Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo - Dydd Llun, 17eg Hydref, 2022 10.00 am

Lleoliad: Multi Location Hybrid Microsoft Teams/Council Chamber

Cyswllt: Sarah McCluskie 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol - Pwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo 7 Mehefin 2022 pdf eicon PDF 84 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2022.

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol - Is-bwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo 28 Mehefin 2022 pdf eicon PDF 518 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod blaenorol yr Is-bwyllgor Trwyddedu a Gamblo a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2022.

 

4.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol - Is-bwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo 11 Gorffennaf 2022 pdf eicon PDF 105 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod blaenorol yr Is-bwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2022.

 

5.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol - Is-bwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo 15 Awst 2022 pdf eicon PDF 178 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod blaenorol yr Is-bwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo a gynhaliwyd ar 15 Awst 2022.

 

6.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

7.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf

Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.

 

8.

Sefyllfa'r mân amrywiad o ran goruchwylwyr drysau pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd am awdurdodiad gan yr aelodau er mwyn i swyddogion benderfynu ar geisiadau mân amrywiad, fel a nodwyd yn y pecyn adroddiad a ddosbarthwyd, sy'n dileu amodau o drwyddedau mangre a thystysgrifau mangre clwb mewn perthynas â goruchwylwyr drysau sydd wedi'u cofrestru ag Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (SIA).

 

PENDERFYNWYD:

Cytunodd yr aelodau i GYMERADWYO'R adroddiad, a rhoi caniatâd i swyddogion ddefnyddio'r broses mân amrywiad a gwneud penderfyniadau o'r fath lle nad oes unrhyw gynrychiolwyr mewn cysylltiad â'r cais o unrhyw un o'r awdurdodau cyfrifol yn unig.