Lleoliad: Committee Rooms 1/2 - Port Talbot Civic Centre
Cyswllt: Naidine Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso a galw’r rhestr Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a galwyd
yr enwau. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau. |
|
Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu PDF 308 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd. Gofynnodd yr aelodau a oedd ffigurau i ddangos faint o bobl oedd yn
gweithio ym mhob maes gwasanaeth. Dywedodd swyddogion y byddent yn cynnwys y
data yn yr adroddiad nesaf. Dywedodd yr aelodau fod yr adroddiad yn dyfynnu bod
gan 3% o weithwyr anabledd a gofynnodd i swyddogion beth fyddai'n cael ei
ystyried yn anabledd. Eglurodd
swyddogion, o ran yr anabledd, mai data hunan-adroddedig ydoedd a dyletswydd y gweithwyr
cyflogedig yw nodi eu bod yn anabl. Esboniodd swyddogion y byddent yn annog
gweithwyr i roi gwybod iddynt a oedd ganddynt anabledd. Dywedodd swyddogion fod
3% yn ymddangos yn isel, ond dyletswydd y gweithlu yw rhoi gwybod i'r tîm.
Gofynnodd yr aelodau a ellid ysgrifennu erthygl yng nghylchlythyr 'In the Loop'
i amlinellu beth oedd anabledd. Gofynnodd yr aelodau gwestiwn mewn perthynas â'r wybodaeth a ddarparwyd yn
yr adroddiad bod y cyngor yn gwario 49% o'i wariant ar dalu gweithwyr. Soniodd
yr aelodau am y cyngor cyffredinol a roddwyd i aelodau etholedig gan y
Gymdeithas Llywodraeth Leol (LGA), sef bod cyngor yn gwario 50% o'i wariant ar
gyflog ar gyfartaledd. Gofynnodd yr aelodau pam yr oedd ein gwariant wedi
cynyddu ers y llynedd a pham yr ydym yn dal i wario llai ar gyflogau na'r cyngor
cyffredin. Dywedodd swyddogion fod canllawiau'n ymwneud â chyngor cyffredin, a
bydd gwahaniaethau yn dibynnu ar e.e. y gwasanaethau a ddarperir yn
uniongyrchol gan un cyngor i'r llall felly, er enghraifft, trosglwyddodd Cyngor
Castell-nedd Port Talbot wasanaethau gofal preswyl i ddarparwr arall rai
blynyddoedd yn ôl ac nid ydynt bellach yn cyflogi staff gofal preswyl yn
uniongyrchol o ganlyniad. Bydd hyn yn
wahanol i Gyngor Sir Caerfyrddin sy'n dal i gyflogi staff gofal preswyl yn
uniongyrchol. O ran pam yr oedd y gwariant wedi cynyddu dros y flwyddyn
ddiwethaf, mae cyllid ychwanegol ar gael i gynyddu niferoedd ar draws y cyngor,
yn ogystal â sefydlu'r Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu (TTP) sydd wedi
cynyddu nifer y staff. Esboniodd swyddogion y byddent yn gofyn am ddadansoddiad
ariannol o wariant staffio yn ôl gwasanaeth ar gyfer aelodau. PENDERFYNWYD: y byddai’r aelodau'n nodi’r Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu. |
|
Gwybodaeth am Gyflogaeth a Chydraddoldeb 2020/2021 PDF 592 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd. Esboniodd swyddogion, ar dudalen 27 yr adroddiad lle’r oedd yn nodi ‘Ystod
Oedran’, y dylai ddarllen:- Mae'r nifer
uchaf o weithwyr yn ein gweithlu yn 51-60 oed, a chaiff y grŵp hwn ei
ddilyn yn agos gan grŵp 41-50 oed. PENDERFYNWYD: Y byddai’r
aelodau’n cymeradwyo Adroddiad Gwybodaeth am Gyflogaeth a Chydraddoldeb
2020/2021. |
|
Datganiad ar Bolisïau Tâl 2022-2023 PDF 208 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd. Esboniodd swyddogion y byddai'r adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i'r
cyngor ar 1 Mawrth. PENDERFYNWYD: Y byddai’r aelodau’n
nodi Adroddiad Datganiad Polisi Tâl 2022 - 2023. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn
unol ag Adran 100B(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5)
o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn debygol o
gynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym
Mharagraff 15 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod. Cofnodion: Yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn
cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym
Mharagraff 12 ac 15 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod. |
|
Diweddariad ar y Trafodaethau Cyflog Cenedlaethol (yn eithriedig dan baragraff 15) Cofnodion: PENDERFYNWYD: Nodi'r Trafodaethau Cyflog Cenedlaethol fel y manylir arnynt yn yr
adroddiad preifat a gylchredwyd. |