Lleoliad: Via Microsoft Teams
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y
dylid penodi'r Cynghorydd P A Rees yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Estynnodd y
Cadeirydd ddymuniadau gorau, ar ran yr Aelodau, i Aled Evans, a fyddai'n
ymddeol cyn bo hir o swydd Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Nodwyd bod
gan aelodau oddefeb a oedd yn caniatáu iddynt siarad a phleidleisio ar faterion
ysgolion. Gwnaeth y
swyddog canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod: Wayne John - parthed: Adroddiad
Blynyddol Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2019-20, gan ei fod yn aelod o
Grŵp Cyfeirio Llywodraethu Cymru ar Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 51 KB Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Ionawr, 2021. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Blaenraglen Waith 2021-2022 PDF 105 KB Cofnodion: Nodi'r
Blaenraglen Waith. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodi a Diswyddo Cynrychiolwyr Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol PDF 107 KB Cofnodion: Penderfyniadau: Yn unol â'r
polisi cymeradwy, dylid penodi Cynrychiolwyr Llywodraethwyr Awdurdodau Lleol
i'r swyddi gwag presennol a'r swyddi gwag sydd ar ddod fel a ganlyn, ac fel y
nodir yn atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd:
Rheswm dros
y penderfyniadau: Galluogi'r
Awdurdod i gyfrannu at lywodraethu ysgolion yn effeithiol drwy gynrychiolaeth
ar gyrff llywodraethu ysgolion. Rhoi
Penderfyniadau ar Waith: Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru, Adroddiad Blynyddol 2019-2020 PDF 72 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo
Adroddiad Blynyddol Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru i Lywodraeth Cymru
2019-20, a nodi cynnwys Adroddiad Asesu Blynyddol 2019-20. Rheswm dros
y penderfyniad: Galluogi'r
cyngor i gydymffurfio â'i ddyletswydd statudol o ddarparu gwasanaeth llyfrgell
yng Nghastell-nedd Port Talbot. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Derbyniadau Ysgolion Cymunedol 2022 - 2023 PDF 89 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nododd yr
Aelodau ddiwygiad i'r adroddiad a ddosbarthwyd. Esboniodd swyddogion y dylai
Paragraff 9 ddweud: 'Yn ei
gyfarfod ar 25 Tachwedd 2020, cymeradwyodd y Cabinet ymgynghoriad
ar drefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer ysgolion cymunedol.' Penderfyniad: Ar ôl rhoi
sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, ac yn unol â'r Côd Derbyn i
Ysgolion 2013 a Rheoliadau Addysg (Penderfynu Trefniadau Derbyn) (Cymru) 2006,
penderfynwyd cymeradwyo'r trefniadau derbyn ar gyfer ysgolion cymunedol mewn
perthynas â blwyddyn academaidd 2022/2023, fel y nodir yn atodiad A i'r
adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros
y penderfyniad: Galluogi'r
cyngor i gyflawni dyletswyddau statudol a chanllawiau arfer da mewn perthynas â
derbyn disgyblion i ysgolion cymunedol. Rhoi'r Penderfyniad
ar Waith: Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn. Ymgynghoriad: Mae'r eitem
hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dyddiadau Tymhorau Ysgol 2023-2024 PDF 114 KB Cofnodion: Penderfyniad: Dylid cytuno
ar ddyddiadau tymhorau ysgol 2023/2024 (fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd) ar gyfer ymgynghori, a'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn
diwrnod gwaith terfynol mis Awst 2021. Rheswm dros
y penderfyniad: Galluogi'r
awdurdod i gyflawni ei ddyletswyddau statudol. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniadau
eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn. Ymgynghoriad: Bydd yr
eitem hon yn destun ymgynghoriad allanol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfansoddiad Diwygiedig Fforwm Ysgolion PDF 151 KB Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo
Cyfansoddiad Diwygiedig Fforwm Ysgolion, fel y'i nodir yn atodiad A i'r
adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros
y penderfyniad: Galluogi'r
awdurdod i barhau i gyflawni ei ddyletswyddau statudol. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
System Rheoli Gwybodaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol PDF 103 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl
ystyried yr Asesiad Effaith Integredig, dylid dirprwyo awdurdod i'r Pennaeth
Trawsnewid i gynnwys y cyngor yn y trefniadau cytundebol a nodir yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros
y penderfyniad: Caniatáu i'r
awdurdod fwrw ymlaen â threfniadau cytundebol gyda'r darparwr, yn barod ar
gyfer gweithredu deddfwriaeth newydd. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Mynediad i gyfarfodydd Penderfynu
gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5)
Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol yn rhan 4
Atodlen 21A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Penderfyniad: Yn unol â
Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gwahardd y cyhoedd ar
gyfer yr eitemau busnes canlynol a oedd yn debygol o ddatgelu gwybodaeth
eithriedig fel a diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf
Llywodraeth Leol 1972. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Hen gae AstroTurf llifoleuedig Ysgol Gyfun Cymer Afan (Eithriedig o dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad: Datgan bod y
cae astro turf annibynnol â llifoleuadau ar dir Ysgol Gynradd Cymer Afan, fel
cyfleuster dros ben i ofynion gweithredol parhaus y Gwasanaeth Addysg, Hamdden
a Dysgu Gydol Oes. Rheswm dros
y penderfyniad: Galluogi'r
Pennaeth Eiddo ac Adfywio i ddechrau trafodaethau ar brydles bosib. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Traeth Aberafan - Gwasanaeth Achub Bywyd (Eithriedig o dan Baragraff 14) Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo'r
cynnig i ymrwymo i gontract fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd,
o ran darparu Gwasanaeth Achub Bywyd ar Draeth Aberafan. Rheswm dros
y penderfyniad: Sicrhau bod
y cyngor yn parhau i ddarparu gwasanaeth achub bywyd traeth proffesiynol ar
Draeth Aberafan. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn. |