Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd P A Rees yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiadau o fuddiant ar ddechrau'r
cyfarfod. Roedd pob un ohonynt wedi cael goddefebau i siarad a phleidleisio ar
faterion ysgol. Y
Cynghorydd P A Rees Cofnod Rhif 6 –
Polisi Derbyniadau Ysgolion, gan ei fod yn Llywodraethwr mewn dwy ysgol yn
CNPT. Y
Cynghorydd A R Lockyer Cofnod Rhif 6
- Polisi Derbyniadau Ysgolion, gan ei fod yn Gadeirydd y Llywodraethwyr yn
Ysgol Gynradd y Gnoll ac yn Llywodraethwr yng Nghastell-nedd. Y Cynghorydd
S Reynolds Cofnod Rhif 6 – Polisi
Derbyniadau Ysgolion, gan ei bod yn Llywodraethwr yn YGG Gwauncaegurwen. Y
Cynghorydd R Mizen Cofnod Rhif 6 -
Polisi Derbyniadau Ysgolion, gan ei fod yn Llywodraethwr yn Ysgol Gyfun Cwmafan
ac Ysgol Cwm Brombil. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 194 KB ·
14/10/2021 ·
01/11/2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14 Hydref ac 1 Tachwedd 2021. |
|
Blaenraglen Waith 2021/2022 PDF 424 KB Cofnodion: Nodi
Blaenraglen Waith 2021/22. |
|
Adroddiad Perfformiad Chwarterol Chwarter 2 2021/22 PDF 305 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Y dylid nodi'r adroddiad monitro. |
|
Polisi Derbyniadau Ysgol PDF 577 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo’r Polisi Derbyniadau Ysgolion Cymunedol 2023/2024
arfaethedig, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ar gyfer ymgynghori. Rheswm dros y penderfyniad: Er mwyn galluogi'r cyngor i gyflawni dyletswyddau statudol a chanllawiau
arfer da mewn perthynas â derbyn disgyblion i ysgolion cymunedol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i
mewn Ymgynghoriad: Bydd yr eitem hon yn destun ymgynghoriad allanol. |
|
Mynediad i gyfarfodydd To
resolve to exclude the public for the following items pursuant to Regulation 4
(3) and (5) of Statutory Instrument 2001 No. 2290 and the relevant exempt
paragraphs of Part 4 of Schedule 12A to the Local Government Act 1972. Cofnodion: Penderfyniad: Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 290, eithrio'r
cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol sy'n cynnwys y datganiadau posib o
wybodaeth eithriedig fel a nodwyd ym Mharagraff 14 Adran 4 Atodlen 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972. |
|
Trefniadau Comisiynu Teuluoedd yn Gyntaf Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, cymeradwyo
estyniad blwyddyn i gontractau a chytundebau ar gyfer gwasanaethau a ariennir
drwy'r grant Teuluoedd yn Gyntaf, o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2023, fel y
nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Rheswm dros y penderfyniad: Er mwyn sicrhau bod parhad y gwasanaeth yn cael ei sicrhau ar gyfer
plant, pobl ifanc a theuluoedd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i
mewn. |