Cofnodion

Is-bwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo - Dydd Llun, 12fed Gorffennaf, 2021 10.01 am

Lleoliad arfaethedig: Committee Rooms 1/2 - Port Talbot Civic Centre

Cyswllt: Nicola Headon 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Application to vary a Premises Licence - Celtic Lodge

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r aelodau ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais canlynol ar gyfer amrywio Trwydded Mangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

Enw'r fangre

Celtic Lodge

Cyfeiriad y fangre

36 Westernmoor Road, Castell-nedd SA11 1BZ

Enw'r Ymgeisydd

The Celtic Lodge (Cimla) LTD

Cyfeiriad yr ymgeisydd

36 Westernmoor Road, Castell-nedd SA11 1BZ

Enw'r Goruchwyliwr Mangre Dynodedig

Caren Jones

 

Penderfynwyd: y byddai'r Is-bwyllgor yn cymeradwyo'r cais i amrywio'r Drwydded Mangre, yn destun amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu, ac fel yr ystyrir ei bod yn briodol ar gyfer hyrwyddo'r amcanion trwyddedu. Dyma'r amodau:

 

a.    Ni fydd y bar allanol (fel y nodir yn y cynllun sydd ynghlwm wrth y drwydded) yn cael ei ddefnyddio i werthu alcohol rhwng 10:00pm a 11:59am;

b.    Ni ddylid yfed alcohol mewn unrhyw ardal allanol rhwng 10:00pm a 11:59am;

c.     Bydd arwyddion amlwg yn cael eu codi yn yr ardd gwrw y tu allan gan nodi na fydd yr ardd gwrw yn cael ei defnyddio rhwng 10:00pm ac 11:59am; a

d.    Bydd arwyddion amlwg yn cael eu codi yn yr ardd gwrw y tu allan, gan ofyn i gwsmeriaid gadw lefelau sŵn mor isel â phosib a gadael mewn modd tawel a threfnus, er mwyn lleihau'r effaith ar breswylwyr lleol.