Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Multi Location Meeting - Hybrid Microsoft Teams/Council Chamber

Cyswllt: Sarah McCluskie 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod:-

 

Y Cynghorydd A Dacey

Parthed: Cais am roi Trwydded Mangre - The Burger Boyz, 37 Heol Fasnachol, Port Talbot SA13 1LG, Marcin Sadlos GMD, gan ei fod yn gyfaill i un o'r ymgeiswyr. Cadarnhaodd fod ei fudd yn bersonol a gadawodd y cyfarfod gyda hynny.

 

3.

Cais i amrywio Trwydded Mangre - The Burger Boyz, Taibach Port Talbot pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cais am Roi Trwydded Mangre - The Burger Boyz, Tai-bach, Port Talbot 

Gofynnwyd i'r aelodau ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais canlynol i gymeradwyo Trwydded Mangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

 

Enw'r fangre

The Burger Boyz

Cyfeiriad y fangre

37 Heol Fasnachol, Port Talbot SA13 1LG

Enw'r Ymgeisydd

Burger Boyzzz Limited

Cyfeiriad yr ymgeisydd

Tŷ Dewis, 16 Heol yr Orsaf

Port Talbot

SA13 1JB

Enw'r Goruchwyliwr Mangre Dynodedig

Marcin Sadlos

 

 

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo'r cais am roi Trwydded Mangre i The Burger Boyz, 37 Heol Fasnachol, Port Talbot SA13 1LG, Marcin Sadlo GMD, Tŷ Dewin, 16 Heol yr Orsaf, Port Talbot SA13 1JB, yn amodol ar amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu ac fel y'u hystyrir yn briodol ar gyfer hyrwyddo'r amcanion trwyddedu. Dyma'r caniatadau:

 

Oriau agor

Dydd Llun – dydd Sul, 0800 – 2200.

 

Cyflenwi alcohol (y tu mewn i'r fangre'n unig)

Dydd Llun – dydd Sul, 0800 i 2130.

 

Cerddoriaeth wedi'i Recordio - dan do

Dydd Llun – dydd Sul, 0800 i 2200.

 

Fel y manylwyd yn yr adroddiad a gylchredwyd, cytunwyd ar yr amodau a gynigiwyd gan yr heddlu gyda'r ymgeisydd.

 

4.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf

Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.