Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Personél - Dydd Llun, 25ain Medi, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Multi Location Microsoft Teams/Council Chamber

Cyswllt: Sarah Mccluskie 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cynghorydd S Knoyle bawb i'r cyfarfod.  

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 16 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 22 Mai 2023 fel cofnod gwir a chywir. 

 

4.

Blaenraglen Waith 2023/2024 pdf eicon PDF 436 KB

Cofnodion:

Bod y Flaenraglen Waith ar gyfer 2023/2024 yn cael ei nodi.

 

5.

Cynllun Absenoldeb Arbennig Diwygiedig pdf eicon PDF 285 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r adroddiad a gylchredwyd, ynghyd â'r asesiad effaith integredig a'r atodiadau, penderfynodd yr Aelodau gymeradwyo'r cynllun absenoldeb arbennig diwygiedig.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Cydymffurfio â deddfwriaeth a chyfraith cyflogaeth. Sicrhau bod y cyngor yn cael ei hyrwyddo fel 'cyflogwr o ddewis'. A hyrwyddo arfer gorau.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 29 Medi 2023.

 

Ymgynghoriad:

Nid oes angen cynnal ymgynghoriad allanol.

 

 

 

6.

Adduned y Gweithle ar gyfer y Menopos pdf eicon PDF 225 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r adroddiad a gylchredwyd, yr asesiad effaith integredig a'r atodiadau, penderfynodd yr Aelodau gymeradwyo llofnodi Adduned y Gweithle ar gyfer y Menopos.

Byddai'r adduned yn ymrwymo i gefnogi gweithwyr y mae'r menopos yn effeithio arnynt yn y gweithle.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Cefnogi ac ymrwymo i gefnogi gweithwyr y mae'r menopos yn effeithio arnynt yn y gweithle. Drwy lofnodi'r adduned, mae'r cyngor yn dangos ei fod wedi'i ymrwymo i weithwyr sydd yng nghyfnod y perimenopos a'r menopos. Bydd hefyd yn gwella enw da'r cyngor fel 'cyflogwr o ddewis'. Yn bennaf, bydd yn cryfhau gwaith i gynyddu ymwybyddiaeth o'r menopos.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 29 Medi 2023.

 

Ymgynghoriad:

Gofynnodd yr Undeb Addysg Cenedlaethol i'r cyngor ystyried llofnodi'r adduned, fodd bynnag nid oedd angen ymgynghori'n allanol ar yr eitem hon.

 

 

7.

Siarter Gwrth-hiliaeth pdf eicon PDF 277 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig a'r adroddiad a gylchredwyd, penderfynodd yr Aelodau gymeradwyo'r Siarter Gwrth-hiliaeth ac ymrwymo iddo.

 

Bod yr ymgyflwyniad yn dechrau dros gyfnod o 12 mis, a bod y siarter yn cyd-fynd â'r Strategaeth

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Wrth addunedu, mae'r cyngor yn ymroi i gymryd gwrth-hiliaeth o ddifrif.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 29 Medi 2023.

 

Ymgynghoriad:

Nid oes angen cynnal ymgynghoriad allanol.

 

 

8.

Strategaeth Lles Ariannol pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r adroddiad a gylchredwyd, yr asesiad effaith integredig a'r atodiadau, penderfynodd yr Aelodau gymeradwyo a chefnogi'r Strategaeth Lles Ariannol Gweithwyr.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

I gefnogi gweithwyr y cyngor sy'n wynebu risgiau cynyddol o galedi ariannol oherwydd goblygiadau economaidd a chymdeithasol helaeth.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 29 Medi 2023.

 

Ymgynghoriad:

Nid oes angen cynnal ymgynghoriad allanol

 

 

9.

Porth Cyllid Cyflog pdf eicon PDF 213 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r adroddiad a gylchredwyd, caiff yr adroddiad ei nodi er gwybodaeth.

 

10.

Adroddiad Gwybodaeth Gweithlu 23/24 Chwarter 1 pdf eicon PDF 328 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r adroddiad a gylchredwyd, caiff yr adroddiad ei nodi er gwybodaeth.

 

 

11.

Rhaglen Cymorth i Weithwyr pdf eicon PDF 298 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r adroddiad a gylchredwyd, caiff yr adroddiad ei nodi er gwybodaeth.

 

 

12.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.