Agenda a chofnodion drafft

Is-bwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo - Dydd Llun, 10fed Mawrth, 2025 10.00 am

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naidine Jones  E-bost: n.s.jones@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawyd pawb i'r cyfarfod gan y Cadeirydd, y Cynghorydd A J Richards.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

3.

Cais am ganiatáu Trwydded Mangre pdf eicon PDF 217 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r aelodau ystyried cais a wnaed gan y cynrychiolydd canlynol.

 

 

Enw'r fangre

Gnoll's Stores

Cyfeiriad y fangre

48 Heol Parc y Gnoll, Castell-nedd SA11 3DB

Enw'r ymgeisydd

Keerthi Sanaka

Cyfeiriad yr ymgeisydd

43 Pentwyn Avenue, Mountain Ash CF45 4YE

Enw'r Goruchwyliwr Mange Dynodedig

Sai Babu Gattam

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Ms Cath Cody, Swyddog y Gwasanaethau Rheoliadol Cyfreithiol, a chyfeiriodd at y sylwadau a wnaed gan Heddlu De Cymru, y Gwasanaeth Rheoliadol Cyfreithiol a Phobl Eraill.

 

Ni ddaeth yr Awdurdodau Cyfrifol na'r Bobl Eraill i'r cyfarfod.

 

Roedd asiant yr ymgeisydd, Mr Rajesh, ynghyd â'r Goruchwyliwr Mangre Dynodedig, Mr Gattam, yn bresennol, a gwnaethant gyflwyniadau ac ateb cwestiynau. 

 

Penderfyniad:

 

Er mwyn sicrhau hyrwyddo'r pedwar amcan trwyddedu, ac yn unol ag egwyddorion 'Datganiad o Bolisi Trwyddedu (2021)' y Cyngor a darpariaethau'r canllawiau statudol a roddwyd dan adran 182 Deddf Trwyddedu 2003, penderfynodd yr Is-bwyllgor gymeradwyo'r cais ar gyfer trwydded mangre newydd yn destun yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad y cytunwyd arnynt gan yr Ymgeisydd, Heddlu De Cymru a'r Gwasanaeth Rheoleiddiol Cyfreithiol.

 

Rhesymau:

I gyrraedd penderfyniad, daeth yr Is-bwyllgor i'r casgliadau canlynol:

  1. Yn gyffredinol, ystyriodd yr Is-bwyllgor fod y sylwadau a'r dystiolaeth oddi wrth yr Awdurdodau Cyfrifol, yr Ymgeisydd a'r Bobl Eraill yn gymhellgar ac yn berthnasol.

 

  1. Ystyriodd yr Aelodau fod yr amodau cadarn wedi'u cytuno â'r Awdurdodau Cyfrifol ac nad oedd y Drwydded yn achos unrhyw bryder iddynt. Roedd y Drwydded yn glynu wrth y polisi a'r arweiniad. 

 

  1. Y datrysiad gorau a mwyaf effeithlon oedd derbyn yr amodau a gynigiwyd gan yr Heddlu, y Gwasanaeth Rheoleiddiol Cyfreithiol a'r ymgeisydd.

 

  1. Ystyriodd yr Is-bwyllgor fod yr amcanion trwyddedu'n hollbwysig a bod yr Ymgeisydd wedi bodloni safonau'r amcanion hynny. Roedd yr amodau a gynigiwyd ac a atodwyd i'r Drwydded yn gymesur.

 

 

 

 

 

4.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

 

 

 

 

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.