Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Nicola Headon
Rhif | Eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
Sgwrsfot yr Adnoddau Dynol PDF 60 KB Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor arddangosiad a gwybodaeth
mewn perthynas â chynllun peilot Sgwrsfot Adnoddau Dynol. PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|||||
Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu PDF 55 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor drosolwg o Adroddiad Gwybodaeth
am y Gweithlu, Chwarter 2 2019/20 fel y manylwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd. Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â'r cynnydd yn
nifer y staff sy'n absennol oherwydd salwch sy'n ymwneud â straen. Esboniodd y swyddogion fod adroddiad ar yr
agenda ar gyfer yr un cyfarfod, sy'n darparu trosolwg i'r Aelodau o Gynllun
Gweithredu'r Prosiect Iechyd Meddwl sy'n gysylltiedig ag addewid Amser i Newid
Cymru ac yn cynnwys diweddariad ar gyfer y camau gweithredu a gymerwyd eisoes. Gofynnodd yr Aelodau am y data ar gyfer y cyfarfod
nesaf, sef lleihau'r salwch iechyd meddwl sy'n ymwneud â straen fesul
gwasanaeth. Esboniodd y swyddogion fod gwefan Iechyd Meddwl yn
cael ei datblygu ar hyn o bryd a fyddai'n cyfeirio gweithwyr at yr help a'r
gefnogaeth perthnasol. PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|||||
Gwybodaeth am Gyflogaeth a Chydraddoldeb 2018/19 PDF 69 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparwyd Gwybodaeth am Gyflogaeth a Chydraddoldeb
ar gyfer 2018-2019 i'r Aelodau. Roedd yr Aelodau'n cefnogi cyhoeddi'r adroddiad ar
wefan y cyngor. PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|||||
Y Diweddaraf am Gynllun Gweithredu'r Gweithlu PDF 62 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd yr Aelod y diweddaraf am y cynnydd a
wnaed o ran y cynllun gweithredu a nodwyd yng Nghynllun Gweithredu'r Gweithlu
2018-2022 y cyngor. Amlygodd yr aelodau fod angen i iechyd meddwl yn y
gweithle fod yn flaenoriaeth. PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|||||
Y Diweddaraf am y Cynllun Cyflogwyr Chwarae Teg PDF 305 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd yr aelodau ddiweddariad mewn perthynas â
Chynllun Cyflogwr Chwarae Teg. Amlygodd y swyddogion eu bod wedi derbyn adborth
cadarnhaol gan y gweithlu er bod meysydd i'w gwella fel a nodwyd yn yr adroddiad.
Byddai adroddiad sy'n nodi'r cynnydd yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor ymhen 6
mis. PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|||||
Prosiect Diwedd y Mislif PDF 343 KB Cofnodion: Darparwyd gwybodaeth i'r aelodau am Brosiect Diwedd
y Mislif a gynhelir gan y Tîm Adnoddau Dynol. Nodwyd y bwriedir cynnal dwy sesiwn diwedd y mislif
arall yng Nghanolfannau Dinesig Castell-nedd a Phort Talbot. PENDERFYNWYD y
byddai'r adroddiad yn cael ei nodi |
|||||
Polisïau Cam-drin Domestig ac Absenoldeb Arbennig Diwygiedig PDF 204 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gofynnwyd i aelodau gymeradwyo cyflwyno'r Polisïau
Cam-drin Domestig ac Absenoldeb Arbennig Diwygiedig fel a manylwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd. PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cyflwyno'r Polisïau Cam-drin Domestig
ac Absenoldeb Arbennig. |
|||||
Addewid Cyflogwyr Amser i Newid Cymru - Cynllun Gweithredu PDF 60 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparwyd diweddariad i'r aelodau mewn perthynas
â'r cynnydd a wnaed o ran y Cynllun Gweithredu a ddatblygwyd fel rhan o Addewid
Cyflogwyr Amser i Newid Cymru y mae'r cyngor wedi'i fabwysiadau yn ystod mis
Medi 2019. Amlygwyd bod nifer o gamau gweithredu allweddol
eisoes wedi'u cyflwyno drwy'r cyngor a byddai'r Grŵp Prosiect yn parhau i
gyflwyno'r Cynllun Gweithredu wrth fynd ymlaen. PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|||||
Diwygiadau i Ddisgresiynau Cynllun Pensiwn y Llywodraeth Leol PDF 48 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gofynnwyd i aelodau wella Polisi Disgresiynau
Cyflogwyr Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Cyngor Bwrdeistref Sirol
Castell-nedd Port Talbot. PENDERFYNWYD: Cymeradwyo Polisi Disgresiynau Cyflogwyr
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port
Talbot. |
|||||
Mynediad i gyfarfodydd Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys
datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a diffinnir ym Mharagraff 12 ac
15 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod. Cofnodion:
|
|||||
Diweddariad Tâl Cofnodion: Darparwyd diweddariad i'r Aelodau ar drafodaethau
cyflog cenedlaethol, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |