Cofnodion

Pwyllgor Personél - Dydd Llun, 18fed Tachwedd, 2024 2.00 pm

Lleoliad arfaethedig: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Tammie Davies  E-bost: t.davies5@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 18 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Medi 2024 fel cofnod cywir.

 

4.

Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2023/2024 pdf eicon PDF 589 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparwyd gwybodaeth am gyflogaeth a chydraddoldeb i'r Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2023-2024.

 

Nodwyd bod yr adroddiad hwn yn rhan o Ddyletswydd Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus y Cyngor a'i fod yn cynnwys yr holl ddata perthnasol y mae'n rhaid i'r Cyngor ei gyhoeddi fel rhan o'r ddyletswydd honno.

PENDERFYNWYD:  

 

Cymeradwyo’r wybodaeth am gyflogaeth a chydraddoldeb ar gyfer y flwyddyn 2023-2024, a gynhwysir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

5.

Adroddiad Blynyddol y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol pdf eicon PDF 232 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd yr Aelodau Adroddiad Blynyddol y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol, a baratowyd yn unol â'r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol fel a nodir yn Neddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.

 

Eglurwyd bod yn rhaid i awdurdodau lleol geisio barn gyffredinol neu gyfaddawd gyda'u Hundebau Llafur cydnabyddedig wrth bennu eu hamcanion lles a gwneud penderfyniadau o natur strategol ynghylch y camau rhesymol maent yn bwriadu eu cymryd i gyflawni'r amcanion hynny. Hysbyswyd yr Aelodau fod yr adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi sut yr oedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ceisio gwneud hynny gyda'r Undebau Llafur cydnabyddedig. Ategwyd bod yr Undebau Llafur cydnabyddedig hynny wedi cymeradwyo cynnwys yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol a'i gyflwyno i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.

 

 

6.

Trefniadau Gwyliau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd 2025/2026 a 2026/2027 pdf eicon PDF 481 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd swyddogion adroddiad ynghylch trefniadau agor a chau'r prif swyddfeydd dinesig yn ystod cyfnodau gwyliau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd ar gyfer 2025/2026 a 2026/2027.

 

Nodwyd y cynhaliwyd ymgynghoriad gyda Phrif Swyddogion ac Undebau Llafur ynghylch yr opsiynau a ffefrir.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cynigion mewn perthynas â threfniadau gwyliau'r Nadolig / y Flwyddyn Newydd ar gyfer 2025/2026 a 2026/2027, a gynhwysir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

7.

Polisi Gwirfoddoli pdf eicon PDF 224 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd swyddogion adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i roi Polisi Gwirfoddoli newydd ar waith ar draws y Cyngor.

 

Eglurwyd bod datblygiad y Polisi Gwirfoddoli wedi'i nodi fel un o'r ymrwymiadau a wnaed yng Nghynllun Gweithlu Strategol y Cyngor a'r Cynllun Gweithredu Cyflawni, ar gyfer ail flwyddyn Strategaeth y Gweithlu.

 

Hysbyswyd yr Aelodau fod y Cyngor eisoes wedi defnyddio gwirfoddolwyr ar draws llawer o wasanaethau, ond nid oedd fframwaith safonol ar gyfer recriwtio a rheoli'r gwirfoddolwyr hynny; byddai datblygu polisi yn helpu i sicrhau dull cyson o weithredu ac yn sicrhau y glynir at drefniadau, megis camau gwirio cyn cyflogi. Tynnodd swyddogion sylw hefyd at y manteision lles, gan fod lles gwirfoddolwyr yn gwella o ganlyniad i wirfoddoli.

 

Dywedodd swyddogion y bydd y Polisi Gwirfoddoli yn creu cyfleoedd ar draws y Cyngor ac y gall y rheini nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor, yn ogystal â gweithwyr y Cyngor, ymgymryd â nhw; byddai'n fesur arall yn yr ystod o fuddion y mae'r Cyngor yn eu darparu. 

 

Cafwyd trafodaeth ynghylch monitro a mapio effeithiau'r polisi hwn ar draws y Cyngor. Nodwyd nad oedd swyddogion yn casglu data mewn perthynas â gwirfoddolwyr ar hyn o bryd; fodd bynnag, gwneir trefniadau i fonitro cysondeb y dull gweithredu, a bydd y data perthnasol yn cael ei gasglu wrth symud ymlaen. Soniwyd bod swyddogion wedi ymgysylltu â gwasanaethau sy'n defnyddio gwirfoddolwyr ar hyn o bryd ac sydd, er enghraifft, wedi sicrhau bod gwasanaethau megis ysgolion yn ymwybodol o'r camau gwirio cyn cyflogi. 

