Lleoliad: Multi Location Hybrid Microsoft Teams/Council Chamber
Cyswllt: Sarah McCluskie
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol - Pwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo 7 Mehefin 2022 PDF 84 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod blaenorol y
Pwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2022. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol - Is-bwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo 28 Mehefin 2022 PDF 518 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod blaenorol yr Is-bwyllgor
Trwyddedu a Gamblo a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2022. |
|
Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod blaenorol yr
Is-bwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2022. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol - Is-bwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo 15 Awst 2022 PDF 178 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod blaenorol yr
Is-bwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo a gynhaliwyd ar 15 Awst 2022. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y
Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |
|
Sefyllfa'r mân amrywiad o ran goruchwylwyr drysau PDF 107 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnwyd am awdurdodiad gan yr aelodau er mwyn i
swyddogion benderfynu ar geisiadau mân amrywiad, fel a nodwyd yn y pecyn adroddiad
a ddosbarthwyd, sy'n dileu amodau o drwyddedau mangre a thystysgrifau mangre
clwb mewn perthynas â goruchwylwyr drysau sydd wedi'u cofrestru ag Awdurdod y
Diwydiant Diogelwch (SIA). PENDERFYNWYD: Cytunodd yr aelodau i GYMERADWYO'R
adroddiad, a rhoi caniatâd i swyddogion ddefnyddio'r broses mân amrywiad a
gwneud penderfyniadau o'r fath lle nad oes unrhyw gynrychiolwyr mewn cysylltiad
â'r cais o unrhyw un o'r awdurdodau cyfrifol yn unig. |