Lleoliad: Multi-Location Meeting via Teams or Council Chamber, Port Talbot
Cyswllt: Sarah McCluskie
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd, y Cynghorydd A J Richards
bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Cais am adolygiad o drwydded safle PDF 308 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd: Penderfynodd
yr Is-bwyllgor, wrth benderfynu ar yr adolygiad:
Amod[au] I'w dileu
a. Sicrhau y cedwir pob ffenestr a drws ar gau wrth bod
cerddoriaeth wedi'i mwyhau yn cael ei chwarae. I'w hatodi
a. Ni chaniateir mynediad i'r fangre ar unrhyw adeg i
gwsmeriaid sy'n cario poteli neu wydrau agored neu rai a seliwyd. b. Ni chaniateir i gwsmeriaid fynd â photeli na gwydrau
agored na rhai a seliwyd y tu allan i'r fangre. c. Ni chaniateir mynediad neu fynediad am yr ail dro i'r
fangre 45 munud cyn yr oriau olaf a ganiateir. a. Bydd polisi ‘Her 25’ yn berthnasol a bydd angen Prawf Oed
gan unrhyw berson sy’n ymddangos yn iau na 25 oed sy’n ceisio prynu neu yfed
alcohol. Dylai'r modd gwirio fod ar ffurf dull adnabod sy’n cynnwys: llun o’r
person; ei ddyddiad geni; a marc holograffig, a dylid ei gyfyngu i;
i.
gynlluniau
prawf oedran achrededig PASS. e.e. Cerdyn y Dinesydd;
ii.
Proof GB;
iii.
Cerdyn
ffotograff, trwydded yrru neu basbort. b. Rhaid arddangos arwyddion mewn man amlwg yn y fangre, gan
ddilyn y polisi ‘Her 25’; c. Rhaid gosod system teledu cylch cyfyng ddigidol, neu
gynnal system bresennol, yn y fangre a fydd yn weithredol bob amser pan fydd y
fangre ar agor i'r cyhoedd ac yn gallu darparu lluniau o ansawdd tystiolaethol
ym mhob golau, yn enwedig adnabod wynebau. Rhaid i'r recordiadau teledu cylch
cyfyng gael eu hamseru a'u dyddio'n gywir, a'u cadw am gyfnod o dri deg un (31)
diwrnod, a rhaid trefnu eu bod ar gael i'w gweld gan yr Heddlu a/neu
swyddog(ion) awdurdodedig y cyngor, ar gais. Rhaid
i'r system gwmpasu'r ardaloedd canlynol:
i.
Perimedr
allanol y fangre;
ii.
Mynedfeydd
ac allanfeydd y fangre; a
iii.
Ardaloedd
cyhoeddus mewnol y fangre. ch. Bydd
aelod o staff o'r fangre, sy'n gyfarwydd â gweithredu'r system teledu cylch
cyfyng, ar y safle bob amser pan fydd y fangre ar agor i'r cyhoedd. Rhaid bod
yr aelod o staff yn gallu darparu copïau o'r recordiadau CCTV i'r Heddlu a/neu
swyddog(ion) awdurdodedig y Cyngor (gan gynnwys fideo, lluniau a/neu ddata)
mewn fformat y gellir ei recordio naill ai i USB a/neu gyfleuster tystiolaeth
ar-lein a/neu ddisg. d. Bydd yr holl recordiadau CCTV ar gael i'w gwylio yn syth
ar gais gan yr Heddlu a/neu swyddog(ion) awdurdodedig o'r Cyngor, a rhaid
darparu copi o fewn 120 awr neu 5 niwrnod yn dilyn cais cyfreithlon. dd. Rhaid i bolisi gwrth-gyffuriau y cytunwyd arno gyda'r Heddlu gael ei lunio a'i roi ar waith ar bob adeg wrth i'r fangre fod ar agor i'r cyhoedd. Bydd deilaid trwydded y fangre a/neu berson enwebedig yn gosod ac yn cynnal coffr cyffuriau diogel, yn unol â gofynion yr Heddlu. Darperir ar gyfer chwiliadau a ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Eitemau brys Any
urgent items at the discretion of the Chairperson pursuant to Section 100BA(6)(b) of the Local Government Act 1972 (as amended). Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i Gyfarfod - Gwahardd y Cyhoedd Yn
unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, bod y cyhoedd yn
cael eu gwahardd ar gyfer yr eitemau busnes a ganlyn a oedd yn ymwneud â
datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl pob tebyg fel y’i diffinnir ym Mharagraff
13 o Ran 4 o Atodlen 12A o’r Ddeddf. uchod ac yn unol â rheoliad 14 o Reoliadau
Deddf Trwyddedu 2003 (Gwrandawiad) 2005. Cofnodion: Penderfynwyd: Yn unol ag Adran 100B (2) a (7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a pharagraff
eithriedig 13 a grybwyllir isod o Ran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod. Dan holl
amgylchiadau'r achos, yn unol â Rheoliad 14 o Reoliadau (Gwrandawiad) 2005
Ddeddf Trwyddedu 2003, ystyrir bod budd y cyhoedd ynghylch cynnal yr eithriad
yn drech i fudd y cyhoedd ynghlych datgelu'r wybodaeth. |
|
Atodiad 8 - Esemptiad o dan baragraff 13 Rhan 4 o Atodlen 12A 100BA(2) a (7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Cofnodion: Atodiad 8 o'r adroddiad hwn yn
unig: Yn unol ag Adran 100B (2) a (7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a
pharagraff eithriedig 13 a grybwyllir isod o Ran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf
uchod. Dan holl amgylchiadau'r achos, yn unol â Rheoliad 14 o Reoliadau (Gwrandawiad)
2005 Ddeddf Trwyddedu 2003, ystyrir bod budd y cyhoedd ynghylch cynnal yr
eithriad yn drech i fudd y cyhoedd ynghlych datgelu'r wybodaeth. |