Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 1/2 - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Nicola Headon
Rhif | Eitem |
---|---|
Awtomeiddio proses roboteg yn y tîm adnoddau dynol PDF 61 KB Cofnodion: Rhoddwyd cyflwyniad i'r pwyllgor ynghyd â
diweddariad ar gynllun peilot technoleg awtomeiddio proses roboteg (RPA) yn y
Tîm Adnoddau Dynol. Esboniodd swyddogion fod cyflwyno'r dechnoleg
newydd wedi lleihau'r amser yr oedd swyddogion yn ei dreulio ar waith prosesu
data arferol gan eu galluogi i wneud gwaith mwy gwerthfawr lle mae angen
ymyriad dynol. Mae'r 'robot' yn defnyddio technoleg prism glas, ac
mae un gweithiwr yn yr adran AD a dau weithiwr yn y tîm TGCh yn derbyn hyfforddiant
i ddod yn Ddatblygwyr Prism Glas, gan ddarparu cadernid mewnol ar gyfer y
cyngor. Diolchodd yr Aelodau i'r Tîm Adnoddau Dynol am eu
gwaith caled ar y cynllun peilot. PENDERFYNWYD y
byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Adroddiad gwybodaeth am y gweithlu PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd yr Aelodau drosolwg o'r Adroddiad
Gwybodaeth am y Gweithlu ar gyfer Chwarter 1 2019/20, fel y nodwyd yn yr
adroddiad a gylchredwyd. Croesawodd
swyddogion unrhyw adborth gan Aelodau. Dangosodd yr Aelodau eu pryder ynghylch y nifer
mawr o absenoldebau salwch ymysg staff addysgu.
Eglurwyd i'r Aelodau fod hyn yn adlewyrchu'r ffaith bod athrawon yn
cynrychioli un o grwpiau gweithwyr mwyaf y cyngor - cytunwyd y bydd
adroddiadau'r dyfodol yn darparu data CALl gan y bydd Aelodau'n deall y
cymariaethau rhwng gwasanaethau.
Tynnodd swyddogion sylw at y gwahaniaethau galwedigaethol mewn salwch -
gall rhywun sy'n gweithio mewn swyddfa ddisgwyl cael llai o salwch nag, er
enghraifft, rywun sy'n gweithio y tu allan neu yn y sector gofal . Cytunodd Aelod y Cabinet dros Gyllid ac Aelod y
Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant i gwrdd i drafod salwch mewn ysgolion
ac i ddeall sut gall profiad a rennir fod o fydd i ysgolion y cyngor. Nodwyd y byddai adroddiadau a gyflwynir i aelodau
yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Personél yn
y dyfodol yn cynnwys data chwarterol am leihad swyddi, ffigurau Cyfwerth Amser
Llawn (CALl) ar gyfer pob gwasanaeth, yn ogystal â nifer y diwrnodau a gollwyd
a'r rhaniad rhyw mewn ffigurau salwch. . Cafwyd trafodaeth am nifer y staff a oedd yn
absennol oherwydd straen ac amlygwyd bod absenoldebau oherwydd straen sy'n
gysylltiedig â'r gwaith yn is nag absenoldebau oherwydd straen personol.
Mynegodd yr Aelodau eu pryder ynghylch sut gellir ymdrin â hyn. Esboniodd
swyddogion y byddem yn arwyddo Addewid Cyflogwyr Amser i Newid yn ystod mis
Medi, ac y byddai hyn yn golygu y gallem gael mwy o gefnogaeth i helpu i wella
lles staff. PENDERFYNWYD y
byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Cofnodion: Darparwyd gwybodaeth i'r Aelodau am gefnogaeth yr
adran Adnoddau Dynol (AD) i ysgolion a'r Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion
(RhSGY), fel y nodwyd yn yr adroddiad a gylchredwyd. PENDERFYNWYD y
byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Diweddariad ar gynllunio olyniaeth PDF 243 KB Cofnodion: Darparwyd diweddariad i'r Aelodau ar gynllunio
olyniant, fel y nodwyd yn yr adroddiad a gylchredwyd. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith y datblygwyd y
Pecyn Cymorth Cynllunio Olyniaeth, sef Atodiad 1 yr adroddiad a gylchredwyd, er
mwyn helpu rheolwyr i nodi anghenion sgiliau a hyfforddiant gweithwyr/gweithwyr
y dyfodol. Nodwyd y byddai'r holl hyfforddiant, gan gynnwys
e-ddysgu, ar gael i bob gweithiwr, ac y dylid trafod hyn fel rhan o adolygiad
arfarnu perfformiad blynyddol y gweithiwr.
PENDERFYNWYD y
byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Statws cyflogwr hyderus o ran anabledd PDF 61 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd yr Aelodau ddiweddariad ar achrediad
parhaus y cyngor i'r cynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Nodwyd y byddai'r achrediad yn para am ddwy
flynedd tan 6 Awst 2021. PENDERFYNWYD y
byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Y diweddaraf am gyflogau PDF 166 KB Cofnodion: Derbyniodd yr Aelodau ddiweddariad ynghylch y
trafodaethau cyflog cenedlaethol ar gyfer gweithwyr dan amodau a thelerau
cyflogaeth 'Llyfr Gwyrdd' Gwasanaethau Llywodraeth Leol. Nodwyd y byddai'r Cyd-gyngor Cenedlaethol (NJC) yn
ymgynghori â chyflogwyr drwy gyfres o sesiynau briffio tâl rhanbarthol yn ystod
mis Medi a mis Hydref 2019. Byddai
cyfarfod ymgynghori rhanbarthol Cymru'n cael ei gynnal yng Nghaerdydd yn ystod
mis Medi. Gofynnwyd i'r Aelodau ystyried yr ymatebion fel y'u nodwyd yn yr
adroddiad a gylchredwyd a darparu adborth. PENDERFYNWYD y caiff yr wybodaeth a ddarparwyd mewn perthynas â
thrafodaethau cyflog cenedlaethol, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad a
gylchredwyd, ei nodi. Cymeradwyo'r
ymateb i gyfeirio'r ymgynghoriad rhanbarthol i gyflogwyr, fel y nodwyd yn yr
adroddiad a gylchredwyd. |
|
Trefniadau diswyddo gwirfoddol PDF 60 KB Cofnodion: Diweddarwyd yr Aelodau ar y trefniadau arfaethedig
ar gyfer Diswyddo Gwirfoddol (VR) i'w rhoi ar waith yn ystod mis Medi 2019. Nodwyd y dywedir wrth weithwyr bod cyfleodd
diswyddo wirfoddol ar gael iddynt fynegi diddordeb, a hynny'n barhaus ac am
gyfnod amhenodol; byddai hyn yn galluogi mwy o hyblygrwydd wrth reoli newid i'r
gweithlu ac ni fyddai'n cynnwys y rheini sy'n gweithio mewn ysgolion. PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad |