Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Naidine Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol - 20 Medi 2021 PDF 82 KB Cofnodion: Penderfynwyd nodi cofnodion cyfarfod 20 Medi. |
|
Cofnodion: Nodi'r Blaenraglen Waith |
|
Y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd 2022/2023 PDF 472 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Swyddogion drosolwg o'r
adroddiad a ddosbarthwyd i'r Aelodau. PENDERFYNWYD: Y byddai aelodau'n cymeradwyo'r cais mewn perthynas â threfniadau
gwyliau'r Nadolig/y Flwyddyn Newydd ar gyfer 2022/23. |
|
Adroddiad Monitro: Defnydd o asiantaethau PDF 508 KB Cofnodion: Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd. Gofynnodd yr Aelodau pam y mae 88% o staff asiantaeth yn gweithio i adran
yr Amgylchedd a Gofal Strydoedd. Nododd y Swyddogion fod nifer o resymau megis
er mwyn defnyddio gweithwyr asiantaeth i gyflenwi yn y tymor byr, a chynyddu
hyblygrwydd y gweithlu. Dyma un faes lle
gall fod yn fwy cost effeithiol i gyflogi gweithwyr asiantaeth os oes angen am
staff yn y tymor byr - yn wahanol i wasanaethau eraill, lle mae'r defnydd o
weithwyr asiantaeth yn llawer drutach na gweithlu a gyflogir yn uniongyrchol.
Roedd y defnydd o asiantaethau wedi cael ei fonitro'n flynyddol. Yn flaenorol,
y Gwasanaethau Cymdeithasol oedd yn cynhyrchu'r gwariant mwyaf ond mae wedi
lleihau'n sylweddol dros y 5 mlynedd diwethaf. Y gwasanaeth ailgylchu a
gwastraff yw'r gwasanaeth sy'n gwario'r mwyaf bob tro, gan mai gwasanaeth rheng
flaen yw hwn, ac os nad yw pobl ar gael i weithio ar fyr rybydd er enghraifft,
mae angen dod o hyd i staff yn gyflym.
Nododd y Swyddogion y byddent yn adrodd yn ôl am y sylwadau i'r pennaeth
gwasanaeth perthnasol, ac yn gofyn a oes modd iddo ddarparu unrhyw fanylion
pellach i'r Aelodau am y pwynt hwn. . Gofynnodd yr Aelodau a oedd COVID wedi effeithio ar hyn. Nododd Swyddogion
fod COVID yn ffactor a hefyd roedd y gwasanaeth sbwriel yn ei chael hi'n anodd
oherwydd mae'r gofyniad cadw pellter cymdeithasol yn rhoi pwysau ychwanegol ar
y gwasanaeth, ac felly cyflogwyd pobl ychwanegol er mwyn cynnal y pellter
cymdeithasol. Diolchodd yr Aelodau i'r timau sbwriel am eu gwaith dros y 18 mis diwethaf
a llongyfarchwyd â nhw am eu holl ymdrechion. PENDERFYNWYD: y byddai'r Aelodau'n nodi'r
wybodaeth ar y defnydd o asiantaethau a'r adroddiad gwariant. |
|
Adborth o arolwg y gweithwyr rheng flaen PDF 401 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd. PENDERFYNWYD: Y dylai aelodau nodi
canlyniadau'r arolwg a'r camau gweithredu cysylltiedig, a'r diweddariad mewn
perthynas ag arferion gweithio. |
|
Adroddiad Diweddaru Cynllun Gweithredu Addewid Cyflogwyr Amser i Newid Cymru PDF 379 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd
y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd. PENDERFYNWYD: Y byddai'r Aelodau'n nodi'r
diweddariad mewn perthynas â Chynllun Gweithredu Amser i Newid Cymru ac yn rhoi
diweddariad pellach mewn chwe mis. |
|
Trafodaethau Cyflog Cenedlaethol mis Tachwedd 2021 PDF 303 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd
y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd. Mewn
perthynas â'r pyst a hysbysebwyd yn allanol ac yn fewnol, roedd yr Aelodau am
gael eglurhad ynghylch a a b ar dudalen 2. Esboniodd swyddogion fod tudalen 2
yn nodi'r hyn a oedd ar waith ar hyn o bryd ac mai'r cynnig oedd cael gwared ar
y cyfyngiadau. PENDERFYNWYD: (a) Cael gwared ar gyfyngiadau recriwtio. (b) Os bydd
cynnydd sylweddol yn nifer y gweithwyr sydd 'mewn perygl', bydd
gan y Pennaeth Datblygu Dynol a Sefydliadol, mewn ymgynghoriad ag undebau
llafur ac Aelod y Cabinet dros y Gwasanaeth Corfforaethol a Chydraddoldeb,
awdurdod i adfer y cyfyngiadau. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972, gwaherddir y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys
datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12 ac
15 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod. Cofnodion: Yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn
cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff
12 ac 15 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod. |
|
Diweddariad am y Trafodaethau Cyflog Cenedlaethol, Tachwedd 2021 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Nodi'r Trafodaethau Cyflog Cenedlaethol fel y manylir arnynt yn yr
adroddiad preifat a gylchredwyd. |