Agenda a Chofnodion

Bwrdd Adfywio a Datblygu Cynaliadwy’r Cabinet - Dydd Gwener, 24ain Ionawr, 2020 10.05 am

Lleoliad: Committee Rooms A/B - Neath Civic Centre

Cyswllt: Nicola Headon 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd A Wingrave yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

 

2.

Cynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot (CDLl) 2011-2016 - Ystyried y canlynol: Adroddiad Adolygu'r CDLl drafft; a'r gweithdrefnau cyhoeddi/ymgynghori i'w gweithredu pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Penderfynwyd argymell y canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo:

 

1.    Cymeradwyo Adroddiad Adolygu'r CDLl drafft fel sail ar gyfer ymgynghoriad, fel a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

2.    Cymeradwyo rhoi'r gweithdrefnau cyhoeddi ac ymgynghori a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, ar waith.

 

Rheswm dros y Penderfyniadau:

 

1.           I sicrhau y cydymffurfir ag Adran 69

          Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004; Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) (Diwygiad) 2015; a Llawlyfr Cynlluniau Datblygu Lleol

          Fersiwn 2 (2015).

 

2.           Cymeradwyo'r ymarfer ymgynghori i sicrhau bod yr Adroddiad Adolygu'r CDLl terfynol yn gadarn a bod y casgliadau'n hollol gyfiawn.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar unwaith. Cytunodd Cadeirydd y pwyllgor craffu i'r camau gweithredu hyn. Ni fyddai unrhyw gyfle i gwestiynu'r penderfyniad hwn.

 

 

 

3.

Gwerthusiad o Asedau pdf eicon PDF 74 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

1.        Rhoi awdurdod i'r Rheolwr Eiddo a Phrisiad, Rheolaeth Eiddo a Phrisiad Strategol gymeradwyo Adroddiadau Gwerthuso Asedau'r cyngor; 

 

2.        Rhoi awdurdod i'r Prif Reolwr Ystadau, Rheolaeth Eiddo a Phrisiad Strategol gymeradwyo unrhyw Adroddiadau Gwerthuso Asedau'r cyngor yn absenoldeb y Rheolwr Eiddo a Phrisiad.

Rheswm dros y Penderfyniadau:

 

Rhoi awdurdod i'r swyddogion perthnasol gymeradwyo Adroddiadau Gwerthuso Asedau'r Cyngor.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

4.

Gŵyl Bwyd a Diod Castell-nedd 2019 pdf eicon PDF 911 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.

 

5.

Blaenraglen Waith 2018-19 pdf eicon PDF 67 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Nodi'r Blaenraglen Waith

 

6.

Mynediad i gyfarfodydd

Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol a oedd yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

7.

Safle Cyflogaeth Strategol Glannau'r Harbwr Port Talbot - Tir a Hawliau ynghylch Perchnogaeth Cymdeithas Porthladdoedd Prydain

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo'r amodau a thelerau ar gyfer caffael yr hawddfraint byth bythol sy'n ofynnol ar gyfer Safle Cyflogaeth Strategol Glannau'r Harbwr Port Talbot, fel a nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Hwyluso'r mesurau lliniaru llifogydd arfaethedig fel rhan o gynllun Safle Cyflogaeth Strategol Glannau'r Harbwr.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

8.

Cam 2 Ffordd Ddosbarthu Ymylol Port Talbot - Talu iawndal dan ddarpariaethau Rhan 1 Deddf Iawndal Tir 1971

Cofnodion:

Penderfyniad:

Cymeradwyo talu'r symiau iawndal i'r partïon yr effeithiwyd arnynt mewn perthynas â Cham 2 Ffordd Ddosbarthu Ymylol Port Talbot - talu iawndal o dan ddarpariaethau Rhan 1 Deddf Iawndal Tir 1971, fel a nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Talu iawndal o ganlyniad i Gynllun Cam 2 Ffordd Ddosbarthu Ymylol Port Talbot.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

9.

Cam 2 Ffordd Ddosbarthu Ymylol Port Talbot - Tir a Hawliau ynghylch Perchnogaeth Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, Port Talbot

Cofnodion:

Penderfyniadau:

1.             Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio roi blaendal, fel a nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

2.             Cymeradwyo'r amodau a'r telerau ar gyfer caffael a amlinellwyd ym mharagraffau (i)-(iii) yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd, yn amodol ar unrhyw amrywiadau y mae'n bosib y bydd angen i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio eu gwneud, mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Adfywio a Datblygu Cynaliadwy.

