Lleoliad: Multi Location Microsoft Teams/Council Chamber
Cyswllt: Sarah McCluskie
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Derbyniwyd datganiad o fudd gan y Cynghorydd S
Pursey. |
|
Fframwaith Gweithio Hybrid PDF 231 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad
Effaith Integredig, atodiad 2 o'r pecyn a ddosbarthwyd, y bydd yr Aelodau'n
cymeradwyo'r Adroddiad Fframwaith Gweithio Hybrid. |
|
Gradd Cyflog Rheolwr Strategol PDF 226 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. Holodd yr aelodau sut y casglwyd yr wybodaeth wrth
ddod i gasgliad ynghylch swm y raddfa gyflog. Hysbyswyd yr aelodau fod
adolygiad wedi'i gynnal ar awdurdodau partner yn rhanbarth De-orllewin Cymru. Penderfynwyd: ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig, atodiad 1 o'r pecyn adroddiad a ddosbarthwyd, y bydd yr aelodau'n
cymeradwyo'r cynnig i greu Graddfa Gyflog ar gyfer y Rheolwr Strategol. |
|
Cyflogwyr ar gyfer Ymrwymiad Addewid Gofalwyr PDF 403 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd: ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig, atodiad 1 o'r pecyn adroddiad a ddosbarthwyd, y bydd yr Aelodau'n
cymeradwyo Aelodaeth Cyflogwyr i Ofalwyr Cymru. |
|
Cynllun Gweithlu Strategol 2022 - 2027: Strategaeth Dyfodol Gwaith PDF 422 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd: nodi Cynllun Gweithlu Strategol 2022 - 2027: y
Strategaeth Dyfodol Gwaith, fel y fel y manylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Diolchodd yr aelodau i'r Swyddogion am eu cyfraniad
at y strategaeth. |
|
Partner Datblygu Pobl CIPD PDF 460 KB Cofnodion: Penderfynwyd: nodi dyfarniad Statws Partner Datblygu Pobl y
Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd. Llongyfarchodd yr aelodau'r Swyddogion ar y
cyflawniad. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn
unol ag Adran 100B(4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys
datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a diffinnir ym Mharagraff 12 ac
15 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod Cofnodion: Yn unol ag Adran 100B
(2) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a pharagraff eithriedig 15 Rhan 4
Atodlen 12A i'r Ddeddf uchod, y cyfeirir atynt isod, y dylid gwahardd y cyhoedd
ar gyfer yr eitem ganlynol. Yn unol hefyd â Pharagraff 21 o'r Atodlen. |
|
Diweddariad ar y Trafodaethau Cyflog Cenedlaethol (yn eithriedig dan baragraff 15) Cofnodion: Rhoddodd swyddogion drosolwg o'r adroddiad. Penderfynwyd: Nodi'r diweddariad ar Drafodaethau Cyflog
Cenedlaethol GLlL, fel y'i dosbarthwyd yn yr adroddiad preifat. Byddai
aelodau'n derbyn adroddiadau diweddaru pellach unwaith y bydd rhagor o
wybodaeth ar gael. |