Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Naidine Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion cyfarfodydd blaenorol (mis Ionawr, Mawrth a Mehefin 2021) PDF 77 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nodwyd cofnodion cyfarfodydd Ionawr, Mawrth a
Mehefin 2021. |
|
Cofnodion: Nodwyd y Blaenraglen Waith. |
|
Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu - Chwarter 1 PDF 237 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor wybodaeth am Adroddiad
Gwybodaeth y Gweithlu Chwarter 1 fel y manylir arno yn yr adroddiad a
gylchredwyd. Gofynnodd yr aelodau mewn perthynas â'r 41% a oedd
yn gysylltiedig ag addysg, a beth oedd y rheswm am hynny. Esboniodd swyddogion
fod yr ysgolion yn dal i ariannu’r tasglu salwch ysgolion a oedd yn
canolbwyntio ar absenoldeb salwch yng nghanol gweithlu'r ysgol yn unig. Roedd
COVID-19 wedi cael effaith fawr. Y gweithlu addysg yw'r gweithlu mwyaf, a oedd
yn adlewyrchu pam fod y niferoedd mor uchel. Gofynnodd yr aelodau pa mor ddibynadwy oedd yr
ystadegau cenedlaethol ar gyfer y diwrnodau cyfartalog a gollwyd. Dywedodd
swyddogion fod yr uned ddata llywodraeth leol fel arfer yn darparu'r data ond
nid dyma'r achos eleni, felly roedd y Cyfarwyddwyr AD wedi rhannu'r wybodaeth
berthnasol. PENDERFYNWYD: nodi'r adroddiad. |
|
Adroddiad am y Cynllun Cyflogwyr Chwarae Teg PDF 256 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor wybodaeth am y Cynllun
Cyflogwr Chwarae Teg fel y manylir yn yr adroddiad a gylchredwyd. PENDERFYNWYD: nodi'r adroddiad. |
|
Adroddiad Dyfodol Gwaith PDF 262 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor wybodaeth am Gynllun Gwaith y
Dyfodol fel y manylir yn yr adroddiad a gylchredwyd. PENDERFYNWYD: nodi'r adroddiad. |
|
Adroddiad Disgresiynau'r Cynllun Pensiwn PDF 213 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor wybodaeth am yr Adroddiad
Disgresiynau Cynllun Pensiwn fel y manylir yn yr adroddiad a gylchredwyd. PENDERFYNWYD: cymeradwyo'r diwygiadau i'r Polisi Disgresiynau Cynllun Pensiwn
Llywodraeth Leol |
|
Protocol Gwirfoddol ar gyfer Cydnabod Gwasanaeth Parhaus PDF 403 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor wybodaeth am y Protocol
Gwirfoddol ar gyfer Cydnabod Gwasanaeth Parhaus fel y manylir yn yr adroddiad a
gylchredwyd. Holodd yr aelodau ynghylch y ffaith nad oedd yr
adroddiad yn sôn am y gwasanaeth sifil etc. ac roeddent am wybod a oedd y rhain
wedi'u heithrio neu pam na chawsant eu crybwyll yn yr adroddiad. Dywedodd
swyddogion y byddent yn rhoi adborth gyda'r wybodaeth gywir. Cyfeiriodd yr Aelodau at yr effaith ariannol, a
oedd Llywodraeth Cymru wedi cwblhau unrhyw holiaduron neu ymchwil. Dywedodd
swyddogion y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi gwneud ymchwil, byddent yn
cysylltu â nhw ac yn rhoi adborth i'r pwyllgor. Gofynnodd yr Aelodau am ymateb
ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru. PENDERFYNWYD: nodi'r adroddiad. |
|
Mynediad i gyfarfodydd That
pursuant to Section 100A(4) and (5) of the Local Government Act 1972, the
public be excluded for the following items of business which involved the
likely disclosure of exempt information as defined in Paragraph 12 and 15 of Part
4 of Schedule 12A of the above Act. Cofnodion: Yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn
cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym
Mharagraff 12 ac 15 Adran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod. |
|
Diweddariad am y Trafodaethau Cyflog Cenedlaethol, Medi 2021 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Nodi'r Trafodaethau Cyflog Cenedlaethol fel y manylir arnynt yn yr
adroddiad preifat a gylchredwyd. |