodd person ifanc i ddod yn aelod craffu
o’r pwyllgor hwn. Ar
ôl craffu, cytunwyd y byddai’r adroddiad yn cael ei nodi. |
|||||||||||||||||||||||||
Craffu Cyn Penderfynu
I.
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu
(amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Penderfynodd
y pwyllgor graffu’r eitemau canlynol i fwrdd y cabinet: Presenoldeb
Ysgol Cafodd
y Cynghorwyr wybodaeth a data mewn perthynas â phresenoldeb disgyblion
Castell-nedd Port Talbot ac absenoliaeth barhaus fel y nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd. Cafwyd
trafodaeth am y gostyngiad mewn presenoldeb o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd
a holwyd ai ar ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig oedd yr effaith yn bennaf.
Esboniodd swyddogion fod nifer o ysgolion wedi’u heffeithio tua diwedd 2019 gan
Norofeirws a gafodd effaith ar blant a staff ond nad oedd unrhyw ysgolion yng
Nghastell-nedd Port Talbot wedi cau. Hefyd, gall fod lefel uwch o absenoldeb
heb awdurdod mewn ysgolion nad ydynt mewn ardaloedd difreintiedig oherwydd bod
nifer uwch o wyliau’n cael eu cymryd. Ar gais y Cynghorwyr, byddai data yn y
dyfodol yn cynnwys yr ardal a’r rheswm dros yr absenoldeb. Cafwyd
trafodaeth bellach ynghylch mor bwysig oedd hi bod Cynghorwyr sy’n
llywodraethwyr ysgol yn cadw codi mater presenoldeb mewn cyfarfodydd cyrff
llywodraethu fel ei fod ar agendâu ysgolion yn gyson. Ar
ôl craffu, cytunwyd y dylid nodi’r adroddiad. Caeau
Chwarae ac Ystafelloedd Newid Lôn Longlands Derbyniodd
y pwyllgor wybodaeth am y cynnig i ddatgan bod y caeau chwarae a’r ystafelloedd
newid yn Lôn Longlands, Margam, Port Talbot, yn ofer i ofynion strategol a
gweithredol parhaus y Gwasanaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes fel y nodwyd
yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Cafwyd
trafodaeth am y diffyg cyfleusterau chwaraeon yn yr ardal a gofynnwyd i hyn fod
yn ystyriaeth yn ystod cynigion ynghylch defnyddio’r safle yn y dyfodol.
Esboniodd swyddogion y byddai unrhyw benderfyniad ynghylch defnyddio’r safle yn
y dyfodol yn dod o dan gylch gorchwyl y Bwrdd Cabinet Adnewyddu a
Chynaliadwyedd. Ar
ôl craffu, roedd y pwyllgor yn cefnogi’r cynigion i fwrdd y cabinet eu
hystyried. |
|||||||||||||||||||||||||
Blaenraglen Waith 2019/2 PDF 75 KB Cofnodion: Rhoddwyd
cadarnhad y byddai’r ymweliad safle i ysgolion yn cael ei gynnal ar 3 Chwefror
ac nid 27 Ionawr 2020 fel y nodwyd yn y Flaenraglen Waith. |