Lleoliad: Multi Location Microsoft Teams/Council Chamber
Cyswllt: Sarah Mccluskie
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cynghorydd S Knoyle bawb i'r
cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 16 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 22 Mai 2023 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Blaenraglen Waith 2023/2024 PDF 436 KB Cofnodion: Bod y Flaenraglen Waith ar gyfer 2023/2024 yn cael
ei nodi. |
|
Cynllun Absenoldeb Arbennig Diwygiedig PDF 285 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r adroddiad a
gylchredwyd, ynghyd â'r asesiad effaith integredig a'r atodiadau, penderfynodd
yr Aelodau gymeradwyo'r cynllun absenoldeb arbennig diwygiedig. Rheswm dros y Penderfyniad: Cydymffurfio â deddfwriaeth a chyfraith cyflogaeth.
Sicrhau bod y cyngor yn cael ei hyrwyddo fel 'cyflogwr o ddewis'. A hyrwyddo
arfer gorau. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 29 Medi
2023. Ymgynghoriad: Nid oes angen cynnal ymgynghoriad allanol. |
|
Adduned y Gweithle ar gyfer y Menopos PDF 225 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r adroddiad a
gylchredwyd, yr asesiad effaith integredig a'r atodiadau, penderfynodd yr
Aelodau gymeradwyo llofnodi Adduned y Gweithle ar gyfer y Menopos. Byddai'r adduned yn ymrwymo i gefnogi gweithwyr y
mae'r menopos yn effeithio arnynt yn y gweithle. Rheswm dros y Penderfyniad: Cefnogi ac ymrwymo i gefnogi gweithwyr y mae'r menopos yn effeithio arnynt
yn y gweithle. Drwy lofnodi'r adduned, mae'r cyngor yn dangos ei fod wedi'i
ymrwymo i weithwyr sydd yng nghyfnod y perimenopos a'r menopos. Bydd hefyd yn
gwella enw da'r cyngor fel 'cyflogwr o ddewis'. Yn bennaf, bydd yn cryfhau
gwaith i gynyddu ymwybyddiaeth o'r menopos. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 29 Medi
2023. Ymgynghoriad: Gofynnodd yr Undeb Addysg Cenedlaethol i'r cyngor
ystyried llofnodi'r adduned, fodd bynnag nid oedd angen ymgynghori'n allanol ar
yr eitem hon.
|
|
Siarter Gwrth-hiliaeth PDF 277 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith
integredig a'r adroddiad a gylchredwyd, penderfynodd yr Aelodau gymeradwyo'r
Siarter Gwrth-hiliaeth ac ymrwymo iddo. Bod yr ymgyflwyniad yn dechrau dros gyfnod o 12
mis, a bod y siarter yn cyd-fynd â'r Strategaeth Rheswm dros y Penderfyniad: Wrth addunedu, mae'r cyngor yn ymroi i gymryd
gwrth-hiliaeth o ddifrif. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 29 Medi
2023. Ymgynghoriad: Nid oes angen cynnal ymgynghoriad allanol. |
|
Strategaeth Lles Ariannol PDF 203 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r adroddiad a
gylchredwyd, yr asesiad effaith integredig a'r atodiadau, penderfynodd yr
Aelodau gymeradwyo a chefnogi'r Strategaeth Lles Ariannol Gweithwyr. Rheswm dros y Penderfyniad: I gefnogi gweithwyr y cyngor sy'n wynebu risgiau
cynyddol o galedi ariannol oherwydd goblygiadau economaidd a chymdeithasol
helaeth. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 29 Medi
2023. Ymgynghoriad: Nid oes angen cynnal ymgynghoriad allanol |
|
Porth Cyllid Cyflog PDF 213 KB Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r adroddiad a
gylchredwyd, caiff yr adroddiad ei nodi er gwybodaeth. |
|
Adroddiad Gwybodaeth Gweithlu 23/24 Chwarter 1 PDF 328 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r adroddiad a
gylchredwyd, caiff yr adroddiad ei nodi er gwybodaeth. |
|
Rhaglen Cymorth i Weithwyr PDF 298 KB Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r adroddiad a gylchredwyd,
caiff yr adroddiad ei nodi er gwybodaeth. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |