Lleoliad: via Teams
Cyswllt: Nicola Headon
Rhif | Eitem |
---|---|
Appointment of Chairperson Cofnodion: Cytunwyd y dylid penodi’r Cynghorydd A. Wingrave yn
Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 80 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
24 Ionawr a 14 Chwefror 2020. |
|
Llwybr cyhoeddus honedig trwy ddefnyddio pont gerddwyr y rheilffordd o rif 20 i'r A4109 PDF 84 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo Gorchymyn Addasu o dan Adran 53 o Ddeddf
Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 i gofrestru'r llwybr a ddangosir A – B ar
gynllun Rhif 1 ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, cadarnhau'r un peth â
gorchymyn diwrthwynebiad. Rheswm dros y penderfyniad: Mae digon o dystiolaeth bod y bont gerddwyr wedi
bod yn destun cyfnod o ddefnydd di-dor am o leiaf 20 mlynedd. Mae hyn yn
bodloni darpariaethau adran 31 o Ddeddf Priffyrdd 1980 sy'n rhagdybio bod y
ffordd wedi'i neilltuo fel priffordd i'r cyhoedd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniadau eu
rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd yr Aelodau'n cefnogi'r diwygiad i'r
argymhelliad a ddarparwyd gan swyddogion, fel y nodir isod. Penderfyniad: Rhoi cymeradwyaeth i’r Pennaeth Cyfranogiad (Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol
Oes) ymrwymo i gytundeb(au) grant gyda Meddygfa Dyffryn Aman Tawe i ymestyn y
gwasanaeth presennol a ddarperir gan Wasanaethau Gofal Sylfaenol y Tîm Cyswllt
Camddefnyddio Sylweddau Sylfaenol (PSALT), gan roi sylw i reol 7.1.21 o’r Rheolau Gweithdrefnau Contractau lle mae
cytundeb grant yn cael ei eithrio o'r gofyniad am dendro cystadleuol. Rheswm dros y penderfyniad: Sicrhau y gellir rhoi'r trefniadau angenrheidiol
ar waith i gyflawni penderfyniad y Bwrdd Cynllunio Ardal, i ddiwallu anghenion
a nodwyd mewn perthynas â Therapi Amnewidion Opiadau. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniadau eu
rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |