Agenda a chofnodion drafft

Bwrdd Addysg, Sgiliau a Diwylliant y Cabinet - Dydd Iau, 22ain Gorffennaf, 2021 2.01 pm

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd P A Rees yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod:

 

Y Cynghorydd P A Rees - Parthed: Penodi/Diswyddo Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol, gan ei fod yn Llywodraethwr yr Awdurdod Lleol yn un neu fwy o'r ysgolion y soniwyd amdanynt.

 

Y Cynghorydd A R Lockyer - Parthed: Penodi/Diswyddo Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol, gan ei fod yn Llywodraethwr yr Awdurdod Lleol yn un neu fwy o'r ysgolion y soniwyd amdanynt.

 

Nodwyd bod gan aelodau oddefeb a oedd yn caniatáu iddynt siarad a phleidleisio ar faterion ysgolion.

 

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 86 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Mawrth 2021.

 

4.

Blaenraglen Waith 2021/2022 pdf eicon PDF 38 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Nodi'r Blaenraglen Waith.

 

5.

Dyddiadau Tymor Ysgolion Castell-nedd Port Talbot 2023/2024 pdf eicon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo Dyddiadau Tymhorau Ysgol 2023/2024 i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Galluogi'r awdurdod i gyflawni ei ddyletswyddau statudol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

6.

Penodi/Diswyddo Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol pdf eicon PDF 123 KB

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.           Gohirio ailbenodi'r Cynghorydd P A Rees fel Llywodraethwr yr Awdurdod Lleol Ysgol Gynradd Crynallt, i'w ystyried yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.

 

2.           Yn unol â'r polisi cymeradwy, dylid penodi Cynrychiolwyr Llywodraethwyr Awdurdodau Lleol i'r swyddi gwag presennol a'r swyddi gwag sydd ar ddod fel a ganlyn, ac fel y nodir yn atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd:

 

Ysgol

Dyddiad y Swydd Wag

Penderfyniad

Ysgol Gynradd Abbey

01/09/2021

Ail-benodi Victor James

Ysgol Gynradd yr Alltwen

01/09/2021

Ail-benodi'r Cyng. Christopher Jones

Ysgol Gynradd Baglan

01/09/2021

Ail-benodi'r Cyng. Susanne Renkes

Ysgol Gynradd Blaenbaglan

01/09/2021

Ail-benodi'r Cyng. Susanne Renkes

Ysgol Gyfun Cefn Saeson

01/09/2021

Penodi'r Cyng. Leanne Jones

Ysgol Gynradd Coedffranc

Yn syth

Gwneir penodiad yn y dyfodol

Ysgol Gynradd y Creunant

Yn syth

 

01/09/2021

Gwneir penodiad yn y dyfodol

Ail-benodi'r Cyng. Sian Harris

Ysgol Gynradd Crynallt

01/09/2021

 

01/09/2021

Ail-benodi'r Cyng. John Warman

Ail-benodi'r Cyng. Adam McGrath

Ysgol Gynradd Cwmafan

Yn syth

 

01/09/2021

Gwneir penodiad yn y dyfodol

Ail-benodi'r Cyng. Rhidian Mizen

Ysgol Gynradd Eastern

01/09/2021

Ail-benodi'r Cyng. Rachel Taylor

Ysgol Gynradd y Gnoll

Yn syth

Gwneir penodiad yn y dyfodol

Ysgol Gynradd Maesmarchog

01/09/2021

Ail-benodi'r Cyng. Dean Cawsey

Ysgol Gynradd Sandfields

Yn syth

Gwneir penodiad yn y dyfodol

Ysgol Gynradd Gatholig San Joseff

Yn syth

Gwneir penodiad yn y dyfodol

Ysgol Gynradd Gatholig San Joseff

Yn syth

Gwneir penodiad yn y dyfodol

Ysgol Gatholig a Chanolfan Chweched Dosbarth San Joseff

Yn syth

 

01/09/2021

Penodi'r Cyng. Stephanie Lynch

Ail-benodi'r Cyng. Scott Bamsey

Ysgol Gynradd Tonnau

Yn syth

 

01/09/2021

Gwneir penodiad yn y dyfodol

Gwneir penodiad yn y dyfodol

YGG Cwm Nedd

01/09/2021

Ail-benodi'r Cyng. Simon Knoyle

YGG Gwauncaegurwen

01/09/2021

Ail-benodi'r Cyng. Sonia Reynolds

YGG Pontardawe

Yn syth

Gwneir penodiad yn y dyfodol

YGG Trebannws

Yn syth

Penodi Mrs. Laura Santiago

Ysgol Bae Baglan

Yn syth

 

Yn syth

 

01/09/2021

Gwneir penodiad yn y dyfodol

Gwneir penodiad yn y dyfodol

Ail-benodi'r Cyng. Oliver Davies

Ysgol Gymraeg Ystalyfera – Bro Dur

09/11/2021

 

09/11/2021

 

09/11/2021

Ail-benodi'r Cyng. Helen Ceri Clarke

Ail-benodi'r Cyng. Alun Llewelyn

Ail-benodi'r Cyng. Rosalyn Davies

Ysgol Hendrefelin

01/09/2021

Ail-benodi Mrs. A Pauline MacPherson Jones

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Galluogi'r Awdurdod i gyfrannu at lywodraethu ysgolion yn effeithiol drwy gynrychiolaeth ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

7.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Oherwydd yr angen i ymdrin â'r materion sydd wedi'u cynnwys yng Nghofnod Rhif 8 isod, cytunodd y Cadeirydd y gellid codi hyn yn y cyfarfod heddiw fel eitem frys yn unol ag Adran 100B (4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Rheswm:

 

Oherwydd yr elfen amser.

 

 

8.

Adroddiad Strategaeth Diwylliant a Threftadaeth DOTX 35 KB

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.           Bod swyddogion yn gwneud gwaith i gwmpasu'r hyn a fyddai'n gysylltiedig â datblygu strategaeth diwylliant a threftadaeth ar gyfer y fwrdeistref sirol y gellir ei defnyddio i lywio a chefnogi penderfyniadau buddsoddi a cheisiadau am gyllid.

 

2.           Dylid nodi nad yw'r cyngor mewn sefyllfa i gyflwyno mynegiant o ddiddordeb ar gyfer rownd bresennol cystadleuaeth Dinas Diwylliant, ond y dylid ailedrych ar y cyfle hwn pan wahoddir rowndiau newydd o geisiadau.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Adolygu lleoliad diwylliant a threftadaeth o fewn trefniadau cynllunio a darparu gwasanaethau ehangach y cyngor.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.