Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Personél - Dydd Llun, 22ain Mai, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Multi Location Microsoft Teams/Council Chamber

Cyswllt: Sarah Mccluskie 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

I ddechrau, atgoffodd y Cadeirydd y Pwyllgor o'r atodiad hwyr a ddosbarthwyd mewn perthynas ag eitem 6 ar yr agenda.

 

Nodwyd ymddiheuriadau hefyd gan y Cyng. A Llewellyn (Dirprwy Arweinydd), y Cyng. P D Richards a'r Cyng. C J Hurley.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 2023 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

4.

Adolygiad o'r Polisi Teithio a Chynhaliaeth pdf eicon PDF 283 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparwyd trosolwg i'r Aelodau i'r adroddiad a ddosbarthwyd, gan Bennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol.

 

Penderfyniad:

Bod Aelodau yn cymeradwyo'r Polisi Taliadau Teithio a Chynhaliaeth.

 

Rhoi ar waith:

Bod y penderfyniad yn cael ei roi ar waith yn dilyn cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Gwener 26 Mai 2023.

 

Ymgynghoriad:

Nid oes gofyniad i ymgymryd ag ymgynghoriad allanol, fodd bynnag mae'r polisi wedi'i gymeradwyo'n llawn gan yr Undebau Llafur.

 

5.

Adroddiad Gwybodaeth Gweithlu 2022/2023 Chwarter 4 pdf eicon PDF 326 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd trosolwg i Aelodau'r Pwyllgor i'r adroddiad a ddosbarthwyd, gan Bennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol.

 

Fel ar yr adroddiad, rhoddwyd diweddariad i'r Aelodau ynghylch gweithlu'r cyngor o ran cyflogaeth, patrymau gwaith, ymunwyr, gadawyr ac agweddau allweddol mewn perthynas ag absenoldeb salwch.

 

Penderfyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth.

 

6.

Adroddiad diweddaru Cynllun Gweithredu'r Menopos pdf eicon PDF 217 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad i'r Aelodau ar y llwyddiant diweddar sef ennill Gwobr 'Innovation' yn Seremoni Gwobrau CNPT, o ran rhoi Cynllun Gweithredu'r Menopos ar waith, atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Aeth Aelodau ymlaen i longyfarch Swyddogion ar y llwyddiant.

 

Penderfyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth.

 

7.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. 

 

8.

Mynediad i gyfarfodydd

Mae hynny'n unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ac eithrio'r cyhoedd am yr eitemau canlynol o fusnes a oedd yn ymwneud â datgelu gwybodaeth wedi'i heithrio'n debygol fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 a 15 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf uchod.

Cofnodion:

Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12 ac 15 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod

 

9.

Adroddiad Meincnodi Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau

Cofnodion:

Rhoddwyd trosolwg i'r Aelodau o'r adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Penderfyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth.

 

10.

Diweddariad ar Drafodaethau Tâl Cenedlaethol Mai 2023 - Adroddiad Preifat

Cofnodion:

Aeth y Pennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol ymlaen i roi diweddariad i'r Pwyllgor o'r adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Penderfyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth, ac unrhyw ddiweddariadau pellach yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor.