Lleoliad: via Teams
Cyswllt: Nicola Headon
Rhif | Eitem | |
---|---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd L C Jones yn
Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiad o fudd ar
ddechrau'r cyfarfod:
Y Cynghorydd R L Taylor Parthed Cymorth Grant COVID-19 i
Fusnesau Lleol o fis Mawrth 2020 hyd heddiw, am ei bod yn ymddiriedolwr o Lyfrgell Tai-bach a oedd yn derbyn y grant AAG. Nodwyd bod gan yr Aelodau
oddefeb a oedd yn caniatáu iddynt siarad a phleidleisio. |
||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 13 KB Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 17 Medi 2021 |
||
Grant Eiddo Masnachol: 23 Maes yr Eglwys, Castell-nedd SA11 3LL PDF 1 MB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl
rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, bod y cynllun Grant Eiddo
Masnachol i gynorthwyo gyda'r gwaith gwella allanol i'r eiddo masnachol yn 23
Maes yr Eglwys, Castell-nedd SA11 3LL, yn cael ei gymeradwyo. Rheswm dros y penderfyniad: Rhoi
darpariaethau'r cynllun Grant Eiddo Masnachol ar waith yn unol â'r meini prawf
a thelerau gweinyddu'r grant, er mwyn cyfrannu at adfywio canol tref
Castell-nedd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. |
||
Cymorth Grant COVID-19 ar gyfer Busnesau Lleol o fis Mawrth 2020 i'r presennol PDF 536 KB Cofnodion: Diolchodd yr Aelodau i swyddogion am eu holl waith caled yn ystod cyfnodau
anodd. Penderfyniad: Nodi’r adroddiad. |
||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Gohiriwyd yr eitem hon tan y cyfarfod nesaf. |
||
Blaenraglen Waith 2021-2022 PDF 187 KB Cofnodion: Penderfyniad: Nodi Blaenraglen Waith 2021/2022. |
||
Mynediad i gyfarfodydd Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol
yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: PENDERFYNWYD: Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol
2001 Rhif 2290, gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn
debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a diffinnir ym Mharagraff
14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
||
Y Diweddaraf am Brosiect Twnnel y Rhondda Cofnodion: Penderfyniad: Gohiriwyd yr eitem
hon tan y cyfarfod nesaf |
||
Cynnig arfaethedig i waredu tir datblygu a adwaenir fel Llain 1, Nant y Cafn, Heol Dulais, Blaendulais Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Sgrinio Effaith Integredig y dylid rhoi
awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio i waredu tir, fel y nodir yn
yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Caniatáu
ar gyfer cael gwared ar eiddo dros ben ac ennill derbynneb cyfalaf. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. |
||
Cynnig i gwblhau gwaith heb ei orffen yn YGG Pontardawe Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith
Integredig y dylid rhoi cymeradwyaeth i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio gwblhau
trafodaethau ar gyfer gwaith sy'n weddill yn YGG Pontardawe, fel y nodir yn yr
adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Galluogi
ar gyfer cwblhau gwaith hanfodol sy'n weddill yn YGG Pontardawe i alluogi'r
ysgol i ddefnyddio ei chyfleusterau'n llawn. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. |
||
Cynnig arfaethedig i gaffael Tir a Garej Ddomestig ar gyffordd yr A48 â Stryd y Dŵr, Margam ar gyfer y cynllun llwybr troed/llwybr beicio arfaethedig sy'n cysylltu Eglwys Nynnid a Pharc Dewi Sant, Margam Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw i'r Asesiad Effaith Integredig cam
cyntaf, cymeradwyo'r amodau a thelerau ar gyfer caffael tir ar gyffordd yr A48
a Stryd y Dŵr, Margam ar gyfer y cynllun llwybr troed/llwybr beicio sy'n
cysylltu Eglwys Nynnid a Pharc Dewi Sant, Margam, Port Talbot, fel y nodir yn
yr adroddiad a ddosbarthwyd yn breifat. Rheswm dros y penderfyniad: Bydd
y caffaeliad yn helpu i hwyluso'r cynllun llwybr troed/llwybr beicio
arfaethedig sy'n cysylltu Eglwys Nynnid a Pharc Dewi Sant, Margam, Port Talbot. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. |
||
Eitem Frys Cofnodion: Oherwydd yr angen i ymdrin â'r materion sydd wedi'u
cynnwys yng Nghofnod Rhif. 14 isod, cytunodd y Cadeirydd y gellid codi'r
eitemau hyn yng nghyfarfod heddiw fel eitemau brys yn unol ag Offeryn Statudol
2001 Rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd) Rheswm:
Oherwydd yr elfen amser. |
||
Cynnig arfaethedig i waredu tir yng Nglannau'r Harbwr i Goleg CNPT ar y cyd â'r cynnig arfaethedig i gaffael tir yn Fabian Way gan Lywodraeth Cymru Cofnodion: Penderfyniadau: Ar
ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Sgrinio Integredig: 1. Bod y Pennaeth Eiddo ac
Adfywio yn cael awdurdod dirprwyedig i waredu tir yng Nglannau'r Harbwr, fel y
nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.
2. Bod y Pennaeth Eiddo ac
Adfywio yn cael awdurdod dirprwyedig i gaffael tir gan Lywodraeth Cymru yn
Fabian Way, fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd Rhesymau dros y Penderfyniadau: Galluogi
ar gyfer gwaredu tir dros ben a sicrhau derbynneb cyfalaf, ynghyd â chaffael
safle cyflogaeth strategol. Rhoi Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn. |