Lleoliad: Remotely Via Teams
Cyswllt: Naidine Jones
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Adroddiad Gwybodaeth am y Gweithlu Chwarter 4 2020/2021 PDF 66 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd yr Aelodau drosolwg o'r
adroddiad a ddosbarthwyd. Gofynnodd yr Aelodau am y costau tâl salwch ar
gyfer blwyddyn 2020/21. Dywedodd swyddogion y byddent yn trosglwyddo'r
wybodaeth hon i'r aelodau. Nododd yr Aelodau fod lefelau absenoldeb wedi gostwng
eleni, a gofynnwyd a oedd hyn oherwydd bod pobl yn gweithio gartref. Dywedodd
swyddogion, er ei bod yn wir bod cyfran sylweddol o'r staff yn gweithio gartref
a bod hyn yn ddi-os wedi cyfrannu at y gostyngiad mewn absenoldeb, mae cyfran
fwy wedi parhau i weithio yn y gweithle ac mewn cymunedau drwy gydol y
pandemig. Credir hefyd fod lefelau
hylendid uwch yn ogystal â lefelau uwch o ymgysylltu wedi cyfrannu at y lefelau
absenoldeb. Roedd yr Aelodau'n falch o weld bod lefelau'n gostwng, yn enwedig
mewn perthynas ag absenoldeb sy'n gysylltiedig â straen a gofynnwyd pa gymorth
a roddwyd i weithwyr mewn perthynas â'u hiechyd meddwl. Dywedodd swyddogion fod
y cyngor wedi ymrwymo i 'Amser i Newid Cymru' cyn y pandemig ac wedi gweithredu
Cynllun Gweithredu o fesurau i gefnogi iechyd meddwl a lles gweithwyr. Roedd hyn yn rhoi'r cyngor mewn sefyllfa gref
iawn wrth fynd i mewn i'r pandemig. Roedd y tîm wedi darparu ystod eang o
hyfforddiant e.e. cymorth cyntaf iechyd meddwl, sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar
etc. ac mae dolenni i sefydliadau a all helpu i gefnogi iechyd meddwl a lles ar
gael ar y rhyngrwyd i bawb ar draws yr awdurdod gael mynediad atynt. Gofynnodd
yr Aelodau sut y mesurwyd llwyddiant 'Amser i Newid Cymru'. Dywedodd swyddogion
fod arolwg wedi'i gynnal ar gyfer staff mewn swyddfeydd a oedd wedi bod yn
gweithio gartref yn ystod y pandemig, gydag amrywiaeth o gwestiynau'n ymwneud
ag iechyd meddwl. Rhoddir adborth i'r pwyllgor gyda'r canlyniadau pan fydd ar
gael. Bydd arolwg pellach o weithwyr rheng flaen yn cael ei gynnal dros yr haf.
Esboniodd swyddogion fod arolwg aelodau hefyd wedi'i gynnal a gyhoeddwyd gan y
Gwasanaethau Democrataidd a byddai'r canlyniadau'n cael eu rhannu â Phwyllgor y
Gwasanaethau Democrataidd. Mewn perthynas â'r data a ddarparwyd yn yr
adroddiad a oedd yn nodi bod costau cyflogeion yn cyfrif am 44.7% o'r gwariant
gros, gofynnodd yr Aelodau pam y cyfeiriodd y Datganiad Polisi Tâl a gyflwynwyd
yng nghyfarfod y cyngor ym mis Mawrth at ffigur o '47% o'r gwariant refeniw
gros'. Gofynnodd yr Aelodau pa un o'r ffigurau oedd yn gywir ar gyfer 2020/21.
Dywedodd swyddogion y byddent yn cadarnhau hyn ac yn rhoi gwybod i'r Pwyllgor. PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|||
Adroddiad Blynyddol Cynllun y Gweithlu 2020/2021 PDF 74 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd yr Aelodau drosolwg o'r
adroddiad a ddosbarthwyd. Llongyfarchodd yr Aelodau'r staff
ynglŷn â'r gwaith yr oeddent wedi ymdrin ag ef dros y flwyddyn ddiwethaf. PENDERFYNWYD: Dylid
nodi'r adroddiad. |
|||
Adroddiad Blynyddol Cynllun y Gweithlu 2020/2021 PDF 69 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd yr Aelodau drosolwg o'r
adroddiad a ddosbarthwyd. PENDERFYNWYD: Dylid nodi'r adroddiad. |
|||
Polisi Brechlyn Coronafeirws PDF 196 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd yr Aelodau drosolwg o'r
adroddiad a ddosbarthwyd. Nododd yr Aelodau y byddai staff yn
cael eu talu pe baent yn sâl gyda sgil-effeithiau'r brechlyn, a gofynnodd a
fyddai hynny'n cael ei gynnwys yn y ffigurau tâl salwch cyffredinol. Dywedodd
swyddogion na fyddai absenoldebau mewn perthynas â sgil-effeithiau'r brechlyn
yn cael eu cynnwys mewn tâl salwch, gan nad yw swyddogion am i unrhyw beth
ddylanwadu ar benderfyniad rhywun i gael y brechlyn ai peidio. Gofynnodd yr
Aelodau pam ei fod yn nodi y byddai angen i staff drafod cael y brechlyn gyda'u
rheolwyr. Esboniodd swyddogion mai dim ond os oedd pryderon ynghylch cael y
brechlyn y byddent yn cael trafodaethau. PENDERFYNWYD: Rhoddir y gymeradwyaeth honno i gyflwyno'r
Polisi Brechlyn Coronafeirws, fel a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. |
|||
Adolygiad o Gyfyngiadau Recriwtio PDF 218 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd yr Aelodau drosolwg o'r
adroddiad a ddosbarthwyd. PENDERFYNWYD: Rhoi cymeradwyaeth i gyflwyno'r adolygiad o'r
cyfyngiadau recriwtio, fel a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972, gwaherddir y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau
posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 12 ac 15 Adran 4
Atodlen 12A y Ddeddf uchod. Cofnodion:
|
|||
Diweddariad ar Drafodaethau Cyflog Cenedlaethol GLlL Cofnodion: Rhoddodd y Swyddogion drosolwg o'r
adroddiad a ddosbarthwyd i’r Aelodau.
|
|||
Adroddiad Taliad Honorariwm Cofnodion: Rhoddodd y Swyddogion drosolwg o'r
adroddiad a ddosbarthwyd i’r Aelodau. PENDERFYNWYD: Bod y Taliad Honorariwm, fel a nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd
yn cael ei gymeradwyo. |