Agenda a chofnodion drafft

Bwrdd Addysg, Sgiliau a Diwylliant y Cabinet - Dydd Iau, 25ain Tachwedd, 2021 2.01 pm

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd P A Rees yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiadau o fuddiant ar ddechrau'r cyfarfod. Roedd pob un ohonynt wedi cael goddefebau i siarad a phleidleisio ar faterion ysgol.

 

Y Cynghorydd P A Rees      Cofnod Rhif 6 – Polisi Derbyniadau Ysgolion, gan ei fod yn Llywodraethwr mewn dwy ysgol yn CNPT.

 

Y Cynghorydd A R Lockyer      Cofnod Rhif 6 - Polisi Derbyniadau Ysgolion, gan ei fod yn Gadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd y Gnoll ac yn Llywodraethwr yng Nghastell-nedd.

 

Y Cynghorydd S Reynolds        Cofnod Rhif 6 – Polisi Derbyniadau Ysgolion, gan ei bod yn Llywodraethwr yn YGG Gwauncaegurwen.

 

Y Cynghorydd R Mizen    Cofnod Rhif 6 - Polisi Derbyniadau Ysgolion, gan ei fod yn Llywodraethwr yn Ysgol Gyfun Cwmafan ac Ysgol Cwm Brombil.

 

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 194 KB

·                    14/10/2021

·                    01/11/2021

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14 Hydref ac 1 Tachwedd 2021.

4.

Blaenraglen Waith 2021/2022 pdf eicon PDF 424 KB

Cofnodion:

Nodi Blaenraglen Waith 2021/22.

 

5.

Adroddiad Perfformiad Chwarterol Chwarter 2 2021/22 pdf eicon PDF 305 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Y dylid nodi'r adroddiad monitro.

 

6.

Polisi Derbyniadau Ysgol pdf eicon PDF 577 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo’r Polisi Derbyniadau Ysgolion Cymunedol 2023/2024 arfaethedig, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ar gyfer ymgynghori.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Er mwyn galluogi'r cyngor i gyflawni dyletswyddau statudol a chanllawiau arfer da mewn perthynas â derbyn disgyblion i ysgolion  cymunedol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn

 

Ymgynghoriad:

 

Bydd yr eitem hon yn destun ymgynghoriad allanol.

 

7.

Mynediad i gyfarfodydd

To resolve to exclude the public for the following items pursuant to Regulation 4 (3) and (5) of Statutory Instrument 2001 No. 2290 and the relevant exempt paragraphs of Part 4 of Schedule 12A to the Local Government Act 1972.

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Yn unol â Rheoliad 4(3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 290, eithrio'r cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol sy'n cynnwys y datganiadau posib o wybodaeth eithriedig fel a nodwyd ym Mharagraff 14 Adran 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

8.

Trefniadau Comisiynu Teuluoedd yn Gyntaf

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, cymeradwyo estyniad blwyddyn i gontractau a chytundebau ar gyfer gwasanaethau a ariennir drwy'r grant Teuluoedd yn Gyntaf, o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2023, fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

Er mwyn sicrhau bod parhad y gwasanaeth yn cael ei sicrhau ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.