Lleoliad: Multi Location Microsoft Teams/Council Chamber
Cyswllt: Sarah Mccluskie
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaed datganiad o fudd gan y Cyng T Bowen mewn perthynas ag eitem 4 ar yr
agenda. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 15 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 28 Hydref 2022 fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad Cydraddoldeb mewn Cyflogaeth Blynyddol PDF 592 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Holodd aelodau ynghylch rhannau penodol o'r adroddiad, a gwnaed cais i
swyddogion gynnwys rhagor o wybodaeth yn yr adroddiad blynyddol nesaf at ddiben
eglurder. Trafodwyd cyfleoedd hyfforddiant i swyddogion, ac roedd swyddogion wedi
gallu darparu gwybodaeth i'r aelodau ynghylch y darparwyr hyfforddiant
presennol a chymdeithasau partner. Penderfynwyd: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i atodiad 1, 2 a 3 y pecyn adroddiad a gylchredwyd,
fod Aelodau'n cymeradwyo cyhoeddi'r gwybodaeth am Gyflogaeth a Chydraddoldeb ar
gyfer y flwyddyn 2021-2022. |
|
Proses Newid Sefydliad PDF 375 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig, ac atodiad 1 a 2 yr adroddiad a gylchredwyd, fod Aelodau'n
cymeradwyo'r diwygiad arfaethedig (rhan dau) o'r Broses Newid Sefydliad, yn
amodol ar unrhyw swyddogion awdurdodi'n cwblhau hyfforddiant rhagfarn
ddiarwybod. |
|
Adroddiad Pasbort Addasiadau Rhesymol os oes gennych Anabledd PDF 213 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig, ac atodiad 1 y pecyn adroddiad a gylchredwyd, fod Aelodau'n
cymeradwyo'r adroddiad Addasiadau Rhesymol - Pasbort Anabledd i gefnogi
gweithwyr. |
|
Adroddiad Plismona a Gefnogir gan Gyflogwyr PDF 445 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig, ac atodiad 1 a 2 y pecyn adroddiad a gylchredwyd, fod Aelodau'n
cymeradwyo'r adroddiad Cynllun Plismona a Gefnogir gan Gyflogwyr a'r ddogfen
bolisi gysylltiedig. |
|
Lwfans Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl (GPIM) PDF 590 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig, (atodiad 1) ac atodiad 2 y pecyn adroddiad a gylchredwyd, fod
Aelodau'n cymeradwyo cynnydd i'r gyfradd tâl gyfredol ar gyfer Lwfansau
Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl, wedi'i hôl-ddyddio o 1 Ebrill 2022. |
|
Adroddiad Gwybodaeth y Gweithlu PDF 324 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, bod y
cyhoedd yn cael eu gwahardd ar gyfer yr eitemau busnes a ganlyn a oedd yn
ymwneud â datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl pob tebyg fel y’i diffinnir ym
Mharagraff 15 o Ran 4 o Atodlen 12A o’r Ddeddf. uchod Act. Cofnodion: Mynediad i gyfarfodydd Yn unol ag Adran 100B (2) a (5) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 a Pharagraff Eithriedig 15 yn Adran 4 o Atodlen 12A y
Ddeddf uchod, bod y cyhoedd yn cael eu gwahardd ar gyfer yr eitem ganlynol. Yn unol
hefyd â Pharagraff 21 yr AtodlenM . |
|
Trafodaethau Cyflog Cenedlaethol Cofnodion: Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad
preifat. Penderfynwyd: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi, ac y darperir
adroddiadau diweddaru pellach os bydd rhagor o wybodaeth yn dod ar gael. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran
100B(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |