Lleoliad: via Teams
Cyswllt: Nicola Headon
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd A Wingrave yn
Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 59 KB Cofnodion: Cymeradwyir cofnodion
cyfarfod 16 Ebrill, 2021. |
|
Cynllun Peilot Arfaethedig Parcio a Theithio Gwlad y Sgydau PDF 90 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad
Effaith Integredig a ddosbarthwyd caiff y gwaith o gyflwyno prosiect Peilot
Parcio a Theithio Gwledig Gwlad y Sgydau, i'w gynnal ar ddydd Sadwrn, dydd Sul
a Gwyliau Banc yn ystod gwyliau haf yr ysgol 2021, ei gymeradwyo. Rhesymau dros y penderfyniad: Drwy gyflwyno'r prosiect peilot hwn byddem yn gallu cadarnhau a yw'r
mesurau hyn yn cynnig cyfleoedd sylweddol i liniaru pwysau parcio ym mhentref Pontneddfechan. Mae
posibilrwydd y gallai lliniaru'r pwysau hyn wella ansawdd bywyd preswylwyr
lleol Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau. |
|
Archwiliad gan Archwilio Cymru i Wasanaeth Adfywio'r cyngor fel rhan o'i Amcanion Lles PDF 62 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad
Effaith Integredig, nodi’r adroddiad. |
|
Blaenraglen Waith 2021-2022 PDF 85 KB Cofnodion: Penderfyniad: Nodi'r Blaenraglen Waith |
|
Mynediad i gyfarfodydd Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: PENDERFYNWYD: Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol
2001 Rhif 2290, gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn
debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff
14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Cynllun Cam 2 Ffordd Ddosbarthu Ymylol Port Talbot - Talu Iawndal o dan Ddarpariaethau Rhan 1 o Ddeddf Iawndal Tir 1971 (yn eithriedig o dan baragraffau 12 ac 14) Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i
gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig a ddosbarthwyd, cymeradwyir talu'r swm
iawndal i'r parti yr effeithir arno fel y'i nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn breifat. Rheswm dros y
penderfyniad: Talu iawndal o ganlyniad i gynllun Cam 2 Ffordd Ddosbarthu
Ymylol Port Talbot. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau. |