Agenda a Chofnodion

Bwrdd Adfywio a Datblygu Cynaliadwy’r Cabinet - Dydd Gwener, 30ain Gorffennaf, 2021 10.05 am

Lleoliad: via Teams

Cyswllt: Nicola Headon 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd A Wingrave yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 66 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 25 Mehefin, 2021.

 

3.

Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach - Adolygiad o Orfodi'r Gyfraith Bwyd a Phorthiant 2020-2021 a Chynllun Cyflawni'r Gwasanaeth Bwyd a Phorthiant 2021-2022 pdf eicon PDF 933 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Nodi'r adroddiad.

 

4.

Dirprwyaethau Ffïoedd Tenantiaid pdf eicon PDF 310 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig a ddosbarthwyd, cymeradwyo diwygio’r trefniadau dirprwyo mewn perthynas â Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach a nodir yn fersiwn 14.12.18 o gyfansoddiad yr awdurdod [h.y. yn Rhan 3 Swyddog Trefniadau Dirprwyo'r cyngor: {c} Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach - Atodlen 1] fel a ganlyn:

 

1.   Ychwanegu Deddf Rhentu Cartrefi (Ffïoedd etc.) (Cymru) 2019 at y rhestr o ddeddfwriaeth [a nodir yn y ddogfen y cyfeirir ati uchod, Atodlen 1] a ddirprwyir i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd, Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd a Rheolwr Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach.

 

2.   Dirprwyo awdurdod i’r swyddogion hynny yn [1] uchod awdurdodi swyddogion unigol, cymwys a chymwysedig i weithredu o dan y ddeddfwriaeth honno.

 

3.   Dirprwyo i'r swyddogion hynny yn [1] uchod yr awdurdod i gychwyn achos cyfreithiol o dan y darpariaethau sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Rhentu Cartrefi (Ffïoedd etc.) (Cymru) 2019 ar y cyd â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol [gan gynnwys llofnodi unrhyw rybuddion yn unol â chanllawiau'r Swyddfa Gartref] a, lle bo troseddwr honedig yn cael ei gadw yn y ddalfa mewn perthynas â throsedd, i gychwyn achos drwy ddwyn cyhuddiad yn ei erbyn.

 

4.   Awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol i geisio diwygio cyfansoddiad y cyngor maes o lawr: er mwyn adlewyrchu'r newidiadau uchod i drefniadau dirprwyo'r awdurdod.

 

5.   Bod aelodau'n awdurdodi Cyngor Dinas Caerdydd, fel Awdurdod Trwyddedu i Gymru (Rhentu Doeth Cymru), i arfer unrhyw swyddogaeth awdurdod gorfodi, mewn perthynas ag ardal Cyngor Castell-nedd Port Talbot, at ddibenion Deddf Rhentu Cartrefi (Ffïoedd etc.) (Cymru) 2019, gan gynnwys (ond heb gyfyngiad) cymryd camau gorfodi a dwyn achos troseddol yn unol ag adran 19 o'r Ddeddf honno.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Galluogi'r ddeddfwriaeth newydd i gael ei rhoi ar waith yn gyflym ac yn effeithlon, a sicrhau bod pwerau gorfodi hefyd yn cael eu dirprwyo i Rhentu Doeth Cymru, y mae'r adran yn gweithio mewn partneriaeth â nhw, ar gyfer gorfodi'r ddeddfwriaeth hon.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

5.

Cynllun Llesol i Wenyn CNPT pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig a ddosbarthwyd, mabwysiadu Cynllun Llesol i Wenyn CNPT fel y nodir yn atodiad 2 i'r adroddiad a ddosbarthwyd , a chymeradwyo'r newidiadau mewn rheolaeth i gynyddu maint y glaswelltiroedd blodau gwyllt a'u cyhoeddi ar wefan y cyngor.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Mae angen yr argymhellion i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

6.

Ystyried Cynllun Datblygu Lleol (CDLlN) newydd Castell-nedd Port Talbot 2021-2036 pdf eicon PDF 8 MB

Cofnodion:

Yn dilyn trafodaeth yn y Pwyllgor Craffu, cytunodd Aelodau'r Cabinet i ychwanegu'r geiriad mewn llythrennau italig i benderfyniad 1, isod.

 

Penderfynwyd:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig a ddosbarthwyd, cymeradwyo’r canlynol:

 

1.            Cymeradwyo Cytundeb Cyflawni Drafft Ymgynghori'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd, fel y nodir yn Atodiad 2 i'r adroddiad a ddosbarthwyd, yn amodol ar gynnwys yr adborth gan aelodau yn y Pwyllgor Craffu Adfywio a Datblygu Cynaliadwy mewn perthynas â chynnwys y gymuned.

 

2.            Cymeradwyo Adroddiad Cwmpasu drafft SRA fel y manylir arno yn Atodiad 3 i'r adroddiad a gylchredwyd.

 

3.            Rhoi'r gweithdrefnau cyhoeddi ac ymgynghori, fel y'i hamlinellir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, ar waith.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Sicrhau y cydymffurfir ag Adran 63 Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004; Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) (Diwygio) 2015; Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015); Deddf Cydraddoldeb (2010); Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015; Polisi Cynllunio Cymru 11 (2021) a'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu Rhifyn 3 (2020), yn ogystal ag awdurdodi'r ymarferion ymgynghori i sicrhau bod Cytundeb Cyflawni Drafft Ymgynghori'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd ac Adroddiad Cwmpasu SRA yn gadarn a bod cyfiawnhad llawn dros y gweithdrefnau a amlinellir.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

Ymgynghoriad:

 

Bydd yr eitem hon yn destun ymgynghoriad allanol.

 

7.

Blaenraglen Waith 2021-2022 pdf eicon PDF 41 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Nodi'r Blaenraglen Waith ar gyfer 2021/2022.