Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Diwylliant - Dydd Iau, 25ain Tachwedd, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Remotely via Teams

Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiad o fudd ar

ddechrau'r cyfarfod:

 

Y Cynghorydd S Reynolds             Parthed: Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion gan ei bod yn Llywodraethwr yn YGG Gwauncaegurwen ond mae ganddi oddefeb i siarad a phleidleisio.

 

Y Cynghorydd R Mizen                  Parthed: Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion gan ei fod yn Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Cwmafan ac Ysgol Cwm Brombil ond mae ganddo oddefeb i siarad a phleidleisio.

 

Y Cynghorydd M Crowley               Parthed: Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion gan ei fod yn Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Awel y Môr ac Ysgol Gynradd Tywyn ond mae ganddo oddefeb i siarad a phleidleisio.

 

Y Cynghorydd S Harris                   Parthed: Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion gan ei bod yn Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd y Creunant ond mae ganddi oddefeb i siarad a phleidleisio.

 

Y Cynghorydd D Keogh                  Parthed: Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion gan ei fod yn Llywodraethwr yn Ysgol Cwm Brombil ond mae ganddo oddefeb i siarad a phleidleisio.

 

Y Cynghorydd S Miller                    Parthed: Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion gan ei bod yn Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Melin ac Ysgol Gynradd y Gnoll ond mae ganddi oddefeb i siarad a phleidleisio.

 

Y Cynghorydd M Spooner              Parthed: Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion gan ei bod yn Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Rhos ond mae ganddi oddefeb i siarad a phleidleisio.

 

Y Cynghorydd M Protheroe            Parthed: Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion gan ei fod yn Llywodraethwr yn Ysgol Gyfun Cefn Saeson ac Ysgol Gynradd Melin ond mae ganddo oddefeb i siarad a phleidleisio.

 

Y Cynghorydd S Renkes                Parthed: Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion gan ei bod  yn Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Baglan ac Ysgol Gynradd Blaenbaglan ond mae ganddi oddefeb i siarad a phleidleisio.

 

Y Cynghorydd D Whitelock            Parthed: Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion gan ei fod yn Llywodraethwr yn Ysgol Cwm Brombil ond mae ganddo oddefeb i siarad a phleidleisio.

 

Y Cynghorydd R Wood                   Parthed: Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion gan ei fod yn Llywodraethwr yn Ysgol Bae Baglan ond mae ganddo oddefeb i siarad a phleidleisio.

 

M Caddick                                          Parthed: Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion gan ei bod yn Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd San Joseff, Castell-nedd ond mae ganddo oddefeb i siarad a phleidleisio.

 

Y Cynghorydd A Lockyer                Parthed: Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion gan ei fod yn Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd y Gnoll a YGG Castell-nedd ond mae ganddo oddefeb i siarad a phleidleisio.

 

Y Cynghorydd P Rees                    Parthed: Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion gan ei fod yn Llywodraethwr Ysgol Gynradd Crynallt ac Ysgol Gyfun Cefn Saeson ond mae ganddo oddefeb i siarad a phleidleisio.

 

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 133 KB

·        14 Hydref 2021

·        1 Tachwedd 2021

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd blaenorol a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2021 ac 1 Tachwedd 2021.

 

2a

Derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion pdf eicon PDF 427 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd adroddiad dilynol i'r Pwyllgor ar fater derbyniadau/lleoedd mewn ysgolion; Gofynnodd yr Aelodau am fwy o ddata o ran niferoedd a lleoliadau yn ysgolion Castell-nedd Port Talbot.

Mynegwyd pryderon ynghylch maint dosbarthiadau rhai o'r ysgolion cynradd; roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn manylu bod gan rai dosbarthiadau dros 30 o ddisgyblion mewn un dosbarth, a allai fod yn gwbl anhydrin mewn rhai achosion. Nododd Swyddogion fod ysgolion yn anelu at hyd at 30 disgybl fesul dosbarth, fodd bynnag nid oedd hwn yn ffigur gorfodol ar gyfer disgyblion iau a throsodd; Nid oedd awdurdodau lleol yn ymwneud â phennu maint y dosbarthiadau, pennwyd a gosodwyd hyn gan ysgolion unigol. Ychwanegwyd y gallai awdurdodau lleol gefnogi a chynghori ysgolion ar y niferoedd; fodd bynnag, gwnaed y penderfyniad terfynol gan yr ysgolion.

O ran y niferoedd disgyblion, tynnwyd sylw at y ffaith bod y rhain yn newid yn ddyddiol; ar hyn o bryd roedd lleoedd yn y rhan fwyaf o ysgolion, ac eithrio tair ysgol oedd tu hwnt i'r trothwy niferoedd. Hysbyswyd yr Aelodau, unwaith y cyrhaeddwyd y trothwy niferoedd, a chyn cwblhau derbyniad rheolaidd, y byddai Swyddogion yn cysylltu â'r ysgolion i nodi a allai'r ysgol ddarparu ar gyfer disgyblion ychwanegol mewn unrhyw ffordd; er enghraifft drwy newid cynllun ystafelloedd dosbarth. Soniwyd bod y Pennaeth, ym mhob achos lle'r oedd ysgol yn agosáu at y trothwy niferoedd, wedi cytuno i dderbyniadau pellach; nid yw'r cyngor yn gorfodi hyn, fodd bynnag byddai Swyddogion yn cysylltu â'r ysgol i ofyn iddynt ei ystyried.

Mynegodd yr Aelodau eu pryderon o ran niferoedd disgyblion mewn ysgolion yn y dyfodol; yn arbennig y rheini a oedd eisoes yn llawn, ac wrth ystyried datblygiadau tai newydd a fyddai'n dod â rhagor o blant i'r ardal. Gofynnwyd a oedd ateb i'r broblem hon. Dywedodd Swyddogion ei bod yn anodd iawn rhagweld a nodi twf yn y gymuned, ac ym mha leoliadau y bydd hyn yn digwydd; yn ogystal â hyn, y lefelau lleoedd y dylid adeiladu ysgolion ynddynt. Soniwyd bod llawer o broblemau o ran adeiladu ysgolion newydd a oedd yn fwy na'r niferoedd yn yr ysgolion presennol. Fodd bynnag, sicrhawyd yr Aelodau fod Swyddogion yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda datblygwyr a chynllunwyr, a'u bod yn rhan o waith y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd; roedd hyn yn golygu bod Swyddogion yn ymwybodol o'r lleoliadau lle byddai datblygiadau tai newydd yn cael eu hadeiladu. Nodwyd bod cyfrifiad yn cael ei ddefnyddio i geisio rhagweld faint o blant fyddai'n dod o stadau tai penodol, ac yn aml roedd yn syndod pa mor fach yr oedd y nifer hwnnw'n gallu bod.

Yn ogystal â hyn, esboniwyd bod Swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â Thîm Derbyniadau'r cyngor pryd bynnag yr oedd cynigion ysgolion newydd yn cael eu hystyried, roedd amryw o Swyddogion yn cymryd rhan i lywio'r broses.

Esboniwyd bod Swyddogion yn ailymweld â'r lefelau lleoedd ar ôl iddynt gael eu sefydlu i nodi a yw'r cyfrifiadau lleoedd yn bodloni'r hyn oedd ei angen yn yr ardal.

Hysbyswyd yr Aelodau fod y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2a

3.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 450 KB

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau’r Blaenraglen Waith Craffu Addysg, Sgiliau a Diwylliant.