Lleoliad: Committee Rooms A/B - Neath Civic Centre
Cyswllt: Nicola Headon
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd A Wingrave yn
Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cofnodion: Penderfyniadau: Penderfynwyd
argymell y canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo: 1. Cymeradwyo
Adroddiad Adolygu'r CDLl drafft fel sail ar gyfer ymgynghoriad, fel a nodwyd yn
Atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd. 2. Cymeradwyo
rhoi'r gweithdrefnau cyhoeddi ac ymgynghori a nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd, ar waith. Rheswm dros y Penderfyniadau: 1.
I sicrhau y cydymffurfir ag
Adran 69 Deddf
Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004; Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun
Datblygu Lleol) (Cymru) (Diwygiad) 2015; a Llawlyfr Cynlluniau Datblygu Lleol Fersiwn
2 (2015). 2.
Cymeradwyo'r ymarfer
ymgynghori i sicrhau bod yr Adroddiad Adolygu'r CDLl terfynol yn gadarn a bod y
casgliadau'n hollol gyfiawn. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar unwaith.
Cytunodd Cadeirydd y pwyllgor craffu i'r camau gweithredu hyn. Ni fyddai unrhyw
gyfle i gwestiynu'r penderfyniad hwn. |
|
Gwerthusiad o Asedau PDF 74 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniadau: 1.
Rhoi awdurdod i'r Rheolwr Eiddo a Phrisiad, Rheolaeth
Eiddo a Phrisiad Strategol gymeradwyo Adroddiadau Gwerthuso Asedau'r
cyngor; 2.
Rhoi awdurdod i'r Prif Reolwr Ystadau, Rheolaeth Eiddo a
Phrisiad Strategol gymeradwyo unrhyw Adroddiadau Gwerthuso Asedau'r cyngor yn
absenoldeb y Rheolwr Eiddo a Phrisiad. Rheswm dros y Penderfyniadau: Rhoi awdurdod i'r
swyddogion perthnasol gymeradwyo Adroddiadau Gwerthuso Asedau'r Cyngor. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |
|
Gŵyl Bwyd a Diod Castell-nedd 2019 PDF 911 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|
Blaenraglen Waith 2018-19 PDF 67 KB Cofnodion: Penderfyniad: Nodi'r Blaenraglen Waith |
|
Mynediad i gyfarfodydd Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol
yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: PENDERFYNWYD: Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol
2001 Rhif 2290, gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol a oedd
yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a diffinnir ym Mharagraff 14
Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Safle Cyflogaeth Strategol Glannau'r Harbwr Port Talbot - Tir a Hawliau ynghylch Perchnogaeth Cymdeithas Porthladdoedd Prydain Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo'r amodau a thelerau ar gyfer caffael yr
hawddfraint byth bythol sy'n ofynnol ar gyfer Safle Cyflogaeth Strategol
Glannau'r Harbwr Port Talbot, fel a nodwyd yn yr adroddiad preifat a
ddosbarthwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Hwyluso'r mesurau lliniaru llifogydd arfaethedig
fel rhan o gynllun Safle Cyflogaeth Strategol Glannau'r Harbwr. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. |
|
Cam 2 Ffordd Ddosbarthu Ymylol Port Talbot - Talu iawndal dan ddarpariaethau Rhan 1 Deddf Iawndal Tir 1971 Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo talu'r symiau iawndal i'r partïon yr
effeithiwyd arnynt mewn perthynas â Cham 2 Ffordd Ddosbarthu Ymylol Port Talbot
- talu iawndal o dan ddarpariaethau Rhan 1 Deddf Iawndal Tir 1971, fel a nodwyd
yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Talu iawndal o ganlyniad i Gynllun Cam 2 Ffordd
Ddosbarthu Ymylol Port Talbot. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. |
|
Cam 2 Ffordd Ddosbarthu Ymylol Port Talbot - Tir a Hawliau ynghylch Perchnogaeth Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, Port Talbot Cofnodion: Penderfyniadau: 1.
Rhoi
awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio roi blaendal, fel a nodwyd
yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. 2.
Cymeradwyo'r
amodau a'r telerau ar gyfer caffael a amlinellwyd ym mharagraffau (i)-(iii) yr
adroddiad preifat a ddosbarthwyd, yn amodol ar unrhyw amrywiadau y mae'n bosib
y bydd angen i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio eu gwneud, mewn ymgynghoriad ag
Aelod y Cabinet dros Adfywio a Datblygu Cynaliadwy. 3.
Rhoi
awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio gytuno ar y swm terfynol i'w
dalu, mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Adfywio a Datblygu Cynaliadwy,
fel a nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. 4.
Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r
Pennaeth Eiddo ac Adfywio a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol gymeradwyo
unrhyw ddogfennaeth sy'n angenrheidiol er mwyn hwyluso'r amodau a'r telerau
cytunedig a amlinellwyd ym mharagraffau (i)-(iii) yr adroddiad preifat a
ddosbarthwyd. Rheswm dros y Penderfyniadau: Talu iawndal i'r partïon yr
effeithiwyd arnynt o ganlyniad i gaffael tir a hawliau amrywiol yn bennaf o
ganlyniad i Gynllun Cam 2 Ffordd Ddosbarthu Ymylol Port Talbot. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |
|
Adnewyddu Prydles y safleoedd/stondinau ym Marchnad Dan Do Castell-nedd, Stryd Green, Castell-nedd Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo'r amodau a thelerau ar gyfer adnewyddu'r
prydlesi, fel a nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Mae angen y tenantiaethau oherwydd daeth y rhai
sydd eisoes yn bodoli i ben. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. |
|
Cynnig arfaethedig i waredu The Laurels, Heol Lewis, Castell-nedd Cofnodion: Tynnwyd yr eitem hon o'r agenda cyn i'r cyfarfod
ddechrau. |
|
Cynnig arfaethedig i waredu tir ar yr Heol Fawr, Banwen, Castell-nedd Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo'r cynnig i
brynu'r tir, fel a nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Caniatáu gwerthu eiddo
dros ben ac ennill derbyniad cyfalaf. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. |
|
Canolbwyntio ar y Gymuned - Rhaglen Beilot Monitro Ansawdd Aer Ardal Gyfan Cofnodion: Penderfyniadau: Eithrio'r gofynion cystadleuaeth a nodwyd ym Mharagraff 2 y Rheolau
Gweithdrefnau Contractau a rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac
Adfywio wneud y canlynol:- 1. Prynu synwyryddion monitro ansawdd aer, fel a nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. 2.
Cymeradwyo'r
cytundeb cynnal a chadw, fel a nodwyd yn yr adroddiad preifat a
ddosbarthwyd. Rhesymau dros y
Penderfyniadau: 1. Mesur a deall lefelau ansawdd aer yn ardaloedd preswyl Castell-nedd Port Talbot a'r lefelau llygredd a geir o ganlyniad i ddiwydiant, trafnidiaeth ac ynni. 2.
Cadarnhau
monitro ansawdd aer a darparu data dibynadwy y gellir ei groesgyfeirio yn erbyn
setiau data eraill, er enghraifft llif y traffig, i bennu'r cydberthynas â
ffactorau eraill megis diwydiant, iechyd lleol, achosion ysgyfeiniol etc. 3. Darparu'r gallu i werthuso effeithiolrwydd lliniariad gwella ansawdd aer a mesurau ymyrryd. 4. Gweithredu fel prosiect arloesol ar gyfer y Dref Garbon Isel Clyfar, gan arddangos y gallu i fonitro ar raddfa eang glyfar (amser go iawn) yn flaengar gan helpu i ddarparu'r syniad o dref garbon isel clyfar. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i
mewn. |
|
Hen Ganolfan Ddinasyddion Hŷn Brynsiriol, y Cymer, Port Talbot Cofnodion: Penderfyniadau: 1.
Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac
Adfywio gytuno i waredu Canolfan Ddinasyddion Hŷn Brynsiriol, y Cymer,
Port Talbot, fel a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. 2.
Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac
Adfywio gynnig gwerthu'r mangre i'r tendrwr sydd wedi cynnig yr ail bris uchaf,
os nad yw'r tendrwr sydd wedi cynnig y pris uchaf yn gallu bodloni'r cyngor bod
yr arian ar gael i gwblhau'r pryniant yn gyfreithlon erbyn diwedd mis Chwefror
2020. 3.
Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac
Adfywio gytuno i unrhyw ddogfennaeth sy'n angenrheidiol, fel a nodwyd yn yr
adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros y Penderfyniadau: Caniatáu cael gwared ar
eiddo dros ben ac ennill derbynneb cyfalaf. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |
|
Gwaredu rhan o Hen Iard Burrows yn ogystal ag adfer tir a gedwir gan y cyngor Cofnodion: Penderfyniadau: 1.
Rhoi
awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio dderbyn y cynnig mewn
perthynas â hen safle Iard Burrows, fel a nodwyd yn yr adroddiad preifat a
ddosbarthwyd. 2.
Rhoi
awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio drafod y prif delerau ar
gyfer gwaredu'r tir, fel a nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. 3.
Rhoi
awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio drafod, cadarnhau a chytuno
i'r ddogfennaeth werthiant sy'n angenrheidiol er mwyn gwaredu'r tir, mewn
ymgynghoriad â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, fel a nodwyd yn yr
adroddiad preifat a ddosbarthwyd. 4.
Eithrio Rheol 2 y Rheolau
Gweithdrefnau Contractau ar gyfer adfer y tir sydd wedi'i ddangos â llinellau
du ar y cynllun yn Atodiad 1 yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd, a rhoi
awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio ddechrau cytundeb, fel a
nodwyd ynddo. Rheswm dros y Penderfyniadau: Caniatáu gwerthu eiddo
dros ben ac ennill derbynneb cyfalaf. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. |