Agenda a Chofnodion

Is-bwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo - Dydd Llun, 4ydd Hydref, 2021 10.01 am

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Naidine Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cais am Adolygu Trwydded Mangre - Yr Hen Feddygfa (The Surge)

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelodau gais i adolygu Trwydded Mangre ac ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais canlynol a wnaed o dan Ddeddf Trwyddedu 2003:

 

Enw'r fangre

Yr Hen Feddygfa (The Surge)

Cyfeiriad y fangre

74 Commercial Road, Tai-bach, Port Talbot SA13 1LR

Enw'r ymgeisydd

Mrs Leah Morgan

Cyfeiriad yr ymgeisydd

Iechyd yr Amgylchedd, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Y Ceiau, Ffordd Brunel SA11 2GG

Enw Deiliad y Drwydded

Mr Mark Cubberley

Enw'r Goruchwyliwr Mangre Dynodedig

Mr Mark Cubberley

 

PENDERFYNWYD: Penderfynodd yr Is-bwyllgor addasu amodau'r drwydded mangre fel y byddai'r amodau canlynol yn berthnasol

 

a.   Yn rhinwedd A177 (A) o Ddeddf Trwyddedu 2003 bydd amodau'r Drwydded Mangre sy'n ymwneud ag adloniant a reoleiddir mewn grym rhwng 8:00 a 23:00.

 

    1. Ni fydd unrhyw sŵn wedi'i chwyddleisio'n allanol (h.y. yn yr ardd gwrw, y maes parcio, nac yn unrhyw le arall y tu allan i gwrtil yr adeilad).

 

    1. Ni fydd adloniant rheoledig ar ffurf cerddoriaeth fyw neu gerddoriaeth wedi'i recordio yn y safle hyd nes y bydd deiliad y drwydded a/neu berchennog y safle yn comisiynu ymgynghorydd acwstig annibynnol i gynnal Asesiad Effaith Sŵn a bod y mesurau rheoli a argymhellir yn yr asesiad yn cael eu gweithredu.  Bydd copi o'r Asesiad Effaith Sŵn ynghyd â thystiolaeth ategol y cydymffurfiwyd â'r gofynion yn cael ei ddarparu i'r Awdurdod Lleol i'w gymeradwyo'n ysgrifenedig cyn y gellir cymeradwyo mangre adloniant a reoleiddir.

 

    1. Er mwyn cydymffurfio â'r uchod, rhaid bodloni'r meini prawf canlynol;

                                          i.    Rhaid i'r adroddiad gael ei gynnal gan ymgynghorydd acwstig a fydd yn aelod o Gymdeithas yr Ymgynghorwyr Sŵn ac yn aelod o'r Sefydliad Acwsteg.

                                         ii.    Bydd y fethodoleg ar gyfer yr asesiad sŵn yn cyd-fynd â chanllawiau cyfredol y DU a Safonau Prydeinig a bydd yr Awdurdod Lleol yn cytuno arnynt cyn i'r asesiad ddechrau.

                                        iii.    Cyn gweithredu'r mesurau rheoli, rhoddir cyfle i'r Awdurdod Lleol adolygu a rhoi sylwadau ar yr Asesiad Effaith Sŵn a'i argymhellion.

 

    1. Bydd Deiliad y Drwydded Mangre neu berson enwebedig yn cynnal arsylwadau sŵn rhagweithiol y tu allan i'r safle o leiaf unwaith yr awr wrth ddarparu adloniant a reoleiddir, ac yn cymryd unrhyw gamau adferol angenrheidiol. Bydd cofnod ysgrifenedig o asesiadau sŵn allanol rhagweithiol a, lle y bo'n berthnasol, gamau adferol a gymerir yn cael ei gadw am o leiaf 31 diwrnod i ddyddiad y cofnod diwethaf yn y cofnod a bydd y cofnod hwn ar gael i'w archwilio ar gais gan swyddogion awdurdodedig y cyngor bob amser mae'r safle ar agor.

 

    1. Ni fydd seinyddion wedi'u lleoli wrth fynedfa ac allanfa'r safle na'r tu allan i'r adeilad.

 

    1. Bydd pob ffenestr a drws allanol yn cael eu cadw ar gau ar ôl (21:00) o'r gloch neu ar unrhyw adeg pan fydd adloniant a reoleiddir yn digwydd, ac eithrio wrth i bobl fynd i mewn ac allan o'r fangre. (I ddosodli'r amod presennol sy'n ymwneud â ffenestri a drysau yn cael eu cau yn ystod cerddoriaeth wedi'i chwyddleisio)

 

    1. Rhaid i'r ardaloedd smygu, gan gynnwys yr ardd gwrw, gael blwch llwch/biniau addas,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1.