Lleoliad arfaethedig: Committee Rooms 1/2 - Port Talbot Civic Centre
Cyswllt: Nicola Headon
Rhif | Eitem | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Application to vary a Premises Licence - Celtic Lodge Cofnodion: Gofynnwyd i'r aelodau
ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais canlynol ar gyfer
amrywio Trwydded Mangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.
Penderfynwyd: y byddai'r Is-bwyllgor yn cymeradwyo'r cais i amrywio'r
Drwydded Mangre, yn destun amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu, ac fel yr
ystyrir ei bod yn briodol ar gyfer hyrwyddo'r amcanion trwyddedu. Dyma'r
amodau: a. Ni fydd y bar allanol (fel y nodir yn y cynllun
sydd ynghlwm wrth y drwydded) yn cael ei ddefnyddio i werthu alcohol rhwng
10:00pm a 11:59am; b. Ni ddylid yfed alcohol mewn unrhyw ardal allanol
rhwng 10:00pm a 11:59am; c. Bydd arwyddion amlwg yn cael eu codi yn yr ardd
gwrw y tu allan gan nodi na fydd yr ardd gwrw yn cael ei defnyddio rhwng
10:00pm ac 11:59am; a d. Bydd arwyddion amlwg yn cael eu codi yn yr ardd
gwrw y tu allan, gan ofyn i gwsmeriaid gadw lefelau sŵn mor isel â phosib
a gadael mewn modd tawel a threfnus, er mwyn lleihau'r effaith ar breswylwyr
lleol. |