Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y
dylid penodi'r Cynghorydd P A Rees yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaeth yr
aelodau canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod: Y Cynghorydd P A Rees - Parthed:
Penodi/Diswyddo Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol, gan ei fod yn Llywodraethwr
yr Awdurdod Lleol yn un neu fwy o'r ysgolion y soniwyd amdanynt. Y Cynghorydd A R Lockyer - Parthed:
Penodi/Diswyddo Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol, gan ei fod yn Llywodraethwr
yr Awdurdod Lleol yn un neu fwy o'r ysgolion y soniwyd amdanynt. Nodwyd bod gan aelodau oddefeb a oedd yn caniatáu iddynt siarad a
phleidleisio ar faterion ysgolion. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 86 KB Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Mawrth 2021. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Blaenraglen Waith 2021/2022 PDF 38 KB Cofnodion: Penderfyniad: Nodi'r
Blaenraglen Waith. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dyddiadau Tymor Ysgolion Castell-nedd Port Talbot 2023/2024 PDF 116 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo
Dyddiadau Tymhorau Ysgol 2023/2024 i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Rheswm dros
y penderfyniad: Galluogi'r
awdurdod i gyflawni ei ddyletswyddau statudol. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodi/Diswyddo Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol PDF 123 KB Cofnodion: Penderfyniadau: 1.
Gohirio ailbenodi'r Cynghorydd P A Rees fel
Llywodraethwr yr Awdurdod Lleol Ysgol Gynradd Crynallt, i'w ystyried yn ystod cyfarfod
yn y dyfodol. 2.
Yn unol â'r polisi cymeradwy, dylid penodi
Cynrychiolwyr Llywodraethwyr Awdurdodau Lleol i'r swyddi gwag presennol a'r
swyddi gwag sydd ar ddod fel a ganlyn, ac fel y nodir yn atodiad 1 i'r
adroddiad a ddosbarthwyd:
Rheswm dros
y penderfyniadau: Galluogi'r
Awdurdod i gyfrannu at lywodraethu ysgolion yn effeithiol drwy gynrychiolaeth
ar gyrff llywodraethu ysgolion. Rhoi
Penderfyniadau ar Waith: Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Oherwydd yr angen i ymdrin â'r
materion sydd wedi'u cynnwys yng Nghofnod Rhif 8 isod, cytunodd y Cadeirydd y
gellid codi hyn yn y cyfarfod heddiw fel eitem frys yn unol ag Adran 100B
(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Rheswm: Oherwydd yr elfen amser. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Strategaeth Diwylliant a Threftadaeth DOTX 35 KB Cofnodion: Penderfyniadau: 1.
Bod swyddogion yn gwneud gwaith i gwmpasu'r hyn
a fyddai'n gysylltiedig â datblygu strategaeth diwylliant a threftadaeth ar gyfer
y fwrdeistref sirol y gellir ei defnyddio i lywio a chefnogi penderfyniadau
buddsoddi a cheisiadau am gyllid. 2.
Dylid nodi nad yw'r cyngor mewn sefyllfa i
gyflwyno mynegiant o ddiddordeb ar gyfer rownd bresennol cystadleuaeth Dinas
Diwylliant, ond y dylid ailedrych ar y cyfle hwn pan wahoddir rowndiau newydd o
geisiadau. Rheswm dros
y penderfyniadau: Adolygu
lleoliad diwylliant a threftadaeth o fewn trefniadau cynllunio a darparu
gwasanaethau ehangach y cyngor. Rhoi
Penderfyniadau ar Waith: Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |