Lleoliad: Multi Location Microsoft Teams/Council Chamber
Cyswllt: Sarah Mccluskie
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. I ddechrau, atgoffodd y Cadeirydd y Pwyllgor o'r
atodiad hwyr a ddosbarthwyd mewn perthynas ag eitem 6 ar yr agenda. Nodwyd ymddiheuriadau hefyd gan y Cyng. A Llewellyn
(Dirprwy Arweinydd), y Cyng. P D Richards a'r Cyng. C J Hurley. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar
27 Chwefror 2023 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir. |
|
Adolygiad o'r Polisi Teithio a Chynhaliaeth PDF 283 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparwyd trosolwg i'r Aelodau i'r adroddiad a ddosbarthwyd,
gan Bennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol. Penderfyniad: Bod Aelodau yn cymeradwyo'r Polisi Taliadau Teithio
a Chynhaliaeth. Rhoi ar waith: Bod y penderfyniad yn cael ei roi ar waith yn dilyn
cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Gwener 26 Mai
2023. Ymgynghoriad: Nid oes gofyniad i ymgymryd ag ymgynghoriad
allanol, fodd bynnag mae'r polisi wedi'i gymeradwyo'n llawn gan yr Undebau
Llafur. |
|
Adroddiad Gwybodaeth Gweithlu 2022/2023 Chwarter 4 PDF 326 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd trosolwg i Aelodau'r Pwyllgor i'r
adroddiad a ddosbarthwyd, gan Bennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol. Fel ar yr adroddiad, rhoddwyd diweddariad i'r
Aelodau ynghylch gweithlu'r cyngor o ran cyflogaeth, patrymau gwaith, ymunwyr,
gadawyr ac agweddau allweddol mewn perthynas ag absenoldeb salwch. Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth. |
|
Adroddiad diweddaru Cynllun Gweithredu'r Menopos PDF 217 KB Cofnodion: Rhoddwyd diweddariad i'r Aelodau ar y llwyddiant
diweddar sef ennill Gwobr 'Innovation' yn Seremoni Gwobrau CNPT, o ran rhoi
Cynllun Gweithredu'r Menopos ar waith, atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd. Aeth Aelodau ymlaen i longyfarch Swyddogion ar y
llwyddiant. Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mae
hynny'n unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ac
eithrio'r cyhoedd am yr eitemau canlynol o fusnes a oedd yn ymwneud â datgelu
gwybodaeth wedi'i heithrio'n debygol fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 a 15 o
Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf uchod. Cofnodion: Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys
datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12 ac
15 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod |
|
Adroddiad Meincnodi Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau Cofnodion: Rhoddwyd trosolwg i'r Aelodau o'r adroddiad preifat
a ddosbarthwyd. Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth. |
|
Diweddariad ar Drafodaethau Tâl Cenedlaethol Mai 2023 - Adroddiad Preifat Cofnodion: Aeth y Pennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol ymlaen
i roi diweddariad i'r Pwyllgor o'r adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth, ac
unrhyw ddiweddariadau pellach yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor. |