 

3.             Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio gytuno ar y swm terfynol i'w dalu, mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Adfywio a Datblygu Cynaliadwy, fel a nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

4.             Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol gymeradwyo unrhyw ddogfennaeth sy'n angenrheidiol er mwyn hwyluso'r amodau a'r telerau cytunedig a amlinellwyd ym mharagraffau (i)-(iii) yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

Rheswm dros y Penderfyniadau:

Talu iawndal i'r partïon yr effeithiwyd arnynt o ganlyniad i gaffael tir a hawliau amrywiol yn bennaf o ganlyniad i Gynllun Cam 2 Ffordd Ddosbarthu Ymylol Port Talbot.

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

10.

Adnewyddu Prydles y safleoedd/stondinau ym Marchnad Dan Do Castell-nedd, Stryd Green, Castell-nedd

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo'r amodau a thelerau ar gyfer adnewyddu'r prydlesi, fel a nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Mae angen y tenantiaethau oherwydd daeth y rhai sydd eisoes

yn bodoli i ben.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

11.

Cynnig arfaethedig i waredu The Laurels, Heol Lewis, Castell-nedd

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem hon o'r agenda cyn i'r cyfarfod ddechrau.

 

12.

Cynnig arfaethedig i waredu tir ar yr Heol Fawr, Banwen, Castell-nedd

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo'r cynnig i brynu'r tir, fel a nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Caniatáu gwerthu eiddo dros ben ac ennill derbyniad cyfalaf.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

 

13.

Canolbwyntio ar y Gymuned - Rhaglen Beilot Monitro Ansawdd Aer Ardal Gyfan

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Eithrio'r gofynion cystadleuaeth a nodwyd ym Mharagraff 2 y Rheolau Gweithdrefnau Contractau a rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio wneud y canlynol:-

1.        Prynu synwyryddion monitro ansawdd aer, fel a nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

2.         Cymeradwyo'r cytundeb cynnal a chadw, fel a nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

1.        Mesur a deall lefelau ansawdd aer yn ardaloedd preswyl Castell-nedd Port Talbot a'r lefelau llygredd a geir o ganlyniad i ddiwydiant, trafnidiaeth ac ynni.

2.         Cadarnhau monitro ansawdd aer a darparu data dibynadwy y gellir ei groesgyfeirio yn erbyn setiau data eraill, er enghraifft llif y traffig, i bennu'r cydberthynas â ffactorau eraill megis diwydiant, iechyd lleol, achosion ysgyfeiniol etc. 

3.        Darparu'r gallu i werthuso effeithiolrwydd lliniariad gwella ansawdd aer a mesurau ymyrryd.

4.        Gweithredu fel prosiect arloesol ar gyfer y Dref Garbon Isel Clyfar, gan arddangos y gallu i fonitro ar raddfa eang glyfar (amser go iawn) yn flaengar gan helpu i ddarparu'r syniad o dref garbon isel clyfar.

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

14.

Hen Ganolfan Ddinasyddion Hŷn Brynsiriol, y Cymer, Port Talbot

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.           Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio gytuno i waredu Canolfan Ddinasyddion Hŷn Brynsiriol, y Cymer, Port Talbot, fel a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

2.           Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio gynnig gwerthu'r mangre i'r tendrwr sydd wedi cynnig yr ail bris uchaf, os nad yw'r tendrwr sydd wedi cynnig y pris uchaf yn gallu bodloni'r cyngor bod yr arian ar gael i gwblhau'r pryniant yn gyfreithlon erbyn diwedd mis Chwefror 2020.

 

3.   Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio gytuno i unrhyw ddogfennaeth sy'n angenrheidiol, fel a nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniadau:

 

Caniatáu cael gwared ar eiddo dros ben ac ennill derbynneb cyfalaf.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

15.

Gwaredu rhan o Hen Iard Burrows yn ogystal ag adfer tir a gedwir gan y cyngor

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.         Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio dderbyn y cynnig mewn perthynas â hen safle Iard Burrows, fel a nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

2.        Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio drafod y prif delerau ar gyfer gwaredu'r tir, fel a nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

3.        Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio drafod, cadarnhau a chytuno i'r ddogfennaeth werthiant sy'n angenrheidiol er mwyn gwaredu'r tir, mewn ymgynghoriad â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, fel a nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

4.        Eithrio Rheol 2 y Rheolau Gweithdrefnau Contractau ar gyfer adfer y tir sydd wedi'i ddangos â llinellau du ar y cynllun yn Atodiad 1 yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd, a rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio ddechrau cytundeb, fel a nodwyd ynddo.

 

Rheswm dros y Penderfyniadau:

 

Caniatáu gwerthu eiddo dros ben ac ennill derbynneb cyfalaf.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.