 

Gofynnodd yr Aelodau am ddealltwriaeth well o rai o fanylion manylach y polisi a'r hyn y gellid ei gyflawni. Eglurwyd y byddai'r gwasanaethau eu hunain yn llunio rhestr o gyfleoedd gwirfoddoli ac yn eu hysbysebu, gan wahodd pobl i gyflwyno eu hunain i ymgymryd â rôl benodol; cyn i aelod o staff benderfynu gwirfoddoli, dylai drafod y rôl gyda'i Reolwr Llinell i sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro buddiannau. Dywedodd swyddogion na fyddai rolau gwirfoddoli yn cael gwared ar gyflogaeth â thâl ac y byddent yn ategol i wasanaethau craidd y Cyngor; ni fyddai gwirfoddolwr yn ymgymryd â gwaith gweithiwr cyflogedig.

 

Yn ogystal â'r uchod, amlygwyd bod y Cyngor eisoes yn defnyddio llawer o wirfoddolwyr ar draws gwasanaethau megis ysgolion, parciau a theatrau; fodd bynnag, gobeithio y byddai'r polisi yn cynyddu'r cyfleoedd ac yn darparu fframwaith er mwyn gallu rhoi cyhoeddusrwydd i'r cyfleoedd hynny. Cadarnhaodd swyddogion ei fod yn ffordd ddefnyddiol i bobl ennill profiad a mynd ymlaen i gael swydd, neu ei fod ar gyfer y rheini sydd am helpu yn unig.

 

Holodd yr Aelodau am y trefniadau ymarferol o ran monitro a hyfforddi'r gwirfoddolwyr, a chyfeiriwyd at y defnydd o'r polisi hwn ar gyfer y rheini a oedd mewn perygl o golli swydd. Dywedwyd na fyddai gwirfoddolwyr yn cael eu gadael heb oruchwyliaeth yn unrhyw un o'r gweithleoedd, yn enwedig y rheini sy'n ymwneud â'r gwasanaethau plant neu oedolion; byddai swyddog cyflogedig yn gweithio ochr yn ochr â nhw bob amser. Dywedodd swyddogion, mewn amgylchiadau lle'r oedd rhywun mewn perygl o golli  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

Gwybodaeth am y Gweithlu - Chwarter 2 pdf eicon PDF 329 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd yr Aelodau'r Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu - Chwarter 2 ar gyfer 2024/25.

 

Dywedodd swyddogion y cafwyd cynnydd yn absenoldeb salwch; wrth siarad â chydweithwyr ledled Cymru, roedd yn ymddangos bod hwn yn duedd genedlaethol yn hytrach na thuedd a oedd yn benodol i Gastell-nedd Port Talbot. Nodwyd bod y data hwn wedi'i rannu ag Uwch-dimau Rheoli ar draws y Cyngor i'w galluogi i nodi'r rhesymau dros absenoldeb salwch ar draws eu gwasanaethau, ac i sicrhau bod absenoldeb salwch yn cael ei reoli'n briodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

 

9.

Employers for Carers - Cynllun Meincnodi Hyderus o Ofalwyr pdf eicon PDF 402 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbyswyd yr Aelodau fod Cyngor Bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot wedi llwyddo i gyflawni Lefel 2 Cynllun Meincnodi Hyderus o Ofalwyr Employers for Carers (wedi'i gyflawni).

 

Nodwyd bod yr Aelodau wedi cymeradwyo aelodaeth tanysgrifiad y Cyngor i Employers for Carers  yn 2022; roedd swyddogion ar draws y Tîm Pobl a Datblygu Sefydliadol wedi bod yn gweithio i roi trefniadau'r Cyngor ar waith er mwyn cefnogi gweithwyr â chanddynt gyfrifoldebau gofalu y tu allan i'r gwaith. Amlygodd swyddogion fod y trefniadau wedi'u cyflwyno ar gyfer asesiad, ac o ganlyniad roeddent wedi cyrraedd meincnod Lefel 2 (wedi’i gyflawni). Nodwyd bod swyddogion yn bwriadu parhau i adeiladu ar y gwaith hwn.

 

Cyfeiriodd swyddogion at yr ystod o dystiolaeth a gyflwynwyd i'w hystyried, yr oedd peth o'r dystiolaeth hon yn cynnwys:

·        Trefniadau cyfathrebu ar gyfer gweithwyr a oedd yn ofalwyr ac ymrwymiad y Cyngor i gefnogi gofalwyr yn y gweithlu.

