Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Personél - Dydd Llun, 24ain Hydref, 2022 2.00 pm

Lleoliad: Multi Location Microsoft Teams/Council Chamber

Cyswllt: Sarah McCluskie 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Derbyniwyd datganiad o fudd gan y Cynghorydd S Pursey.

 

3.

Fframwaith Gweithio Hybrid pdf eicon PDF 231 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig, atodiad 2 o'r pecyn a ddosbarthwyd, y bydd yr Aelodau'n cymeradwyo'r Adroddiad Fframwaith Gweithio Hybrid.

 

4.

Gradd Cyflog Rheolwr Strategol pdf eicon PDF 226 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Holodd yr aelodau sut y casglwyd yr wybodaeth wrth ddod i gasgliad ynghylch swm y raddfa gyflog. Hysbyswyd yr aelodau fod adolygiad wedi'i gynnal ar awdurdodau partner yn rhanbarth De-orllewin Cymru.

 

Penderfynwyd:

ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, atodiad 1 o'r pecyn adroddiad a ddosbarthwyd, y bydd yr aelodau'n cymeradwyo'r cynnig i greu Graddfa Gyflog ar gyfer y Rheolwr Strategol.

5.

Cyflogwyr ar gyfer Ymrwymiad Addewid Gofalwyr pdf eicon PDF 403 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, atodiad 1 o'r pecyn adroddiad a ddosbarthwyd, y bydd yr Aelodau'n cymeradwyo Aelodaeth Cyflogwyr i Ofalwyr Cymru.

 

6.

Cynllun Gweithlu Strategol 2022 - 2027: Strategaeth Dyfodol Gwaith pdf eicon PDF 422 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

nodi Cynllun Gweithlu Strategol 2022 - 2027: y Strategaeth Dyfodol Gwaith, fel y fel y manylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Diolchodd yr aelodau i'r Swyddogion am eu cyfraniad at y strategaeth. 

 

7.

Partner Datblygu Pobl CIPD pdf eicon PDF 460 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd:

nodi dyfarniad Statws Partner Datblygu Pobl y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Llongyfarchodd yr aelodau'r Swyddogion ar y cyflawniad.  

8.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B(4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

 

9.

Mynediad i gyfarfodydd

Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a diffinnir ym Mharagraff 12 ac 15 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod

Cofnodion:

Yn unol ag Adran 100B (2) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a pharagraff eithriedig 15 Rhan 4 Atodlen 12A i'r Ddeddf uchod, y cyfeirir atynt isod, y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem ganlynol. Yn unol hefyd â Pharagraff 21 o'r Atodlen.

 

 

10.

Diweddariad ar y Trafodaethau Cyflog Cenedlaethol (yn eithriedig dan baragraff 15)

Cofnodion:

Rhoddodd swyddogion drosolwg o'r adroddiad.

 

Penderfynwyd:

Nodi'r diweddariad ar Drafodaethau Cyflog Cenedlaethol GLlL, fel y'i dosbarthwyd yn yr adroddiad preifat. Byddai aelodau'n derbyn adroddiadau diweddaru pellach unwaith y bydd rhagor o wybodaeth ar gael.