Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fudd ar
ddechrau'r cyfarfod: Y Cynghorydd S.Reynolds - Adroddiad y Pennaeth Cyfranogiad – Eitem 4
Rhaglen Gefnogaeth yr Haf Gwasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot – gan
ei bod yn Ymddiriedolwr Canolfan Maerdy
|
|||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 67 KB •
24 Hydref 2019 •
18 Rhagfyr 2019 •
16 Ionawr 2020 •
23 Ionawr 2020 • 23 Ionawr 2020 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion cyfarfodydd canlynol y
Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Diwylliant: ·
24 Hydref 2019 ·
18 Rhagfyr 2019 ·
16 Ionawr 2020 ·
23 Ionawr 2020 ·
23 Gorffennaf 2020 |
|||
Dysgu cyfunol yng nghyfnod allweddol 4 ac arholiadau ar gyfer 2021 PDF 72 KB Cofnodion: Cafodd yr Aelodau ddiweddariad mewn perthynas â
Dysgu Cyfunol yng Nghyfnod Allweddol 4 ac arholiadau ar gyfer 2021. Rhoddodd swyddogion ac Aelodau ganmoliaeth i
ysgolion, rhieni, gwarcheidwaid a disgyblion Castell-nedd Port Talbot am eu
hymdrechion i addasu i'r dull dysgu cyfunol newydd hwn. Nodwyd bod ysgolion wedi bod yn addasu i ddull
dysgu cyfunol sy'n cynnwys dysgu o bell, ffrydio byw, gwersi wedi'u recordio a
chyfarfodydd wyneb yn wyneb. Roedd yr Aelodau'n gwerthfawrogi'r gwaith a wnaed
i hwyluso hyn a gofynnwyd bod y Pwyllgor yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y
pwnc hwn yn barhaus. Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch arholiadau mewn
perthynas ag ysgolion yn darparu asesiadau i ragfynegi gradd disgybl yn hytrach
nag arholiad ac a gafwyd unrhyw adborth gan athrawon ar y broses hon. Nodwyd y
cafwyd adborth gan athrawon ac roedd trafodaethau'n cael eu cynnal yn barhaus
ar sut y byddai'r broses hon yn gweithio. Rhoddodd y Pennaeth Trawsnewid ddiweddariad llafar
mewn perthynas â'r Grant TGCh ar gyfer Dysgu Cyfunol. Nodwyd bod y Grant Hwb yn
bartneriaeth o fewn yr Awdurdod Lleol. Mae'n sicrhau nad oes unrhyw blentyn o
dan anfantais oherwydd ei ardal ddaearyddol o ran ei gysylltedd a'i ddyfeisiau.
Oherwydd COVID-19 roedd yn bwysig bod gan ddisgyblion fynediad at ddyfais TGCh
i weithio gartref. Oherwydd y cynnydd a fu o ran prynu dyfeisiau ar draws yr
holl Awdurdodau Lleol, bu prinder dyfeisiau, gan arwain at oedi mewn archebion.
Mae'r Tîm Gwasanaethau Digidol wedi sicrhau bod y disgyblion hynny heb ddyfais
neu gysylltedd wedi cael gliniaduron wedi'u hadnewyddu a 'MiFi'. Tynnodd yr Aelodau sylw at ddyfyniad a nodwyd yn yr
adroddiad: 'Ansawdd yr addysgu, yn hytrach na sut y caiff y gwersi eu
cyflwyno'. Canmolodd yr Aelodau'r dull hwn. Gofynnodd yr Aelodau am adborth ar sut roedd dysgu
cyfunol yn gweithio mewn colegau. Cadarnhaodd swyddogion y byddent yn codi hyn
gyda'r colegau. Ar ôl craffu arno, nododd y pwyllgor yr adroddiad.
|
|||
Gwasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot - Rhaglen Gefnogaeth yr Haf PDF 88 KB Cofnodion: Cafodd yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf am Raglen
Gefnogaeth yr Haf yr oedd y Gwasanaeth Ieuenctid wedi'i darparu. Nodwyd bod
cyllid yn cael ei ddarparu 3 wythnos cyn gwyliau'r haf a oedd yn rhoi amser
cyfyngedig i'r Gwasanaeth Ieuenctid gynllunio ffordd ymlaen. Nodwyd bod yr
adroddiad yn manylu ar y gefnogaeth ddarperir gan y Gwasanaeth Ieuenctid i
ddisgyblion diamddiffyn a lleoliadau gofal plant ynghyd â phartneriaid a oedd
hefyd yn cynnig cefnogaeth. Canmolodd yr Aelodau'r tîm am eu hymdrechion ar
ddarparu Rhaglen Gefnogaeth yr Haf gan ystyried bod ganddynt amserlen dynn.