·        Gwobr Gofalwyr Cymru - Roedd Gofal Cartref wedi llwyddo i sicrhau'r wobr cydnabyddiaeth ar gyfer  Rheolwr Llinell yn y Gwobrau Wythnos Gofalwyr a drefnir gan Gofalwyr Cymru am y gefnogaeth barhaus a roddir i weithwyr. Roedd hyn yn dangos y gefnogaeth bwrpasol maent yn ei darparu.

·        Cyflwyniadau i arddangos bod ystod o bobl, gan gynnwys Rheolwyr Llinell, wedi cael eu briffio i sicrhau eu bod yn ymwybodol o sut i gefnogi gofalwyr yn y gweithlu.

·        Arolwg staff gofalwyr er mwyn cael gwybodaeth hanfodol am ba gymorth sydd ei angen arnynt a beth arall y gallai'r Cyngor ei wneud i'w helpu.

·        Ymgyrch i recriwtio Hyrwyddwyr Gofalwyr, a oedd yn gallu cyfeirio gofalwyr at lwybrau cymorth a chynyddu ymwybyddiaeth.

·        Sesiynau galw heibio ar gyfer Diwrnod Hawliau Gofalwyr i gynyddu ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth sydd ar gael.

·        Datblygu sianel gofalwyr Viva Engage, sy'n hyrwyddo hunanymwybyddiaeth a deunyddiau cymorth yn wythnosol.

·        Sut roedd Employers for Carers wedi'i gynnwys yn y broses cynefino/sefydlu ar gyfer dechreuwyr newydd.

 

Amlygwyd bod y meini prawf ar gyfer meincnodi yn ymwneud yn bennaf â chynyddu ymwybyddiaeth, a sicrhau bod pobl sy'n gallu cefnogi gofalwyr yn y gweithle yn gwybod pa gymorth i'w ddarparu, a bod pobl â chyfrifoldebau gofalu yn gwybod ble i fynd pan roedd angen y cymorth hwnnw arnynt.

 

Gofynnodd yr Aelodau pa gamau gweithredu ychwanegol oedd eu hangen er mwyn cyrraedd y lefel nesaf. Darparodd swyddogion y rhestr ganlynol ar gyfer cyflawni Lefel 3:

  • Dangos dulliau creadigol ac arloesol o gefnogi ac ymgysylltu â gofalwyr fel rhan o ddiwylliant gweithle agored a chadarnhaol.
  • Cynnwys gofalwyr wrth ddatblygu polisïau/canllawiau a phrosesau i gefnogi gofalwyr yn y gweithle.
  • Darparu ystod eang o wybodaeth a chymorth i ofalwyr ar bob cam o'u taith ofalu.
  • Cefnogi gofalwyr ar bob cam o gyflogaeth, o recriwtio i ddychwelyd i'r gweithle, neu adael y gweithle.
  • Galluogi ac annog gofalwyr i dderbyn cymorth ymarferol o'r tu mewn a'r tu allan i'r sefydliad.
  • Hyfforddi rheolwyr i gefnogi a chadw gofalwyr yn effeithiol.
  • Cyfathrebu'n rheolaidd a hyrwyddo materion gofalu/gofalwyr trwy'r sefydliad gan gynnwys trwy reolwyr llinell.
  • Hyrwyddo gofalu/gofalwyr yn fewnol ac yn allanol, gan gynnwys arwain trwy esiampl yn eich gweithle  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

Bil Hawliau Cyflogaeth pdf eicon PDF 406 KB

Cofnodion:

Rhoddodd swyddogion wybodaeth i'r Aelodau am y Bil Hawliau Cyflogaeth newydd.

 

Nodwyd nad oedd y Bil mewn deddfwriaeth eto gan ei fod yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. Hysbyswyd yr Aelodau fod yr adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi'r newidiadau y byddai eu hangen ar draws y Cyngor o ganlyniad i roi'r ddeddfwriaeth hon ar waith.

 

PENDERFYNWYD

 

Nodwyd yr adroddiad.

 

11.

Eitemau brys

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.

 

12.

Mynediad i gyfarfodydd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 15 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

13.

Y Diweddaraf am Drafodaethau Cyflog Cenedlaethol (eithriedig o dan Baragraff 15)

Cofnodion:

Darparwyd yr wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â thrafodaethau cyflog cenedlaethol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodwyd yr adroddiad.