Lleoliad: Multi Location Microsoft Teams/Council Chamber
Cyswllt: Sarah McCluskie
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Aeth y
Cadeirydd ymlaen i ymddiheuro i'r Pwyllgor am y gwall teipio a nodwyd yn yr
agenda o ran manylion Aelodau Cabinet coll. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Derbyniwyd datganiadau o fuddiannau gan yr Aelodau
a'r Swyddogion canlynol. Y Cynghorydd S Jones ar gyfer eitem 6 Y Cynghorydd D Keogh ar gyfer eitem 6 Y Cynghorydd C Clement-Williams ar gyfer eitem 6 Y Cynghorydd S Grimshaw ar gyfer eitem 6 S Rees ar gyfer eitem 4 |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor
Personél a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2022 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod
cywir. |
|
Diwrnod o Wyliau Blynyddol Ychwanegol ar gyfer gweithwyr a gwmpesir gan y CGC Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparwyd trosolwg o'r adroddiad gan y Swyddog AD.
Yn 2022 fel rhan o'r dyfarniad cyflog am wasanaethau llywodraeth leol, rhoddwyd
diwrnod ychwanegol o wyliau blynyddol i weithwyr. Diben yr adroddiad heddiw yw
gofyn am ddiwrnod o wyliau blynyddol ychwanegol i'r Prif Weithredwr, Prif
Swyddogion, Gweithwyr Pwyllgor Solisbury a Gweithwyr Ieuenctid a Chymuned ar
gyfer 2023. Amlygodd yr Aelodau y defnydd o acronymau yn yr
adroddiad a'r camddealltwriaeth o ran yr hyn y mae'r acronymau'n cyfeirio ato.
Dywedodd swyddogion y byddai acronymau yn cael eu heithrio o adroddiadau wrth
symud ymlaen. Aeth yr Aelodau ymlaen i holi a oedd unrhyw effaith
ariannol i'r cais arfaethedig. Amlinellodd swyddogion pe bai'r Aelodau'n
cymeradwyo'r absenoldeb blynyddol ychwanegol i Brif Swyddogion, byddai'n cael
ei wneud fel arwydd o ewyllys da. Byddai swyddogion yn trafod ymhellach â'r
Prif Swyddog Cyllid er mwyn cael unrhyw wybodaeth ariannol gysylltiedig, a
fyddai'n cael ei dosbarthu i Aelodau'r Pwyllgor unwaith y bydd ar gael. Penderfyniad: Cymeradwyo'r argymhelliad i neilltuo un diwrnod o
wyliau blynyddol ychwanegol i'r Prif Weithredwr, Prif Swyddogion, gweithwyr
Pwyllgor Solisbury a gweithwyr Ieuenctid a Chymuned gydag amodau a thelerau
manwl, o 1 Ebrill 2023 am flwyddyn.
|
|
Trefniadau Gwyliau Nadolig/Blwyddyn Newydd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Swyddog AD drosolwg o'r adroddiad a
ddosbarthwyd i'r Pwyllgor. Hysbyswyd yr Aelodau fod yr adroddiad yn cynnwys
dyddiadau gwyliau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd ar gyfer 2023/24 a 2024/25. Eglurodd swyddogion y byddai darparu dyddiadau sy'n
rhychwantu dwy flynedd yn helpu gyda chynllunio gwasanaethau penodol, megis
absenoldeb staff a chau swyddfeydd drwy gydol y tymor gwyliau. Penderfyniad: Cymeradwyo'r argymhelliad ynghyd â'r adroddiad ar
gyfer trefniadau Gwyliau'r Nadolig/Blwyddyn Newydd ar gyfer y blynyddoedd
2023/24 a 2024/25. |
|
Datganiad Polisi Tâl Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd Swyddogion grynodeb o'r adroddiad
gwybodaeth a ddosbarthwyd. Hysbyswyd yr Aelodau, yn dilyn y Pwyllgor Personél,
y byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno yn ystod cyfarfod y cyngor llawn ar 15
Mawrth 2023 i'w benderfynu. Cyfeiriodd yr Aelodau at y canran o gostau staff
sy'n dod i gyfanswm o 45% o'i gymharu â 49% yn y blynyddoedd blaenorol, roedd
yr Aelodau yn poeni nad oedd staff yn derbyn trafodaethau cyflog gwell ar hyn o
bryd, yn enwedig yn ystod y cyfnod diweddar o ymroddiad a chael pethau'n anodd. Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth.
