Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Nicola Headon
Rhif | Eitem | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Croeso a galw’r rhestr Cofnodion: Croesawodd y Cyng. Paddison bawb i'r cyfarfod a
galwyd yr enwau. |
|||||||||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|||||||||||
Cais i amrywio Trwydded Mangre - Afan Ales and Fine Wines Cofnodion: Ystyriodd yr Aelodau gais i amrywio trwydded mangre
o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 gan Mr. Davies, mewn perthynas ag Afan Ales and
Fine Wines.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cais Mr. David George Davies i amrywio'r drwydded mangre yn Afan
Ales and Fine Wines, 24 Heol yr Orsaf, Port Talbot SA13 1JB, o dan Ddeddf
Trwyddedu 2003 yn amodol ar yr amodau canlynol: ·
Caiff alcohol ei gyflenwi yn y
fangre i berson sy'n eistedd wrth fwrdd yn y fangre yn unig. ·
Penderfynir ar yr angen i
ddefnyddio llestri yfed gwydr gwydn neu blastig yn yr ardaloedd awyr agored yn
dilyn asesiad risg gan y Goruchwyliwr Safle Dynodedig (GSD), gan roi sylw
dyladwy i ffactorau lliniaru perthnasol digwyddiad o’r fath. ·
Bydd gwerthu alcohol ar y
safle, adloniant reoledig a lluniaeth gyda'r hwyr yn dod i ben am 23:00, a
gweithgareddau gwerthu oddi ar y safle yn unig bydd yn parhau ar ôl yr amser
hwn. |
|||||||||||
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn
unol ag Adran 100B(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw Eitemau Brys |