Agenda a Chofnodion

Is-bwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo - Dydd Llun, 7fed Chwefror, 2022 10.00 am

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Naidine Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso a galw’r rhestr

Cofnodion:

Croesawodd y Cyng. Paddison bawb i'r cyfarfod a galwyd yr enwau.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

3.

Cais i amrywio Trwydded Mangre - Kitty O'Sheas pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r aelodau ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais canlynol a gymeradwywyd o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

Enw'r fangre:

 

Kitty O’Shea’s

Cyfeiriad y fangre:

6 Stryd James, Pontardawe SA8 4LR

 

Enw'r Ymgeisydd:

Mr Peter William Rees a Mrs Eileen Rees

 

Cyfeiriad yr ymgeisydd:

6 Stryd James, Pontardawe SA8 4LR

 

Enw'r Goruchwyliwr Mangre Dynodedig:

Mrs Eileen Rees

 

 

PENDERFYNWYD:

Cymeradwyo'r cais i amrywio Trwydded Mangre ar gyfer Kitty O'Shea's, 6 Stryd James, Pontardawe SA8 4LR, a wnaed gan Mr Peter Williams Rees a Mrs Eileen Rees, gyda'r amodau canlynol.

 

·        Ni ddylid defnyddio'r ardd gwrw ar ôl 23:30 ac eithrio er mwyn cael mynediad at yr ardal smygu ddynodedig a'i defnyddio.

 

·        Ar ôl 23:30, gall uchafswm o 4 cwsmer yn unig fod yn yr ardal smygu ddynodedig.

 

·        Ni ddylid mynd ag unrhyw ddiodydd i'r ardal allanol ar ôl 23:30.

 

·        Rhaid i oruchwyliwr drws SIA fod yn bresennol a rhaid iddo reoli'r drws er mwyn galluogi pobl i fynd i'r ardal smygu ac oddi yno o 23:30 tan yr amser cau.

 

·        Rhaid rhoi arwyddion clir yn yr ardal smygu ddynodedig sy'n gofyn i gwsmeriaid fod yn dawel er mwyn lleihau'r effaith ar breswylwyr.

 

·        Rhaid gosod mecanwaith sy'n cau'r drws yn awtomatig ar y drws sy'n arwain at yr ardal smygu ddynodedig.

 

 

4.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.