Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i
benodi'r Cynghorydd P A Rees yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 66 KB Cofnodion: Cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Medi 2021. |
|
Blaenraglen Waith 2021-2022 PDF 536 KB Cofnodion: Nodi'r
Blaenraglen Waith |
|
Adroddiad Perfformiad Chwarterol Chwarter 1 2021/22 PDF 306 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Y dylid
nodi'r adroddiad monitro. |
|
Amserau agor y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd 2021 PDF 130 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo'r
oriau agor dros y Nadolig a'r flwyddyn Newydd 2021/22 ar gyfer canolfannau
hamdden, pyllau nofio, Parc Gwledig Margam, llyfrgelloedd, amgueddfeydd,
theatrau a chanolfannau cymunedol o fewn Castell-nedd Port Talbot, fel y nodwyd
yn Atodiad 1 a 2 i'r adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros
y penderfyniad: Sicrhau bod
cyfleusterau'r cyngor ar gael i'r cyhoedd pan fydd galw iddynt fod ar agor a
galluogi rheolwyr i wneud trefniadau priodol gyda staff rheng flaen o ran eu
gwyliau blynyddol. Rhoi'r Penderfyniad
ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|
Grant cyfrwng Cymraeg - Cynllun Amlinellol PDF 254 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Cymeradwyo
cyflwyno cais mynegiant o ddiddordeb i Lywodraeth Cymru ar gyfer arian grant
cyfalaf Cynyddu’r Ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg (2022-2026), gan ystyried yr
Asesiad Effaith Integredig a'r crynodeb, fel y nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd. Rheswm dros
y penderfyniad: Sicrhau bod
gan y cyngor y cyfle i elwa o'r arian grant cyfalaf cyfrwng Cymraeg sydd ar
gael i gynyddu a gwella’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y fwrdeistref sirol. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. |
|
Pum Argymhelliad Estyn mewn ymateb i COVID-19 PDF 230 KB Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r
adroddiad. |
|
Y Diweddaraf am Ddysgu Oedolion yn y Gymuned PDF 210 KB Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r
adroddiad. |
|
Y Diweddaraf am y Gwasanaeth Ieuenctid PDF 2 MB Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r
adroddiad. |
|
Rhaglenni Cyflogadwyedd a Sgiliau o fewn Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes PDF 386 KB Cofnodion: Penderfyniad: Dylid nodi'r
adroddiad. |