Lleoliad: via Teams
Cyswllt: Nicola Headon
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd A Wingrave yn
Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 62 KB Cofnodion: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 14 Mai, 2021. |
|
Cofnodion: Penderfyniadau: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad
Effaith Integredig a ddosbarthwyd, cymeradwyir y canlynol: 1.
Cytunir bod dogfen ddrafft yr
Ymgynghoriad ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol, fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd, yn sail i'r ymgynghoriad. 2.
Bydd trefniadau ymgysylltu ac
ymgynghori, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn cael eu rhoi
ar waith. Rheswm dros y penderfyniadau: I sicrhau bod y cyngor yn cydymffurfio â gofynion Deddf Teithio Llesol
(Cymru) 2013. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |
|
Blaenraglen Waith 2021/2022 PDF 43 KB Cofnodion: Penderfyniad: Nodi'r Blaenraglen Waith |
|
Mynediad i gyfarfodydd Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn
unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: PENDERFYNWYD: Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn
Statudol 2001 Rhif 2290, gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a
oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a diffinnir ym
Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Hen Glwb y Rhyddfrydwyr, Stryd y Berllan, Castell-nedd (Yn eithriedig dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad
Effaith Integredig a ddosbarthwyd, penderfynwyd y dylid rhoi awdurdod
dirprwyedig i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio, fel y nodir yn yr adroddiad
preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Daw ailddatblygiad yr hen Glwb Rhyddfrydol yn
brosiect sy’n ariannol dichonadwy, fel y nodir yn yr adroddiad preifat a
ddosbarthwyd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau. |
|
Hen Ysgol Isaf Dyffryn, Port Talbot (Yn eithriedig dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad
Effaith Integredig a ddosbarthwyd, rhoddir awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth
Eiddo ac Adfywio, ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Adfywio a Datblygu
Cynaliadwy, fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Caniatáu gwerthu eiddo dros
ben ac ennill derbynneb cyfalaf. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau. |
|
Port Tennant Company Ltd yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Yn eithriedig dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad
Effaith Integredig a ddosbarthwyd, rhoddir cymeradwyaeth i Bennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd a'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio
drefnu’r gweithredoedd, fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros y penderfyniad: I alluogi’r swyddogion i drefnu’r gweithredoedd
yn y ffordd fwyaf cost effeithiol ac amserol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: I'w rhoi ar waith ar unwaith. |
|
Adnewyddu prydles - Gweithdai Pentref Lôn-las, Sgiwen, Castell-nedd (Yn eithriedig dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad
Effaith Integredig a ddosbarthwyd, rhoddir awdurdod dirprwyedig hwnnw i'r
Pennaeth Eiddo ac Adfywio, fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Bydd adnewyddu'r brydles yn caniatáu i'r
Gweithdai barhau i ddarparu ffynhonnell adfywio werthfawr o unedau a
swyddfeydd bach ar gyfer busnesau lleol newydd a mwy sefydledig yn y
Fwrdeistref Sirol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau. |