Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
Periodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y byddai’r Cynghorydd
P.A.Rees yn cael ei benodi’n
Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|||||
Datganiadau o fudd Cofnodion: Cafwyd datganiad o fudd gan y Cynghorwyr canlynol ar ddechrau’r
cyfarfod.
|
|||||
Blaenraglen Waith 2018-19 PDF 75 KB Cofnodion: Penderfyniad: Y dylid nodi’r Blaenraglen
Waith ar gyfer 2019/20. |
|||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Y dylid nodi’r adroddiad. |
|||||
Derbyniadau i Ysgolion Cymunedol 2021/22 PDF 86 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Y dylid cymeradwyo’r Polisi Derbyniadau i Ysgolion Cymunedol
2021/2022 i ymgynghori arno fel
y nodir yn Atodiad A i’r adroddiad
a ddosbarthwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: I alluogi’r Cyngor i ddiwallu dyletswyddau
statudol a chanllawiau arfer da mewn perthynas
â derbyn disgyblion i ysgolion cymunedol. Rhoi’r Penderfyniad ar Waith Caiff y penderfyniad ei roi ar waith
ar ôl y cyfnod
galw i mewn
o dridiau. Ymgynghori Mae
gofyn i’r Cyngor, fel awdurdod
lleol, ymgynghori bob blwyddyn ar y trefniadau
derbyn i’r ysgolion hynny y mae’n awdurdod derbyn ar eu
cyfer fel y nodwyd yn y gofynion
ymgynghori a nodwyd yng Nghod Derbyn
i Ysgolion Llywodraeth Cymru. Cyfrifoldeb y priod gyrff llywodraethu yw derbyniadau i ysgolion
gwirfoddol a gynorthwyir (h.y. Ysgolion Ffydd). |
|||||
Adolygiad Llyfrgelloedd PDF 92 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniadau: 1.
Y dylid rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Trawsnewid
i drosglwyddo Pencadlys y Llyfrgelloedd i gyn-Ysgol Ynysmaerdy
ar ddyddiad i’w gytuno gyda’r
Pennaeth Trawsnewid a’r Pennaeth Eiddo
ac Adfywio. 2.
Y dylid datgan bod cyn-Bencadlys y Llyfrgelloedd yn ofer i
ofynion y Gyfarwyddiaeth Addysg ac y dylai cyfrifoldeb drosto drosglwyddo i’r Pennaeth Eiddo ac Adfywio. 3.
Y dylai Swyddogion ymgymryd ag astudiaeth
ddichonoldeb i adleoli Llyfrgell Castell-nedd i’r datblygiad
newydd arfaethedig yng Nghanol Tref
Castell-nedd a chael adroddiad i’r Cynghorwyr
ei gymeradwyo os yw’n gynnig
derbyniol. 4.
Y dylid rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Trawsnewid
i werthu dau gerbyd llyfrgelloedd
symudol a chael un cerbyd bach
yn eu lle. 5.
Y dylid rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Trawsnewid
i brynu fan newydd ar gyfer
y Gwasanaeth Cludo i’r Cartref. 6.
Y dylid rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Trawsnewid
i ddiwygio oriau agor y Rhwydwaith
Llyfrgelloedd Cangen i’r oriau a nodir
yn Atodiad 3 am gyfnod o dri mis. 7.
Wedi i’r cyfnod
o dri mis ddod i ben, y dylid
rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Pennaeth Trawsnewid mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet priodol i roi’r newidiadau
i oriau agor
y Rhwydwaith Canghennau ar waith yn
barhaol. Rheswm dros y Penderfyniadau: I sicrhau bod y Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn parhau i ddarparu
gwasanaeth perthnasol,
cost-effeithiol a chynaliadwy
i bobl Castell-nedd Port Talbot dros y pum mlynedd nesaf. Rhoi’r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith
ar ôl y cyfnod
galw i mewn
o dridiau. |
|||||
Adroddiad Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru PDF 66 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniadau: 1.
Y dylid nodi cynnwys yr Adroddiad
Blynyddol. 2.
Y dylid cymeradwyo i’r Adroddiad Blynyddol
gael ei
anfon i Lywodraeth
Cymru. Rhesymau dros y Penderfyniadau: I alluogi’r Cyngor i gydymffurfio
â’i ddyletswydd statudol i ddarparu
gwasanaeth llyfrgelloedd yng Nghastell-nedd Port Talbot. Rhoi’r Penderfyniad ar Waith Caiff y penderfyniad ei roi ar waith
ar ôl y cyfnod
galw i mewn
o dridiau. |
|||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniadau: 1.
Wedi rhoi sylw
dyledus i’r ymatebion i’r ymgynghoriad,
a’r asesiadau effaith a risg integredig, y dylid caniatáu cymeradwyaeth yn unol ag
Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i gyhoeddi’r hysbysiad
statudol ynghylch y cynnig i sefydlu
darpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion
o oedran uwchradd ag Anhwylder y Sbectrwm Awtistiaeth yn Ysgol Gyfun Dŵr
y Felin. 2.
Dylid cyhoeddi’r hysbysiad ar 7 Ionawr 2020 a fyddai’n caniatáu 28 diwrnod i wrthwynebiadau ddod i law. 3.
Mai’r dyddiad rhoi ar waith
fydd 20 Ebrill 2020. Rheswm dros y Penderfyniadau: I alluogi’r Cyngor i gydymffurfio â’r gofynion hysbysu
ffurfiol a osodir ar y Cyngor
gan y Cod Trefniadaeth Ysgolion a deddfwriaeth gysylltiedig. Atodir hysbysiad statudol drafft fel atodiad
D i’r adroddiad a ddosbarthwyd. Bydd rhoi’r cynnig ar
waith yn galluogi’r Cyngor i fodloni ei
ddyletswydd i sicrhau addysg effeithlon yn ei
ardal. Rhoi’r Penderfyniad ar Waith Caiff y penderfyniad ei roi ar waith
ar ôl y cyfnod
galw i mewn
o dridiau. |
|||||
Mynediad i gyfarfodydd Yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Penderfyniad: Y dylid eithrio’r cyhoedd ar gyfer
yr eitemau busnes canlynol yn unol â Rheoliad
4 (3) a (5) o Offeryn Statudol
2001 Rhif 2290, oherwydd eu bod yn cynnwys
y tebygolrwydd o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 |
|||||
Adolygiad Perfformiad Chwe Misol Hamdden Celtic 2019-20 (Yn eithriedig dan Baragraph 14) Cofnodion: Rhoddwyd diweddariad llafar i’r Cynghorwyr gan Gadeirydd yr
Is-bwyllgor Hamdden a Diwylliant ar y cyflwyniad diweddar gan Hamdden Celtic ar Berfformiad 2019-20 gan gynnwys yr
adolygiad chwe misol. Penderfyniad: Y dylid nodi’r adroddiad. |
|||||
Adolygiad Perfformiad Hamdden Celtic 2018- 19 (Yn eithriedig dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad: Y dylid nodi’r adroddiad. |