Agenda a chofnodion drafft

Bwrdd Adfywio a Datblygu Cynaliadwy’r Cabinet - Dydd Gwener, 22ain Hydref, 2021 10.05 am

Lleoliad: via Teams

Cyswllt: Nicola Headon 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd L C Jones yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

 

Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod:

 

Y Cynghorydd S K Hunt -         Parthed Cymorth Grant COVID-19 i Fusnesau Lleol o fis Mawrth 2020 hyd yma, am ei fod yn aelod ac yn Gadeirydd elusennau a sefydliadau amrywiol a oedd yn derbyn arian o'r Gronfa Cymorth Grant COVID-19.

 

 Y Cynghorydd R L Taylor        Parthed Cymorth Grant COVID-19 i Fusnesau Lleol o fis Mawrth 2020 hyd heddiw, am ei bod yn ymddiriedolwr o Lyfrgell Tai-bach a oedd yn derbyn y grant AAG.

 

 

Nodwyd bod gan yr Aelodau oddefeb a oedd yn caniatáu iddynt siarad a phleidleisio.

 

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 13 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 17 Medi 2021

 

4.

Grant Eiddo Masnachol: 23 Maes yr Eglwys, Castell-nedd SA11 3LL pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, bod y cynllun Grant Eiddo Masnachol i gynorthwyo gyda'r gwaith gwella allanol i'r eiddo masnachol yn 23 Maes yr Eglwys, Castell-nedd SA11 3LL, yn cael ei gymeradwyo.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Rhoi darpariaethau'r cynllun Grant Eiddo Masnachol ar waith yn unol â'r meini prawf a thelerau gweinyddu'r grant, er mwyn cyfrannu at adfywio canol tref Castell-nedd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

5.

Cymorth Grant COVID-19 ar gyfer Busnesau Lleol o fis Mawrth 2020 i'r presennol pdf eicon PDF 536 KB

Cofnodion:

Diolchodd yr Aelodau i swyddogion am eu holl waith caled yn ystod cyfnodau anodd.

 

Penderfyniad:

 

Nodi’r adroddiad.

 

6.

Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2019/2020 - Chwarter 1 (1 Ebrill 2021 - 30 Mehefin 2021) pdf eicon PDF 239 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Gohiriwyd yr eitem hon tan y cyfarfod nesaf.

 

7.

Blaenraglen Waith 2021-2022 pdf eicon PDF 187 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Nodi Blaenraglen Waith 2021/2022.

 

8.

Mynediad i gyfarfodydd

Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

9.

Y Diweddaraf am Brosiect Twnnel y Rhondda

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Gohiriwyd yr eitem hon tan y cyfarfod nesaf

 

10.

Cynnig arfaethedig i waredu tir datblygu a adwaenir fel Llain 1, Nant y Cafn, Heol Dulais, Blaendulais

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Sgrinio Effaith Integredig y dylid rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio i waredu tir, fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Caniatáu ar gyfer cael gwared ar eiddo dros ben ac ennill derbynneb cyfalaf.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

11.

Cynnig i gwblhau gwaith heb ei orffen yn YGG Pontardawe

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig y dylid rhoi cymeradwyaeth i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio gwblhau trafodaethau ar gyfer gwaith sy'n weddill yn YGG Pontardawe, fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Galluogi ar gyfer cwblhau gwaith hanfodol sy'n weddill yn YGG Pontardawe i alluogi'r ysgol i ddefnyddio ei chyfleusterau'n llawn.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

12.

Cynnig arfaethedig i gaffael Tir a Garej Ddomestig ar gyffordd yr A48 â Stryd y Dŵr, Margam ar gyfer y cynllun llwybr troed/llwybr beicio arfaethedig sy'n cysylltu Eglwys Nynnid a Pharc Dewi Sant, Margam

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw i'r Asesiad Effaith Integredig cam cyntaf, cymeradwyo'r amodau a thelerau ar gyfer caffael tir ar gyffordd yr A48 a Stryd y Dŵr, Margam ar gyfer y cynllun llwybr troed/llwybr beicio sy'n cysylltu Eglwys Nynnid a Pharc Dewi Sant, Margam, Port Talbot, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd yn breifat.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Bydd y caffaeliad yn helpu i hwyluso'r cynllun llwybr troed/llwybr beicio arfaethedig sy'n cysylltu Eglwys Nynnid a Pharc Dewi Sant, Margam, Port Talbot.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

13.

Eitem Frys

Cofnodion:

Oherwydd yr angen i ymdrin â'r materion sydd wedi'u cynnwys yng Nghofnod Rhif. 14 isod, cytunodd y Cadeirydd y gellid codi'r eitemau hyn yng nghyfarfod heddiw fel eitemau brys yn unol ag Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd)

 

Rheswm:  Oherwydd yr elfen amser.

 

 

14.

Cynnig arfaethedig i waredu tir yng Nglannau'r Harbwr i Goleg CNPT ar y cyd â'r cynnig arfaethedig i gaffael tir yn Fabian Way gan Lywodraeth Cymru

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Sgrinio Integredig:

 

1.   Bod y Pennaeth Eiddo ac Adfywio yn cael awdurdod dirprwyedig i waredu tir yng Nglannau'r Harbwr, fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. 

 

2.   Bod y Pennaeth Eiddo ac Adfywio yn cael awdurdod dirprwyedig i gaffael tir gan Lywodraeth Cymru yn Fabian Way, fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd

 

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Galluogi ar gyfer gwaredu tir dros ben a sicrhau derbynneb cyfalaf, ynghyd â chaffael safle cyflogaeth strategol.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.