Lleoliad: Remotely Via Teams
Cyswllt: Tammie Davies
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Cais am Grant Trwydded Safle - Bar Chwaraeon 98, Pontardawe
Cofnodion:
Gofynnwyd i'r aelodau ystyried sylwadau a
dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais canlynol i gymeradwyo Trwydded Mangre o dan
Ddeddf Trwyddedu 2003:
Enw'r
fangre
|
Sports Bar
98
|
Cyfeiriad y
fangre
|
98 Stryd
Herbert, Pontardawe SA8 4ED.
|
Enw'r
ymgeisydd
|
JDS Team
Ltd.
|
Cyfeiriad
yr ymgeisydd
|
98 Stryd
Herbert, Pontardawe SA8 4ED
|
Enw'r
Goruchwyliwr Mangre Dynodedig
|
Shane
Steven Davies
|
PENDERFYNWYD:
|
Cymeradwyo'r cais am Drwydded Mangre - Sports Bar
98, a wnaed gan JDS Team, 98 Stryd Herbert, Pontardawe SA8 4ED, fel y nodwyd
yn yr adroddiad a ddosbarthwyd ac yn amodol ar yr amodau canlynol:
1. Ni fydd unrhyw adloniant rheoledig ar
ffurf cerddoriaeth fyw neu gerddoriaeth wedi'i recordio yn y fangre nes bod
deiliad y drwydded neu berchennog y fangre’n cael adroddiad gan ymgynghorydd
acwstig annibynnol ac yn rhoi'r holl fesurau rheoli a argymhellir yn yr
adroddiad hwnnw ar waith. Bydd yr ymgynghorydd acwstig yn aelod o'r Association
of Noise Consultants (ANC) ac yn aelod o'r Institute of Acoustics. Cyn cynnal asesiad sŵn at ddibenion
paratoi'r adroddiad, bydd yr ymgynghorydd yn cysylltu â'r awdurdod lleol ac
yn cytuno ar fethodoleg. Ni fydd cytundeb o'r fath, ar ran yr awdurdod lleol,
yn cael ei gadw'n ôl na'i ohirio'n afresymol. Rhaid cyflwyno copi o'r
adroddiad, ar ôl ei baratoi, sy'n tystio y cydymffurfiwyd â gofynion yr
adroddiad, i'r awdurdod lleol.
|
|