Lleoliad: via Teams
Cyswllt: Nicola Headon
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd A Wingrave yn
Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 66 KB Cofnodion: Penderfynwyd: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 25 Mehefin, 2021. |
|
Cofnodion: Penderfynwyd: Nodi'r adroddiad. |
|
Dirprwyaethau Ffïoedd Tenantiaid PDF 310 KB Cofnodion: Penderfynwyd: Ar ôl
rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig a ddosbarthwyd, cymeradwyo
diwygio’r trefniadau dirprwyo mewn perthynas â Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd
a Safonau Masnach a nodir
yn fersiwn 14.12.18 o gyfansoddiad yr awdurdod [h.y. yn Rhan 3 – Swyddog Trefniadau Dirprwyo'r
cyngor: {c} Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach - Atodlen 1] fel a ganlyn: 1.
Ychwanegu Deddf Rhentu
Cartrefi (Ffïoedd etc.) (Cymru) 2019 at y rhestr o ddeddfwriaeth [a nodir yn y
ddogfen y cyfeirir ati uchod, Atodlen 1] a ddirprwyir i Gyfarwyddwr yr
Amgylchedd, Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd a Rheolwr Iechyd yr
Amgylchedd a Safonau Masnach. 2.
Dirprwyo awdurdod i’r
swyddogion hynny yn [1] uchod awdurdodi swyddogion unigol, cymwys a chymwysedig
i weithredu o dan y ddeddfwriaeth honno. 3.
Dirprwyo i'r swyddogion hynny
yn [1] uchod yr awdurdod i gychwyn achos cyfreithiol o dan y darpariaethau sydd
wedi'u cynnwys yn Neddf Rhentu Cartrefi (Ffïoedd etc.) (Cymru) 2019 ar y cyd â
Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol [gan gynnwys llofnodi unrhyw rybuddion yn
unol â chanllawiau'r Swyddfa Gartref] a, lle bo troseddwr honedig yn cael ei
gadw yn y ddalfa mewn perthynas â throsedd, i gychwyn achos drwy ddwyn
cyhuddiad yn ei erbyn. 4. Awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol i geisio diwygio cyfansoddiad
y cyngor maes o lawr: er mwyn adlewyrchu'r newidiadau uchod i drefniadau dirprwyo'r awdurdod. 5.
Bod aelodau'n awdurdodi Cyngor
Dinas Caerdydd, fel Awdurdod Trwyddedu i Gymru (Rhentu Doeth Cymru), i arfer
unrhyw swyddogaeth awdurdod gorfodi, mewn perthynas ag ardal Cyngor
Castell-nedd Port Talbot, at ddibenion Deddf Rhentu Cartrefi (Ffïoedd etc.)
(Cymru) 2019, gan gynnwys (ond heb gyfyngiad) cymryd camau gorfodi a dwyn achos
troseddol yn unol ag adran 19 o'r Ddeddf honno. Rheswm dros y penderfyniadau: Galluogi'r ddeddfwriaeth newydd i gael ei rhoi ar
waith yn gyflym ac yn effeithlon, a sicrhau bod pwerau gorfodi hefyd yn cael eu
dirprwyo i Rhentu Doeth Cymru, y mae'r adran yn gweithio mewn partneriaeth â
nhw, ar gyfer gorfodi'r ddeddfwriaeth hon. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. |
|
Cynllun Llesol i Wenyn CNPT PDF 1 MB Cofnodion: Penderfynwyd: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig a ddosbarthwyd, mabwysiadu Cynllun Llesol i Wenyn CNPT fel y nodir
yn atodiad 2 i'r adroddiad a ddosbarthwyd , a chymeradwyo'r newidiadau mewn rheolaeth i
gynyddu maint y glaswelltiroedd blodau gwyllt a'u cyhoeddi ar wefan y cyngor. Rheswm dros y
penderfyniad: Mae angen yr argymhellion i sicrhau cydymffurfiaeth
â gofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. |
|
Ystyried Cynllun Datblygu Lleol (CDLlN) newydd Castell-nedd Port Talbot 2021-2036 PDF 8 MB Cofnodion: Yn dilyn trafodaeth yn y
Pwyllgor Craffu, cytunodd Aelodau'r Cabinet i ychwanegu'r geiriad mewn
llythrennau italig i benderfyniad 1, isod. Penderfynwyd: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r
Asesiad Effaith Integredig a ddosbarthwyd, cymeradwyo’r canlynol: 1. Cymeradwyo
Cytundeb Cyflawni Drafft Ymgynghori'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd, fel y
nodir yn Atodiad 2 i'r adroddiad a ddosbarthwyd, yn amodol ar gynnwys yr
adborth gan aelodau yn y Pwyllgor Craffu Adfywio a Datblygu Cynaliadwy mewn
perthynas â chynnwys y gymuned. 2. Cymeradwyo
Adroddiad Cwmpasu drafft SRA fel y manylir arno yn Atodiad 3 i'r adroddiad a
gylchredwyd. 3. Rhoi'r
gweithdrefnau cyhoeddi ac ymgynghori, fel y'i hamlinellir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd, ar waith. Rhesymau dros y
Penderfyniadau: Sicrhau y cydymffurfir ag Adran 63 Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) (Diwygio)
2015; Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015); Deddf Cydraddoldeb
(2010); Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015; Polisi Cynllunio Cymru 11
(2021) a'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu Rhifyn 3 (2020), yn ogystal ag
awdurdodi'r ymarferion ymgynghori i sicrhau bod Cytundeb Cyflawni Drafft
Ymgynghori'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd ac Adroddiad Cwmpasu SRA yn gadarn a
bod cyfiawnhad llawn dros y gweithdrefnau a amlinellir. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i
mewn. Ymgynghoriad: Bydd yr eitem hon yn destun ymgynghoriad allanol. |
|
Blaenraglen Waith 2021-2022 PDF 41 KB Cofnodion: Penderfynwyd: Nodi'r Blaenraglen Waith ar gyfer 2021/2022. |