|
|
Gwybodaeth am y Gweithlu Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw sylwadau na chwestiynau pellach i'r
adroddiad. Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth. |
|
Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd crynodeb o'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau
i'r Aelodau. Esboniodd swyddogion fod y fenter yn rhan o Gynllun Ansawdd
Strategol y Cyngor, sy'n cynnwys cymryd camau i gau'r bwlch cyflog rhwng y
rhywiau. Roedd swyddogion yn gallu cadarnhau bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau
yn is na chyfartaledd y DU o 14% ar hyn o bryd, gyda bwlch yr Awdurdod yn 3% ar
gyfartaledd. Hysbysodd swyddogion yr Aelodau am Ddiwrnod
Rhyngwladol y Merched a oedd ar ddod, ac roedd cynllun hyrwyddo ar ei gyfer yn
amlwg gan fod rhaglen fentora yn cael ei llunio a fydd yn targedu gweithwyr
benywaidd ar gyflog isel. Mae menywod bellach yn cael eu dyrchafu i swyddi
uwch ar frig y sefydliad, gan nodi cynnydd tuag at gydraddoldeb rhywiol ar
draws yr Awdurdod. Pwrpas y cynllun yw annog cynnydd gyrfa, a bydd yn
agored i bawb. Derbyniodd yr Aelodau hysbysiad o'r digwyddiad lansio ar-lein a
drefnwyd ar gyfer 8 Mawrth 2023. Dylai unrhyw Aelodau sydd â diddordeb gysylltu
â'r Pennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol lle byddai dolen i'r digwyddiad yn
cael ei darparu wedi hynny. Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau a oedd yn ymwneud â
materion rhyngrywiol ynghyd â gwaith etifeddol yn dilyn ymadawiad y Prif
Weithredwr presennol. Roedd swyddogion yn gallu cadarnhau bod gwaith yn parhau
gyda Chwarae Teg i ehangu'r dull o wella cyfraddau llwyddiant menywod mewn
recriwtio, ynghyd â rhai pobl dduon, Asiaidd, a lleiafrifoedd ethnig. Aeth swyddogion ymlaen i roi'r wybodaeth
ddiweddaraf i'r Aelodau am y pecyn cymorth cynllunio ar gyfer olyniaeth a
lansiwyd yn y flwyddyn flaenorol. Rhoddwyd hyfforddiant cynllunio ar gyfer
olyniaeth i dimau rheoli ac mae cynlluniau olyniaeth yn cael eu datblygu ar hyn
o bryd. Roedd swyddogion yn awyddus i dynnu sylw at
bwysigrwydd ehangu recriwtio o fewn y farchnad i sicrhau bod y sefydliad mor
gynhwysol â phosib. Esboniodd swyddogion ymhellach y sefyllfa o ran
gweithwyr achlysurol a staff yn yr ysgol wrth gyfrifo'r bwlch cyflog rhwng y
rhywiau. Hysbyswyd yr Aelodau am asesiad effaith ansawdd o'r strwythur cyflog a
graddio presennol a byddai'r wybodaeth ynghylch hyn yn cael ei chyflwyno yn y
Pwyllgor Personél nesaf. Gofynnodd yr Aelodau hefyd am wybodaeth am
gymhariaeth o ystadegau gan awdurdodau cyfagos a manylion penodol ynghylch eu
polisi bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth.
|
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y
Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Yn unol ag
Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, bod y cyhoedd yn cael eu
gwahardd ar gyfer yr eitemau busnes a ganlyn a oedd yn ymwneud â datgelu
gwybodaeth eithriedig yn ôl pob tebyg fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 a 15 o
Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf uchod. Cofnodion: Yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972, gwaharddwyd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd
yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym
Mharagraff 15 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod. Yn unol hefyd â Pharagraff 21
yr Atodlen. |
|
Diweddariad ar Drafodaethau Tâl Cenedlaethol a Gweithredu Diwydiannol Cofnodion: Rhoddodd swyddogion drosolwg a diweddariad i'r
adroddiad preifat a ddosbarthwyr i’r Aelodau. Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth.
|