Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Personél - Dydd Llun, 21ain Chwefror, 2022 2.00 pm

Lleoliad: Committee Rooms 1/2 - Port Talbot Civic Centre

Cyswllt: Naidine Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso a galw’r rhestr

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a galwyd yr enwau.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau

 

3.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau.

 

4.

Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu pdf eicon PDF 308 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Gofynnodd yr aelodau a oedd ffigurau i ddangos faint o bobl oedd yn gweithio ym mhob maes gwasanaeth. Dywedodd swyddogion y byddent yn cynnwys y data yn yr adroddiad nesaf. Dywedodd yr aelodau fod yr adroddiad yn dyfynnu bod gan 3% o weithwyr anabledd a gofynnodd i swyddogion beth fyddai'n cael ei ystyried yn anabledd.  Eglurodd swyddogion, o ran yr anabledd, mai data hunan-adroddedig ydoedd a dyletswydd y gweithwyr cyflogedig yw nodi eu bod yn anabl. Esboniodd swyddogion y byddent yn annog gweithwyr i roi gwybod iddynt a oedd ganddynt anabledd. Dywedodd swyddogion fod 3% yn ymddangos yn isel, ond dyletswydd y gweithlu yw rhoi gwybod i'r tîm. Gofynnodd yr aelodau a ellid ysgrifennu erthygl yng nghylchlythyr 'In the Loop' i amlinellu beth oedd anabledd.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiwn mewn perthynas â'r wybodaeth a ddarparwyd yn yr adroddiad bod y cyngor yn gwario 49% o'i wariant ar dalu gweithwyr. Soniodd yr aelodau am y cyngor cyffredinol a roddwyd i aelodau etholedig gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol (LGA), sef bod cyngor yn gwario 50% o'i wariant ar gyflog ar gyfartaledd. Gofynnodd yr aelodau pam yr oedd ein gwariant wedi cynyddu ers y llynedd a pham yr ydym yn dal i wario llai ar gyflogau na'r cyngor cyffredin. Dywedodd swyddogion fod canllawiau'n ymwneud â chyngor cyffredin, a bydd gwahaniaethau yn dibynnu ar e.e. y gwasanaethau a ddarperir yn uniongyrchol gan un cyngor i'r llall felly, er enghraifft, trosglwyddodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot wasanaethau gofal preswyl i ddarparwr arall rai blynyddoedd yn ôl ac nid ydynt bellach yn cyflogi staff gofal preswyl yn uniongyrchol o ganlyniad.  Bydd hyn yn wahanol i Gyngor Sir Caerfyrddin sy'n dal i gyflogi staff gofal preswyl yn uniongyrchol. O ran pam yr oedd y gwariant wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cyllid ychwanegol ar gael i gynyddu niferoedd ar draws y cyngor, yn ogystal â sefydlu'r Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu (TTP) sydd wedi cynyddu nifer y staff. Esboniodd swyddogion y byddent yn gofyn am ddadansoddiad ariannol o wariant staffio yn ôl gwasanaeth ar gyfer aelodau.

 

PENDERFYNWYD: y byddai’r aelodau'n nodi’r Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu.

 

 

5.

Gwybodaeth am Gyflogaeth a Chydraddoldeb 2020/2021 pdf eicon PDF 592 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Esboniodd swyddogion, ar dudalen 27 yr adroddiad lle’r oedd yn nodi ‘Ystod Oedran’, y dylai ddarllen:-

 

Mae'r nifer uchaf o weithwyr yn ein gweithlu yn 51-60 oed, a chaiff y grŵp hwn ei ddilyn yn agos gan grŵp 41-50 oed. 

 

 

PENDERFYNWYD:  Y byddai’r aelodau’n cymeradwyo Adroddiad Gwybodaeth am Gyflogaeth a Chydraddoldeb 2020/2021.

 

 

6.

Datganiad ar Bolisïau Tâl 2022-2023 pdf eicon PDF 208 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Esboniodd swyddogion y byddai'r adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i'r cyngor ar 1 Mawrth.

 

PENDERFYNWYD:  Y byddai’r aelodau’n nodi Adroddiad Datganiad Polisi Tâl 2022 - 2023.

 

 

7.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

 

8.

Mynediad i gyfarfodydd

Gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn debygol o gynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 15 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

Cofnodion:

Yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12 ac 15 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

9.

Diweddariad ar y Trafodaethau Cyflog Cenedlaethol (yn eithriedig dan baragraff 15)

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Nodi'r Trafodaethau Cyflog Cenedlaethol fel y manylir arnynt yn yr adroddiad preifat a gylchredwyd.