Tynnodd yr Aelodau sylw hefyd at y ffaith bod yr adborth gan ddisgyblion a
rhieni yn rhagorol. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.
|
|||
Cofnodion: Cafodd yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf am
adroddiad y Gwasanaeth Cynhwysiad, a oedd yn darparu trosolwg o'r gefnogaeth a
roddwyd i blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol. Nodwyd y byddai angen
cynnal unrhyw drafodaethau sy'n ymwneud â'r astudiaethau achos mewn sesiwn
breifat. Rhannodd yr Aelodau eu pryderon mewn perthynas â'r
risgiau yr oedd COVID-19 wedi'u hachosi o ran presenoldeb disgyblion. Tynnodd
swyddogion sylw at y ffaith bod y Swyddogion Lles Addysg yn parhau i ymgysylltu
â disgyblion yn ystod y pandemig gan sicrhau eu bod yn cadw eu lefelau
presenoldeb mor uchel â phosib yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Nododd yr Aelodau fod rhieni/gwarcheidwaid a
chanddynt hawl i Brydau Ysgol am Ddim yn cael eu talu'n uniongyrchol oherwydd
COVID-19. Cafwyd trafodaethau ynghylch monitro'r defnydd o'r taliad
uniongyrchol er mwyn sicrhau bod y bwydydd cywir yn cael eu prynu. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|||
Diweddariad llafar ar Effaith COVID-19 ar ddiweithdra ac ymddieithrio ymysg pobl ifanc - Gwaith y Ganolfan Ieuenctid Cofnodion: Cafodd yr Aelodau ddiweddariad byr ar waith y
Ganolfan Ieuenctid. Nodwyd y cynhaliwyd trafodaethau â'r Adran Gwaith a
Phensiynau (DWP) i ystyried datblygu Canolfan Ieuenctid ffisegol ym Mhort
Talbot a Chastell-nedd. Fodd bynnag, oherwydd amgylchiadau diweddar yn deillio
o Covid-19, penderfynwyd y byddai darpariaeth rithwir yn opsiwn mwy diogel
gyda'r gobaith o ddatblygu fersiwn ffisegol maes o law. Nododd yr Aelodau fod gennym 2,500 o bobl ifanc ar
hyn o bryd sy'n hawlio Credyd Cynhwysol a 1,100 o bobl ifanc sy'n chwilio am
waith o fewn yr Awdurdod Lleol. Mae'r DWP wrthi'n datblygu taith 13 wythnos i
bobl ifanc, gyda'r diben o roi profiad gwaith, ffug gyfweliadau, cymorth i
lunio CV ac ysgrifennu ceisiadau am swydd i bobl ifanc, ymysg llawer o sgiliau
eraill. Mae hyn er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael cefnogaeth i chwilio am
gyfleoedd gwaith yn unol â'u dyheadau. Tynnwyd sylw at y ffaith y byddai ymarfer mapio'n
cael ei gwblhau erbyn diwedd 2020 gan ganolbwyntio ar ddau faes allweddol, gan
ddarparu cefnogaeth cyflogaeth a chymorth ar gyfer iechyd a lles emosiynol pobl
ifanc. Byddai'r ymarfer mapio hwn yn rhoi golwg glir ar ffordd ymlaen yn y
flwyddyn newydd. Byddai'r Awdurdod lleol hefyd yn ymgysylltu â'r
Rhaglen Kick-start, a fyddai'n caniatáu i'r cyngor gyflogi prentisiaid, gan
ddarparu profiadau pellach. Holodd yr Aelodau a oedd yr Awdurdod Lleol yn
ystyried darparu porth i fusnesau bach a oedd yn bwriadu cyflogi prentisiaid.
Cadarnhaodd swyddogion fod trothwy penodol y mae'n rhaid i fusnesau ei gyrraedd
i sicrhau hyn a byddai'r Awdurdod Lleol yn gweithio gyda nhw i hwyluso hyn. Cafwyd trafodaethau ynghylch pa mor agored i niwed
y mae’r bobl ifanc ac i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth y mae ei hangen
arnynt. Holodd yr Aelodau a yw’r ffigurau am nifer y bobl ifanc sy'n ceisio
cefnogaeth yn gywir, gan y tybiwyd y gallai'r ffigurau hyn fod wedi cynyddu.
Esboniodd swyddogion fod y ffigurau hyn yn gywir, ond y byddent yn gwirio i
sicrhau nad oeddent wedi newid. Yn dilyn craffu, nodwyd y diweddariad llafar.
|
|||
Blaenraglen Waith 2019/2 PDF 61 KB Cofnodion: Nododd yr Aelodau Flaenraglen Waith Craffu Addysg,
Sgiliau a Diwylliant. |
|||
Eitemau brys (Unrhyw
eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol
disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972. Cofnodion: Oherwydd yr angen i ymdrin â'r materion sydd
wedi'u cynnwys yng Nghofnod Rhif. 8 isod, cytunodd y Cadeirydd y gellid codi'r
eitemau hyn yng nghyfarfod heddiw fel eitemau brys yn unol ag Offeryn Statudol
Rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd). Rhesymau dros y mater brys: Oherwydd yr elfen amser. |
|||
Blaenraglen Waith y Cabinet PDF 60 KB Cofnodion: Darparwyd Blaenraglen Waith y Cabinet at ddibenion
gwybodaeth yr Aelodau; nodwyd y Blaenraglen Waith |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem
ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran
4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion:
|
|||
Adroddiad y Gwasanaeth Cynhwysiad am Drosolwg o Gefnogaeth i Blant a Phobl Ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol - Atodiad 1 (Wedi'i eithrio o dan Baragraff 13) Cofnodion: Cafodd yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf mewn
perthynas ag atodiad preifat Adroddiad y Gwasanaeth Cynhwysiad, a oedd yn rhoi
trosolwg o'r gefnogaeth a ddarperir i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu
ychwanegol. Cynhaliwyd y brif drafodaeth yn eitem 5 uchod mewn
sesiwn gyhoeddus. Fodd bynnag, diweddarwyd yr aelodau mewn sesiwn breifat mewn
perthynas â'r astudiaethau achos a gynhwyswyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad a
ddosbarthwyd yn breifat. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.
|