Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Penodi cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd P A Rees yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|||
Datganiadau o fudd Cofnodion: Gwnaeth yr aelod
canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod:
|
|||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 62 KB Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Medi, 2019. |
|||
Gweithdrefn Apeliadau ar gyfer Cymorth Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol PDF 91 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Esboniodd y swyddog y bu gwall teipio ynghylch
niferoedd yng nghyfansoddiad Grŵp Cludiant y cyngor (fel y nodwyd yn
Atodiad 1 yr adroddiad a gylchredwyd). Byddai'r niferoedd yn cael eu
diwygio. Roedd Aelodau'r Cabinet yn
hyderus y byddai'r weithdrefn apeliadau newydd yn ddefnyddiol
i deuluoedd Penderfyniad: Cymeradwyo rhoi gweithdrefn apeliadau newydd ar waith ar
gyfer Cymorth Cludiant o'r Cartref
i'r Ysgol, fel y nodwyd yn Atodiad
1 yr adroddiad a gylchredwyd, yn amodol ar gynnwys
y niferoedd cywir sy'n ymwneud â Grŵp Cludiant y Cyngor. Rheswm dros y Penderfyniad: Gwella'r Weithdrefn Apeliadau
Cymorth Cludiant o'r Cartref i'r
Ysgol presennol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith
ar ôl y cyfnod
galw i mewn
o dridiau. |
|||
Rhaglenni cyflogadwyedd yn y Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes PDF 94 KB Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|||
Adroddiad Blynyddol am bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant PDF 465 KB Cofnodion: Penderfyniad: Y dylid nodi'r
adroddiad. |
|||
Strategaeth Arweinyddiaeth mewn Ysgolion DOTX 32 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r adroddiad. |
|||
Cwricwlwm i Gymru 2022 PDF 940 KB Cofnodion: Penderfyniad: Y dylid nodi'r
cyflwyniad. |
|||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nodwyd y dilynwyd oriau agor traddodiadol ar gyfer y Nadolig
a'r Flwyddyn Newydd unwaith eto eleni,
ac eithrio Parc Margam a fyddai'n elwa o oriau agor
estynedig dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd,
fel y nodwyd yn yr adroddiad
a gylchredwyd. Penderfyniad: Cymeradwyo'r oriau agor a chau dros y Nadolig
a'r flwyddyn Newydd ar gyfer
canolfannau hamdden, pyllau nofio, Parc
Gwledig Margam, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, theatrau a chanolfannau cymunedol, fel y nodwyd yn Atodiadau
1 a 2 i'r adroddiad a gylchredwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Sicrhau bod cyfleusterau'r cyngor
ar gael
i'r cyhoedd pan fydd galw iddynt
fod ar agor
a galluogi rheolwyr i wneud trefniadau
priodol gyda staff rheng flaen o ran eu gwyliau blynyddol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith
ar ôl y cyfnod
galw i mewn
o dridiau. |
|||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Teimlai aelodau y byddai prydles newydd yn ehangu'r
berthynas dda rhwng y cyngor a Chyfeillion Parc Margam - fe'i hystyriwyd yn gam
ymlaen cadarnhaol. Penderfyniad: Rhoi caniatâd mewn egwyddor ar gyfer prydles
atgyweirio mewnol 25 mlynedd i Gyfeillion Parc Margam a Chytundeb Lefel
Gwasanaeth y Tŷ Tyrbin sydd newydd ei adnewyddu ym Mharc Gwledig Margam ar
delerau i'w cytuno â'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio. Rheswm dros y Penderfyniad: Bydd y brydles a'r Cytundeb Lefel Gwasanaeth arfaethedig
yn hwyluso'r defnydd arfaethedig a Chanolfan Dderbyn i Ymwelwyr. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau. |
|||
Blaenraglen Waith 2018-19 PDF 73 KB Cofnodion: Penderfyniad: Nodi'r Blaenraglen Waith
ar gyfer 2019/20. |